Dyma y Moses hwnw à ddywedodd i feibion Israel, “Proffwyd, fel myfi, á gyfyd yr Arglwydd Dduw i chwi o blith eich brodyr; arno ef y gwrandewch.” Hwn yw efe à fu yn y gynnulleidfa yn y diffeithwch, gyda ’r angel à ymddyddanodd ag ef àr fynydd Sinai; ac â’n tadau ni, yr hwn á dderbyniodd yr oraglau bywiol, iddeu rhoddi i ni. Yr hwn ni fynai ein tadau fod yn ufydd iddo; eithr cilgwthiasant ef, ac yn eu calonau á droisant yn ol drachefn i’r Aifft; gàn ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i’n blaenori; oblegid am y Moses yma, yr hwn á’n dyg ni i fyny allan o dir yr Aifft, ni wyddom ni beth á ddaeth o hono. A hwy á wnaethant lo yn y dyddiau hyny, ac á offrymasant aberth i’r eilun, ac á ymlawenâasant yn ngweithredoedd eu dwylaw eu hunain. Felly y troes Duw, ac â’u rhoddes hwy i fyny i addoli llu y nef; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi, “O dŷ Israel, á offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch? Ac àr ol hyny y cymerasoch i fyny babell Moloch, a seren eich duw Remphan, lluniau à wnaethoch iddeu haddoli; ac, am hyny, mi á’ch symudaf chwi tuhwnt i Fabilon.” Pabell y dystiolaeth oedd gyda ’n tadau yn yr anialwch, megys y trefnasai yr hwn à ddywedai wrth Foses, am ei gwneuthur yn ol y cynllun à welsai: yr hon hefyd y darfu i’n tadau ni gwedi ei derbyn, ei dwyn i fewn gydag Iosuwa i berchenogaeth y cenedloedd; y rhai á ỳrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd; yr hwn á gafodd radgarwch gèr bron Duw, ac á ddeisyfodd gael preswylfod i Dduw Iacob. Eithr Solomon á adeiladodd dŷ iddo ef. Er hyny nid yw y Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylaw: megys y dywed y proffwyd, “Y nef yw fy ngorsedd, a’r ddaiar yw fy nhroedfainc; pa dŷ á adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu, pa beth yw lle fy ngorphwysfa? Onid fy llaw i á wnaeth y pethau hyn oll?”