Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Rhufeiniaid 4

4
1-12Pa beth, gàn hyny, á ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tad ni ei gael, o ran y cnawd? canys os Abraham á gyfiawnâwyd drwy weithredoedd, efe á allai ymffrostio; ond nid gèr bron Duw. Canys pa beth á ddywed yr ysgrythyr? “A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.” Yn awr, i’r neb sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gobr megys rhadrodd, ond megys dyled. Eithr i’r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnâu yr annuwiol, ei ffydd ef á gyfrifir yn gyfiawnder. Megys y mae Dafydd, hefyd, yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gàn ddywedyd, “Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau. Dedwydd yw y gwr yr hwn ni chyfrif yr Arglwydd bechod iddo.” A ydyw y dedwyddwch hwn, gàn hyny, yn dyfod àr yr enwaediad yn unig, ynte àr y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder. Pa fodd, gàn hyny, y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynte yn y dienwaediad? Nid yn yr enwaediad, ond yn y dienwaediad. Ac efe á gymerodd nod yr enwaediad fel insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad; fel y byddai efe yn dad i bob credadyn dienwaededig, fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd. Ac yn dad i’r rhai enwaededig, y rhai ydynt nid yn unig yn enwaededig, ond hefyd yn cerdded llwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo tra mewn dienwaediad.
13-18Canys yr addewid i Abraham, y byddai efe yn etifedd byd, ni ddaeth iddo ef, neu iddei had, drwy gyfraith; ond drwy gyfiawnder ffydd. Canys os y rhai à sydd o gyfraith yw yr etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a’r addewid yn ddirym. Yn mhellach, y mae y gyfraith yn peri digofaint: ond lle nid oes cyfraith, nid oes trosedd chwaith. Am hyny, drwy ffydd y mae, fel y byddai drwy radioni, fel y byddai yr addewid yn sicr i’r holl had: nid yn unig i’r hwn sydd o’r gyfraith; ond hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tad ni oll: (megys y mae yn ysgrifenedig, “Yn ddiau, myfi á’th osodais yn dad llawer o genedloedd,”) yn ngwydd yr hwn y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywâu y meirw, ac yn galw y pethau nid ydynt, fel pe byddent. Efe, yn erbyn gobaith, á gredodd dàn obaith, y byddai efe yn dad cenedloedd lawer, yn ol yr hyn à ddywedasid, “Felly y bydd dy had di.”
19-25Ac efe yn ddiegwan o ffydd, nid ystyriodd ei gorff ei hun, yr hwn oedd eisoes wedi marw eiddo, ac efe yn nghylch cann mlwydd oed; na marweidd‐dra bru Sara. Am hyny, yn erbyn addewid Duw, drwy annghrediniaeth, nid ymddadleuodd efe; eithr efe á nerthwyd mewn ffydd, gàn roddi gogoniant i Dduw. Ac yn hollol sicr ganddo, am yr hyn à addawid, ei fod ef yn alluog iddei gyflawni hefyd. Ac am hyny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Eithr nid ysgrifenwyd hyny èr ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif felly iddo; ond èr ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, sef i’r rhai sydd yn credu yn yr hwn à gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw; yr hwn á draddodwyd dros ein pechodau ni, ac á gyfodwyd i’n cyfiawnâu ni.

Právě zvoleno:

Rhufeiniaid 4: CJW

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas