Iöb 30

30
XXX.
1Ond yn awr chwerthin ar fy mhen y mae
Y rhai llai o ddyddiau na myfi,
Y rhai y diystyraswn i eu tadau
I’w gosod gyda chŵn fy nefaid;
2 # 30:2 y crachwawdwŷr hyn heb na thai na gorchwyl gonest. Hyd yn oed cryfder eu dwylaw, o ba werth (y buasai efe) i mi?
Ynddynt y darfu am berffeithrwydd;
3Gan angen a newyn yn deneuon,
Yn cnoi (rhoddion) yr anialwch,
— Er ys hir yn ddiffaeth a diffaethiedig —
4Yn tynnu yr hoccys yn y prysglwyni,
A gwreiddyn y banadl yn fara iddynt;
5O fysg (dynion) y gyrrwyd hwynt ymaith,
# 30:5 sef, os deuent allan o’r anialwch. Gwaeddi ar eu hol a wnai dyn fel (ar ol) lleidr,
6Fel y byddai iddynt drigo yn nychrynfa ’r nentydd,
Yn nhyllau ’r ddaear a’r creigiau;
7Ym mhlith y prysglwyni y rhuant hwy,
Tan ddanadl yr ymgasglant;
8Meibion yr annuwiol, meibion difenwawl,
Curwyd hwynt allan o’r tir:
9Ond yn awr eu cân hwynt a aethum i,
Ac yr wyf iddynt hwy yn destun;
10Fy ffieiddio y maent, pellhânt oddi wrthyf,
# 30:10 diflannodd y parch a attaliai ddynion yn ei wydd ef. Ac yn fy ngwydd nid arbedant boeri;
11Ond ei rwym a ddattododd (pob un), ac a’m darostyngodd,
A’r ffrwyn yn fy ngwydd a ollyngasant hwy:
12 # 30:12 yn cymharu ei hun i ddinas warchaëedig. Ar y llaw ddehau y #30:12 yr hogiau uchodnŷthlwyth a gwyd,
Fy nhraed y maent yn eu gwthio,
Ac yn sarnu i’m herbyn eu ffyrdd dinystriol,
13Rhwygo i fynu fy llwybr y maent,
Fy ninystr y maent yn ei helpu,
#30:13 dïareb am ddynion dirmygedig, yn Arabia(Dynion) heb gynnorthwywr iddynt;
14Fel mur-rwygiad llydan y deuant arnaf,
Gyda thwrf y maent yn ymdreiglo ym mlaen;
15Tröwyd arnaf ddychryniadau,
Fel ped fai gwŷnt sy’n erlidio fy ardderchowgrwydd,
Ac fel cwmmwl yr aeth fy iachawdwriaeth heibio.
16Yn awr hefyd arnaf yr #30:16 sef â dagrau a chwynfanymdywallt fy enaid,
Arnaf yr ymaflodd dyddiau cystudd;
17 # 30:17 yr elephantwst a ysa ’r esgyrn. Y nos sy’n tyllu fy esgyrn oddi wrthyf,
A’m cnöwŷr ni orphwysant:
18 # 30:18 ei groen wedi myned yn llac Trwy ’r Mawr Ei Nerth ymnewidiodd fy ngwisg,
Fel fy mhais yr amgylcha hi fi;
19Taflodd Efe fi yn y clai,
A chyffelyb wyf i lwch a lludw;
20Llefain yr wyf arnat Ti — ond ni ’m gwrandewi,
Sefyll yr wyf — #30:20 “ystyried,” h. y. yn edrych arno yn unig ac nid yn ei gynnorthwyo, er iddo sefyll tan ddisgwyl am esmwythâd. ac fy ystyried yr wyt Ti;
21Trôaist yn greulon tuag attaf,
Yn nerth Dy law cynllwynaist am danaf;
22 # 30:22 fel cwmmwl Fy nghodi ar y gwŷnt yr wyt, yn peri i mi farchogaeth (arno),
Ac yn peri i mi ymdoddi ar dwrf y dymhestl,
23Canys gwybod yr wyf mai i farwolaeth y’m dygi,
Ac i’r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw;
24Ond, mewn adfail, onid #30:24 sef am gymmorthestyn dyn (ei) law,
Onid, yn ei drychineb, y bydd iddo lefain am gymmorth?
25 # 30:25 hawl ganddo i ddisgwyl arno dosturi a gwynfyd. Oni wylais i dros y caled ei amser,
(Oni) ofidiodd fy enaid dros y cystuddiedig?
26Eithr am ddaioni y gobeithiais i, ond fe ddaeth drwg,
A disgwyliais am oleuni, ond fe ddaeth tywyllwch;
27Fy ymysgaroedd ŷnt yn berwi ac ni orphwysant,
Disymmwth-ruthrodd dyddiau fy nghystudd arnaf;
28Yn ddu yr wyf yn rhodio, ond nid gan yr huan,
Sefyll yn y #30:28 h. y. yn gyhoeddgynnulleidfa yr wyf (ac) yn llefain am gymmorth;
29Aethum yn frawd i’r dreigiau,
Ac yn gymhar i gywion yr estrys;
30 # 30:30 y clwyf yn troi lliw ei groen, ac yn ei ysu ynghŷda ’r esgyrn. adn. 17, ac 2:7, 8. Fy nghroen a dduodd oddi am danaf,
A’m hesgyrn a losgasant gan wres;
31 # Gwel 21:12. Ac yn alaeth yr aeth fy nhelyn,
A’m symphon yn sain wylwŷr.

Tans Gekies:

Iöb 30: CTB

Kleurmerk

Deel

Kopieer

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan