Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Gweithredoedd 5:1-11

Gweithredoedd 5:1-11 CJW

gyda Sapphira ei wraig, á werthodd dir, ac á ddarnguddiodd beth o’r gwerth, a’i wraig hefyd yn gyfrin ag ef; a gwedi iddo ddwyn rhyw gyfran, efe á’i gosododd wrth draed yr Apostolion. Eithr Pedr á ddywedodd, Ananias, paham y llanwodd Satan dy galon di i gynnyg twyllo yr Ysbryd Glan, ac i ddarnguddio peth o werth y tir? Tra yr ydoedd yn aros, onid yn eiddot ti yr oedd yn aros? a gwedi ei werthu, onid oedd wrth dy drefniad dy hun? Paham y gadewaist i’r peth hwn ddyfod i dy galon? Ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw. Ac Ananias yn clywed y geiriau hyn, á syrthiodd i lawr, ac á drengodd: a daeth ofn mawr àr bawb à glywsant y pethau hyn. Yna y cyfododd y gwŷr ieuainc, ac á’i rhwymasant ef i fyny, a gwedi ei ddwyn ef allan, hwy á’i claddasant. Wedi yspaid tua thair awr, ei wraig hefyd, heb wybod beth á wnaethid, á ddaeth i fewn. A Phedr á ddywedodd wrthi, Dywed di i mi, ai èr cymaint y gwerthasoch chwi y tir? Hithau á ddywedodd, Ië, èr cymaint. Yna y dywedodd Pedr wrthi, Paham y cyttunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd? Wele draed y rhai à fuont yn claddu dy wr di, wrth y drws, a hwy á’th ddygant dithau allan. Ac yn y màn hi á syrthiodd wrth ei draed ef, ac á drengodd; a’r gwŷr ieuainc wedi dyfod i fewn, á’i cawsant hi yn farw, a gwedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy á’i claddasant hi yn ymyl ei gŵr. A daeth ofn mawr àr yr holl gynnulleidfa, ac àr bawb à glywsant y pethau hyn.