Ac yn y dyddiau hyn, a’r dysgyblion yn amlâu, bu grwgnach gàn yr Hèleniaid yn erbyn yr Hebreaid, am esgeuluso eu gwragedd gweddwon hwy yn y gweinyddiad peunyddiol. A’r deuarddeg, wedi galw yn nghyd y lliaws dysgyblion, á ddywedasant, Nid yw gymesur i ni adael gair Duw i wasanaethu byrddau; am hyny, frodyr, edrychwch yn eich plith eich hunain am seithwyr da eu gair, yn llawn ysbryd a doethineb, y rhai á osodom àr hyn o orchwyl; ond nyni á ddyfalbarâwn mewn gweddi, ac yn ngweinidogaeth y gair. A boddlawn fu yr ymadrodd gàn yr holl liaws, a hwy á etholasant Stephan, gŵr llawn o ffydd ac o’r Ysbryd Glan, a Phylip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicholas, troedigyn o Antiochia; y rhai á osodasant hwy gèr bron yr Apostolion; a hwythau, gwedi gweddio, á osodasant ddwylaw arnynt hwy. A gair Duw á gynnyddodd; a rhifedi y dysgyblion yn Nghaersalem á amlàodd yn ddirfawr; a lliaws mawr o’r offeiriaid á ufyddâasant i’r ffydd.