Iöb 28
28
XXVIII.
1Dïau#28:1 Dyn yn medru chwilio allan lawer o bethau hyd yn oed ynghanol y ddaear, ond rhagluniaeth Duw sydd tu hwnt i wybodaeth marwolion a phob peth arall, g. h. nid gwiw i ni ofyn pa ham y dïoddef Efe i anffawd ddigwydd i’r diniweid. Ymhlith yr henafiaid yr oedd Arabia yn enwog am ei chyfoeth mewn delidau gwerthfawr; er hynny, yn ol fel y dywed teithwyr diweddar, nid oes ynddi yn bresennol fwngloddiau o aur nac arian. y mae hanawdle i’r arian,
A thrigfa i’r aur (yr hwn) a goetha (dyn);
2Haiarn allan o’r pridd a gymmerir,
A’r garreg a dodda (dyn) yn bres;
3 # 28:3 wrth ddwyn lampau i berfedd y ddaear. Diwedd a osododd efe i dywyllwch,
Ac hyd bob perffeithrwydd y mae efe yn chwilied
Y graig dywell ac angeuaidd-ddu;
4Fe gloddia efe fwn-dwll hyd bellder oddi wrth y trigiannydd,
Yn #28:4 o herwydd dyfnder y mwn y gweithwŷr yn gorfod myned i lawr â rhaffau.anghofiedig gan (eu) traed yr hongiant hwy,
Ym mhell oddi wrth ddynion y crwydrant:
5Y ddaear — o honi y daw bara,
A thani hi y dadymchwelir megis (gan) dân;
6Lle ’r saphir (yw) ei cherrig hi,
A mwn yr aur (a fydd) #28:6 = a geir yuddi gan y mwnwr.iddo;
7Llwybr, (sydd iddo) nas gŵyr yr #28:7 er mor llygad-graff y bo.eryr,
Ac nad ardremiodd llygad y barcud arno,
8 # 28:8 bwystifilod gwancus. Na sathrodd meibion balchder ef,
Nad aeth y rhuedydd ar hyd-ddo;
9Ar y gallestr yr estyn (y mwnwr) ei law,
Efe a ddadymchwel y mynyddoedd o’r gwraidd;
10Yn y creigiau yr hollta efe hyntoedd,
A phob gwerthfawr beth ei lygad a wêl;
11(Ac) fel na ddyhidlont, y dyfrleoedd a rwym #28:11 sef, gan ddodi ystopell ym mhob agorad, pan ddigwyddo iddo daraw ar y dwfr.efe,
A’r cuddiedig beth a ddwg efe allan i’r goleuni.
12Ond Doethineb — pa le y ceir hyd Iddi?
A pha le hon — (sef) trigfa Deall?
13Nis gŵyr adyn ei gwerth Hi,
Ac ni cheir hyd Iddi yn nhir bywiolion;
14Y dyfnder a ddywaid “Nid ynof fi (y mae) Hi,”
A’r môr a ddywaid “Nid gyda myfi (y mae);”
15Nid oes roddi aur pur am dani Hi,
Nid oes bwyso arian (megis) ei phris Hi;
16Ni chloriannir am dani Hi âg aur coeth Ophir,
Â’r onyx gwerthfawr, ac â ’r saphir;
17Ni phrisir Hi âg aur a #28:17 tra gwerthfawr ydoedd.gwydr,
Ac (nid oes) newidwriaeth am dani â llestri o aur dilin;
18Cyrelau cochion a grisial, ni feddylir am danynt,
A meddiannu Doethineb (sydd) well na pherlau;
19Ni phrisir Hi â thopaz Ethiopia,
Ag aur coeth puredig ni chloriannir am dani Hi.
20Ond Doethineb — o ba le y daw Hi?
A pha le hon, — (sef) trigfa Deall?
21Ond cuddiwyd Hi oddi wrth lygaid pob (peth) byw,
# 28:21 gwel ad. 7. Ac oddi wrth ehediaid y nefoedd y celwyd Hi;
22Difancoll ac annwn sy’n dywedyd,
“Â’n clustiau y clywsom sôn am dani.”
23Duw sydd yn deall ei ffordd Hi,
Ac Efe a ŵyr Ei thrigfa;
24Canys#28:24 Yr Hollwybodawl, pan grëodd Efe ’r byd, a chwiliodd ac a brofodd Ddoethineb, ac a’i datguddiodd i ddyn. Efe — hyd eithafoedd y ddaear sy’n edrych,
Tan yr holl nefoedd y gwêl Efe;
25 # 28:25 pwysir, fel ped fai, prennau i lawr gan y gwỳnt. Pan grëodd Efe bwys i’r gwŷnt,
Ac y cydfantolodd y dyfroedd wrth fesur;
26Pan wnaeth Efe #28:26 y cynhar a’r diweddar-wlaw.ddeddf i’r gwlaw,
A ffordd i fellt y taranau,
27Yna Efe a’i gwelodd Hi, ac a’i mynegodd Hi,
Ac a’i deallodd Hi, ac a’i chwiliodd Hi,
28Ac a ddywedodd wrth ddyn,
“Wele, ofn Iehofah — hynny (sydd) Ddoethineb,
A chilio oddi wrth ddrwg (sydd) Ddeall.”
Tans Gekies:
Iöb 28: CTB
Kleurmerk
Deel
Kopieer

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.