Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Rhufeiniaid 5

5
1-11Am hyny, a nyni gwedi ein cyfiawnâu drwy ffydd, y mae genym heddwch tuagat Dduw, drwy ein Harglwydd Iesu Grist – drwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa, drwy ffydd, i’r rhad hwn yn yr hwn yr ydym yn sefyll, ac yn gorfoleddu yn ngobaith gogoniant Duw: a nid felly yn unig, eithr yr ydym yn gorfoleddu hyd y nod mewn gorthrymderau; gàn wybod bod gorthrymder yn peri dyoddefgarwch; a dyoddefgarwch, gymeradwyaeth; a chymeradwyaeth, obaith. A’r gobaith hwn nid yw yn dwyn cywilydd; am fod cariad Duw gwedi ei dywallt àr led yn ein calonau ni, drwy yr Ysbryd Glan yr hwn á roddwyd i ni. Heblaw hyny, Crist, a nyni eto yn weiniaid, yn yr amser gosodedig, á fu farw dros yr annuwiol. Braidd, yn wir, y bydd neb farw dros un cyfiawn, èr ysgatfydd, dros y da, y beiddiai un farw hefyd. Eithr y mae Duw yn arganmol ei gariad tuag atom ni; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw drosom ni. Mwy ynte o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnâu drwy ei waed ef, yn hachubir rhag digofaint drwyddo ef. Canys os, a nyni yn elynion, yn cymmodwyd â Duw, drwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer, a nyni gwedi ein cymmodi, yn hachubir drwy ei fywyd ef. A nid felly yn unig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw, drwy ein Harglwydd Iesu Grist, drwy yr hwn yr awrhon y derbyniasom y cymmod hwn.
12-21Am hyny, megys y daeth pechod i’r byd drwy un dyn, yn yr hwn y pechodd pawb, a marwolaeth, drwy bechod; felly y daeth marwolaeth àr bob dyn. (Canys yr oedd pechod yn y byd hyd y gyfraith; eithr ni chyfrifir pechod, pryd nad oes cyfraith. Er hyny teyrnasodd marwolaeth o Adda, hyd Foses, hyd y nod àr y rhai ni phechasent, yn ol dull trosedd Adda, yr hwn sy gysgod o’r hwn oedd i ddyfod. Eithr nid megys y camwedd, felly y mae y dawn hefyd; canys os drwy gamwedd yr un, y bu feirw y llawer; mwy o lawer yr amlâodd rhad Duw, a’r dawn drwy rad yr un dyn, Iesu Grist, i’r llaweroedd. A nid megys drwy un à bechodd, y mae y dawn; canys y ddedfryd á ddaeth o un i golledigaeth; eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnâad. Canys os drwy gamwedd yr un, y teyrnasodd marwolaeth drwy yr un; mwy o lawer y caiff y rhai à dderbyniant yr helaethrwydd o rad, ac o ddawn cyfiawnâad, deyrnasu mewn bywyd, drwy yr un – Iesu Grist.) Am hyny, megys drwy un camwedd, y daeth y ddedfryd àr bob dyn i golledigaeth; felly, hefyd, drwy un weithred o ufydd‐dod, y daeth y ddedfryd àr bob dyn i gyfiawnâad bywyd. Oblegid megys drwy anufydd‐dod yr un dyn, y gwnaethwyd y llawer yn bechaduriaid; felly drwy ufydd‐dod yr un, y gwneir y llawer yn gyfiawn. Yn mhellach, y gyfraith á ddaeth i fewn, fel yr amlâai y camwedd; eithr lle yr amlâodd y pechod, y tra‐amlâodd y rhad – fel megys y teyrnasodd pechod drwy farwolaeth, felly hefyd y teyrnasai y rhad drwy gyfiawnâad i fywyd tragwyddol, drwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Právě zvoleno:

Rhufeiniaid 5: CJW

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas