A thra yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid, cadben gwarchodlu y deml, a’r Saduwceaid, á ddaethant arnynt hwy; yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu y bobl, ac yn cyhoeddi, drwy Iesu, yr adgyfodiad o feirw. A hwy á osodasant ddwylaw arnynt, ac á’u dodasant mewn dalfa hyd dranoeth; canys yr oedd hi yn awr yn hwyr. Eithr llawer o’r rhai à glywsent y gair, á gredasant; a rhifedi y gwyr oedd yn nghylch pumm mil. A thranoeth eu llywodraethwyr, eu henuriaid, a’u hysgrifenyddion, á ymgynnullasant yn Nghaersalem: ac Annas, yr archoffeiriad, a Chaiaphas; Iöan hefyd, ac Alecsander, a chymaint ag oedd o genedl yr archoffeiriad. A gwedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy á ofynasant, Drwy ba awdurdod, neu yn mha enw y gwnaethoch chwi hyn? Yna Pedr, yn llawn o’r Ysbryd Glan, á ddywedodd wrthynt, Benaethiaid y bobl, a henuriaid Israel, od ydys yn ein holi ni heddyw yn nghylch y lles à wnaed i’r dyn diallu, pa fodd yr iachawyd ef; bydded hysbys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai drwy enw Iesu Grist o Nasareth, yr hwn á groeshoeliasoch chwi, yr hwn á gyfododd Duw o feirw; ïe, drwy HWNW y mae hwn yn sefyll yn iach gèr eich bron chwi. Hwn yw y maen à lyswyd genych chwi yr adeiladwyr, yr hwn á wnaed yn ben i’r gongl: a nid oes iechydwriaeth yn neb arall; canys nid oes enw arall dàn y nef wedi ei roddi yn mhlith dynion, drwy yr hwn y gallwn ni fod yn gadwedig.