Rhufeiniaid 4:13-18
Rhufeiniaid 4:13-18 CJW
Canys yr addewid i Abraham, y byddai efe yn etifedd byd, ni ddaeth iddo ef, neu iddei had, drwy gyfraith; ond drwy gyfiawnder ffydd. Canys os y rhai à sydd o gyfraith yw yr etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a’r addewid yn ddirym. Yn mhellach, y mae y gyfraith yn peri digofaint: ond lle nid oes cyfraith, nid oes trosedd chwaith. Am hyny, drwy ffydd y mae, fel y byddai drwy radioni, fel y byddai yr addewid yn sicr i’r holl had: nid yn unig i’r hwn sydd o’r gyfraith; ond hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tad ni oll: (megys y mae yn ysgrifenedig, “Yn ddiau, myfi á’th osodais yn dad llawer o genedloedd,”) yn ngwydd yr hwn y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywâu y meirw, ac yn galw y pethau nid ydynt, fel pe byddent. Efe, yn erbyn gobaith, á gredodd dàn obaith, y byddai efe yn dad cenedloedd lawer, yn ol yr hyn à ddywedasid, “Felly y bydd dy had di.”