Rhufeiniaid 4:19-25
Rhufeiniaid 4:19-25 CJW
Ac efe yn ddiegwan o ffydd, nid ystyriodd ei gorff ei hun, yr hwn oedd eisoes wedi marw eiddo, ac efe yn nghylch cann mlwydd oed; na marweidd‐dra bru Sara. Am hyny, yn erbyn addewid Duw, drwy annghrediniaeth, nid ymddadleuodd efe; eithr efe á nerthwyd mewn ffydd, gàn roddi gogoniant i Dduw. Ac yn hollol sicr ganddo, am yr hyn à addawid, ei fod ef yn alluog iddei gyflawni hefyd. Ac am hyny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Eithr nid ysgrifenwyd hyny èr ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif felly iddo; ond èr ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, sef i’r rhai sydd yn credu yn yr hwn à gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw; yr hwn á draddodwyd dros ein pechodau ni, ac á gyfodwyd i’n cyfiawnâu ni.