Eithr yr awrhon, yr eglurwyd cyfiawnâad yr hwn sydd o Dduw, heb gyfraith, yn cael dwyn tystiolaeth iddo gàn y gyfraith a’r proffwydi: sef cyfiawnâad yr hwn sydd o Dduw, drwy ffydd yn Iesu Grist, i bawb, ac àr bawb à gredant; canys nid oes gwahaniaeth. Oblegid pawb, wedi pechu a myned yn ol am ogoniant Duw, á gyfiawnêir yn rad drwy ei radioni ef, drwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu: yr hwn á osododd Duw allan yn gymmodfa drwy ffydd yn ei waed ef, èr arddangosiad o’i gyfiawnder ei hun wrth fyned heibio i’r pechodau à wnaethid o’r blaen, drwy ddyoddefgarwch Duw: èr arddangosiad, hefyd, o’i gyfiawnder y pryd hwn, fel y byddai efe yn gyfiawn pan yn cyfiawnâu y neb sydd o ffydd Iesu. Pa le, gàn hyny, y mae y gorfoledd? Efe á gauwyd allan. Drwy ba gyfraith? ai cyfraith gweithredoedd? Nage; ond drwy gyfraith ffydd. Yr ydym yn penderfynu, gàn hyny, mai drwy ffydd y cyfiawnêir dyn yn annibynol àr gyfraith gweithredoedd. Ai i’r Iuddewon y mae efe yn Duw yn unig, a nid i’r Cenedloedd hefyd? Ië, i’r Cenedloedd hefyd. Gan mai un Duw sydd, efe á gyfiawnâa yr enwaediad wrth ffydd, a’r dienwaediad drwy y ffydd. A ydym ni, wrth hyny, yn gwneuthur cyfraith yn ddiddefnydd drwy y ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnâu cyfraith.