Ond yr archoffeiriad á gyfododd, a’r holl rai oedd gydag ef, yr hon yw plaid y Saduwcëaid, ac á lanwyd o eiddigedd, ac á ddodasant eu dwylaw àr yr Apostolion, ac á’u rhoisant yn y carchar cyffredin. Ond cènad i’r Arglwydd o hyd nos á agorodd ddrysau y carchar, a gwedi iddo eu dwyn hwynt allan, á ddywedodd, Ewch, sefwch a llefarwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau y fuchedd hon. A gwedi clywed hyn, hwy á aethant yn fore iawn i’r deml, ac á athrawiaethasant. Ond wedi dyfod yr archoffeiriad, a’r rhai oedd gydag ef, hwy á alwasant yn nghyd y Sanhedrim, sef holl Senedd plant Israel, ac á ddanfonasant i’r carchar iddeu dwyn hwy gèr bron. Ond pan ddaeth y swyddogion, ni chawsant hwynt yn y carchar. Wedi iddynt ddychwelyd, gàn hyny, hwy á fynegasant, gàn ddywedyd, Ni á gawsom y carchar, yn wir, wedi ei gau yn y modd diogelaf, a’r ceidwaid yn sefyll o flaen y drysau; eithr pan agorasom, ni chawsom neb i fewn. A gwedi i’r archoffeiriad, a chadben gwarchodlu y deml, a’r offeiriaid pènaf, glywed y geiriau hyn, ammheu á wnaethant yn eu cylch hwy, beth á allai hyn fod. Ond daeth un, ac á fynegodd iddynt, Wele, y mae y gwŷr à ddodasoch chwi yn ngharchar, yn sefyll yn y deml, ac yn dysgu y bobl. Yna y cadben, gyda ’r swyddogion, á aeth ac á’u dyg hwynt, (nid drwy drais; oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llabyddio:) a gwedi eu dwyn, hwy á’u gosodasant o flaen y Sanhedrim. A’r archoffeiriad á ofynodd iddynt, gàn ddywedyd, Oni orchymynasom ni i chwi yn gaeth, na ddysgech yn yr enw hwn? ac wele yr ydych wedi llenwi Caersalem â’ch athrawiaeth, ac á fỳnech ddwyn arnom ni waed y dyn hwn. Eithr Pedr a’r Apostolion ereill á atebasant, ac á ddywedasant, Rhaid yw ufyddâu i Dduw yn fwy nag i ddynion. Duw ein tadau ni á gyfododd i fyny Iesu, yr hwn á laddasoch chwi, drwy ei grogi àr bren: HWN á ddyrchafodd Duw àr ei ddeheulaw yn Dywysog ac Iachawdwr, i roddi diwygiad i Israel, a maddeuant pechodau. A nyni ydym ei dystion ef o’r pethau hyn, a’r Ysbryd Glan hefyd, yr hwn á roddes Duw i’r rhai à ymostyngant iddei lywodraeth ef.