Iöb 29
29
XXIX.
1A chwannegodd Iöb gymmeryd i fynu ei ddammeg, a dywedodd,
2O na bawn i fel (yn) y misoedd gynt,
Fel yn y dyddiau yr oedd Duw yn fy nghadw,
3 # 29:3 18:6. Pryd y disgleiriai Ei lamp Ef uwch fy mhen,
# 29:3 ffafr Duw yn ei gyfarwyddo mewn peryglon. (Ac) yn Ei oleuni Ef y rhodiwn (trwy) dywyllwch,
4Megis yr oeddwn yn nyddiau fy #29:4 tymmor ffrwythaunyhewydd,
Gyda chynghor Duw uwch ben fy mhabell,
5Pryd etto (yr oedd) yr Hollalluog gyda mi,
Ac o’m hamgylch (yr oedd) fy rhai ieuaingc,
6Pryd yr #29:6 =nofio mewn cyfoethymdrochai fy nghamrau mewn hufen,
A’r #Deut. 32:13.graig a dywalltai wrth fy ymyl afonydd o olew;
7Pan #29:7 yn y wlad yr oedd ei babellawn allan at y porth i’r dref, #Actau 17:17.Ac yn y marchnadle y parottôwn fy eisteddfa,
8Fe welai ’r ieuaingc fi ac #29:8 =cilient yn olymguddient,
A’r penllwydion a gyfodent ac a arhosent yn sefyll,
9Pennaethiaid a ymattalient yn (eu) hymadroddion,
A’ (u) llaw a osodent hwy ar eu genau;
10Llais y pendefigion a ymguddiai,
A’u tafod a lynai wrth daflod eu genau;
11Canys y glust a glywai, ac a’m galwai yn wynfydedig,
A’r llygad a welai, ac a dystiolaethai am danaf,
12Am i mi waredu ’r truan a waeddai,
A’r amddifad, a’r (hwn) ni (byddai) gynnorthwywr iddo:
13Bendith yr andwyedig a ddeuai arnaf,
A chalon y weddw a lawenhâwn i;
14Â chyfiawnder yr ymwisgais, a hi a #29:14 =cyfanneddodd ynddoymwisgodd â minnau,
Megis #29:14 addurn pendefigioncwnsallt a meitr (oedd) fy marn i;
15Llygaid oeddwn i’r dall,
A thraed i’r cloffion myfi (oeddwn);
16Tad (oeddwn — ïe) myfi, i’r rhai anghenog,
A dadl (y dyn) nad adwaenwn a holwn i;
17Chwilfriwiwn gi-ddannedd yr anghyfiawn,
Ac allan o’i ddannedd ef y cipiwn yr ysglyfaeth.
18Yna y dywedais “Ynghŷda ’m nyth y trengaf,
Ac fel y Phœnix#29:18 Chwedl yr Aiphtiaid oedd, y byddai’r aderyn ffugiol hwn yn cael ei ysu ynghyda ’i nyth gan dân: rhoddid iddo hir oes. yr amlhâf fy nyddiau;
19Fy ngwreiddyn yn agored wrth y dyfroedd,
A’r gwlith sy’n achos ar fy mrig;
20Fy ngogoniant yn îr gyda mi,
A’m bwa yn fy llaw sy’n adnewyddu (nerth).”
21 # 29:21 dychwelir at adn. 10. Arnaf y gwrandawent hwy, disgwylient,
Distawent wrth fy nghynghor;
22Ar ol fy lleferydd, ni chwannegent hwy,
Ac arnynt y #29:22 fel gwlaw.diferai fy ymadrodd;
23A#29:23 Fel y mae ’r ddaear, neu ’r cnydau ym mis Mawrth neu Ebrill (pan fo’nt ar fedr addfedu) yn chwennych y diweddar-wlaw, felly y pendefigion, &c. a chwennychent ei eiriau ef. hwy a ddisgwylient am danaf fel am wlaw,
A’u genau a ledent hwy (fel) am y diweddar-wlaw;
24 # 29:24 yn eu dyryswch hwy. Iöb yn siriol ac yn eu cyfarwyddo. Gwenwn arnynt, a hwythau yn anymddiriedus,
A llewyrch fy ngwynebpryd, ni wnaent iddo syrthio;
25Dewiswn eu ffordd ac eisteddwn yn ben,
A thrigwn fel brenhin mewn llu,
Fel y neb sy’n cysuro y rhai galarus.
Tans Gekies:
Iöb 29: CTB
Kleurmerk
Deel
Kopieer

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.