Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Gweithredoedd 5:33-42

Gweithredoedd 5:33-42 CJW

A phan glywsant hwy hyn, ymgynddeiriogi á wnaethant, ac ymgynghori am eu lladd hwynt. Ond rhyw Pharisead yn y Sanhedrim, enw yr hwn oedd Gamaliel, dysgawdwr o’r gyfraith, mewn bri mawr gàn yr holl bobl, á gododd i fyny, ac á archodd ỳru yr Apostolion allan am ychydig amser: ac efe á ddywedodd wrthynt, Wyr Israel, edrychwch atoch eich hunain beth yr ydych àr fedr ei wneuthur i’r dynion hyn. Ryw amser yn ol, cyfododd Theudas, gàn gymeryd arno fod yn ddyn nodedig: wrth yr hwn yr ymlynodd rhifedi o ddynion, yn nghylch pedwar cant; yr hwn á laddwyd; a phawb à wrandawsant arno, á wasgarwyd, ac á aethant yn ddiddym. Ar ei ol ef y cyfododd Iuwdas y Galilead, yn nyddiau y cofrestriad, ac á dynodd liaws o bobl àr ei ol, ac yntau á ddarfu am dano; a phawb à wrandawsant arno, á wasgarwyd. Ac yn awr, yn yr achos presennol, yr wyf yn dywedyd i chwi, Peidiwch â’r dynion hyn, a gadewch lonydd iddynt; rhag y ceir chwi ond odid yn ymladdwyr yn erbyn Duw; oblegid os yw yr amcan a’r gwaith hwn o ddynion, fe’i diddymir; ond os o Dduw y mae, nis gellwch chwi eu diddymu hwynt. Hwythau á roisant i fyny iddo; a gwedi iddynt alw yr Apostolion i fewn, a’u fflangellu, hwy á orchymynasant iddynt na lefarent yn enw Iesu, ac á’u gollyngasant ymaith. A hwy á ymadawsant o wydd y Sanhedrim, yn llawen am eu cyfrif yn deilwng i ddyoddef anmharch o achos ei enw ef. A pheunydd yn y deml, ac o dŷ i dŷ, ni pheidiasant a dysgu a chyhoeddi y newydd da, mai Iesu yw y Messia.