Rhufeiniaid 3:9-20
Rhufeiniaid 3:9-20 CJW
Beth, ynte? A ydym ni yn rhagori? Nac ydym ddim. Canys ni á brofasom o’r blaen bod pawb, yn Iuddewon a Chenedloedd, dàn bechod. Megys y mae yn ysgrifenedig, “Nid oes neb cyfiawn; nae oes un. Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw. Gŵyrasant oll: aethant i gyd yn anfuddiol. Nid oes neb yn gwneuthur daioni; nac oes, cymaint ag un. Bedd agored yw eu ceg; â’u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sy dàn eu gwefusau: y rhai y mae eu genau yn llawn melldith a chwerwedd. Buan yw eu traed i dywallt gwaed. Dystryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd; ond ffordd tangnefedd nid adnabuant. Nid oes ofn Duw o flaen eu llygaid.” Yn awr, ni á wyddom am ba bethau bynag y mae y gyfraith yn eu dywedyd, mai wrth y rhai sy dàn y gyfraith y mae hi yn eu dywedyd; fel y cauer pob genau, ac y byddai yr holl fyd yn agored i gosbedigaeth gèr bron Duw. Am hyny, drwy gyfraith gweithredoedd, ni chyfiawnêir un cnawd yn ei olwg ef; canys drwy gyfraith y mae adnabod pechod.