Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Gweithredoedd 7:51-60

Gweithredoedd 7:51-60 CJW

O! rai gwargaled, a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu yr Ysbryd Glan; fel eich tadau, felly chwithau. Pa un o’r proffwydi ni ddarfu i’ch tadau chwi ei erlid? do, hwy á laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn hwnw, i’r hwn yr awrhon yr aethoch chwi yn fradwyr a llofruddion. Y rhai á dderbyniasoch y gyfraith drwy restrau o gènadon, a nis cadwasoch hi. A gwedi iddynt glywed y pethau hyn, hwy á ffromasant yn eu calonau, ac á ysgyrnygasant ddannedd arno. Ac efe yn gyflawn o’r Ysbryd Glan, á edrychodd yn ddyfal tua ’r nef; ac á welodd ogoniant Duw, ac Iesu yn sefyll àr ddeheulaw Duw. Ac efe á ddywedodd, Wele, mi á welaf y nefoedd yn agored, a Mab y Dyn yn sefyll àr ddeheulaw Duw. Hwythau gàn waeddi â llef uchel, á gauasant eu clustiau, ac á ruthrasant yn unfryd arno. A gwedi iddynt ei fwrw ef allan o’r ddinas hwy á’i llabyddiasant: a’r tystion á ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc, à elwid Saul. A hwy á labyddiasant Stephan, yn aralw ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd. A gwedi gostwng àr ei liniau efe á lefodd â llef uchel, O Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. A gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á hunodd.