Iöb 24
24
XXIV.
1Pa#24:1 Os felly, fel y dywedwch chwi, mai yr anffodus yw yr annuwiolion, “Paham,” &c. ham na neillduwyd #24:1 sef i atdalu i bob un yn ol ei weithredoedd.amseroedd gan yr Hollalluog,
Ac nad yw ’r rhai a’i hadwaenant Ef yn gweled Ei ddyddiau?
2Terfynau a symmuda dynion,
Preiddiau a ladrattant hwy ac a’u #24:2 sef, iddynt eu hunain.porthant;
3Asyn yr amddifaid a arweiniant hwy i ffordd,
Cymmerant ar wystl ŷch y wraig weddw;
4Gwthiant y rhai anghenog allan o’r ffordd,
# 24:4 rhag ofn y gormeswyr. Yn llwyr yr ymguddia trueiniaid y ddaear;
5 # 24:5 sef yn finteioedd. Wele, (fel) asynod gwylltion, yn yr anialwch
# 24:5 y trueiniaid fel bwystfilod Yr ânt hwy allan i’w gwaith, gan chwilio am ysglyfaeth,
A’r diffaethwch (yw) eu hymborth i’w rhai ieuaingc;
6Yn#24:6 y O herwydd nad yw’r diffaethwch yn rhoddi iddynt ymborth ddigon, hwy a anturiant allan o honaw yn y gwanwyn i geisio ym maes y cyfoethog annuwiol rhyw ychydig hyd yn oed o ebran, ac yn y dyhewydd i bigo iddynt eu hunain, yngwinllanoedd yr unrhyw, sypiau o rawnwin. y maes ei ebran ef a wnant hwy yn gynhauaf iddynt,
A gwinllan yr annuwiol a gasglant hwy;
7 # 24:7 gwel sylwad ar. 1:3. Yn dlodwisg y llettyant heb ddillad,
Ac heb orchudd, yn yr oerni;
8Gan lifeiriant y mynyddoedd y gwlychant;
Ac o eisiau noddfa cofleidiant y graig.
9Fe gipia dynion yr amddifad oddi wrth y fron,
A’r (hyn sydd) ar yr anghenog hwy a gymmerant yn wystl;
10Noeth yr â dynion, heb ddillad,
# Gwel Deut. 25:4. Ac yn newynog y eludant ysgubau ŷd;
11 # 24:11 y trueiniaid yn wyidon i’r cyfoethogion. O fewn eu magwyrydd y gwasgant hwy allan yr olew,
Cafnau gwin a sathrant hwy, a #Deut. 25:4.sychedant.
12O’r ddinas y mae y trengwŷr yn griddfan,
Ac enaid yr archolledigion sy’n gweiddi,
A Duw ni noda ’r ffieidd-dra (hwn).
13 # 24:13 mathau eraill o annuwiolion Y rhai hyn sydd ym mhlith gelynion y goleuni,
Nid adwaenant #24:13 y goleuniei ffyrdd ef,
Ac nid arhosant yn ei lwybrau;
14Tua ’r wawr y cyfyd y llofrudd,
Y lladd efe ’r truan a’r anghenog,
Ac yn y nos y mae efe yn lleidr:
15A llygad y godinebwr a wylia am y cyfnos,
Gan ddywedyd, “Ni ’m gwêl llygad,” A hul ar (ei) wyneb a esyd efe:
16Torri yn y tywyllwch i dai y mae (eraill),
Lliw dydd y cauant eu hunain i fynu,
Nid adwaenant y goleuni:
17Canys iddynt hwy i gyd y mae ’r bore yn gysgod angeuaidd,
Oblegid eu bod (bob un) yn cael gwybodaeth o ddychryniadau cysgod angeuaidd.
18 # 24:18 dygir ef ymaith yn ddisymmwth. Cyflym#24:18 Er bod Iöb yn ewyno fod y duwiol yn dïoddef trallod yn y byd hwn, a’r annuwiol yn mwynhâu ffynniant, gwybod y mae efe ddiwedd y cyfryw rai. (yw) ’r fath un ar wyneb y dyfroedd,
# 24:18 Dïareb, hwyrach =llwyddiant; gwel 1 Bren. 4:25. Melldigedig yw eu rhandir hwy ar y ddaear,
Ni chaiff (y fath un) droi tua ffordd y gwinllanoedd.
19Sychdwr, ac etto gwres, a gipia ymaith ddyfroedd eira, (Felly) annwn (y rhai) a bechasant:
20Fe anghofia ’r #24:20 h. y. ei famgroth ef, melus-fwytty ’r pryf ef,
Mwyach ni chofir ef;
Chwilfriwir drygioni fel pren,
21 # 24:21 heb blant i’w hamddiffyn. (Sef) difrodwr yr hesp na phlantodd,
(Yr hwn) i’r weddw ni chymmwynasodd.
22Peri parhâd i’r rhai galluog y mae Efe yn Ei nerth:
# 24:22 gormesol yw pan mewn perygl o angau. Cyfodi a wna (hwn) er nad yw ’n ymddiried yn ei fywyd —
23Os rhydd (Duw fywyd) iddo yn sicr, efe a ymhydera,
Ond Ei lygaid Ef (sydd) ar eu ffyrdd hwynt;
24Dyrchafwyd hwynt — (etto) ychydig ac nid ydynt mwyach,
A hwy a ddiflannant, fel pawb (eraill) y cesglir hwynt (at eu tadau),
Ac fel pen tywysen y torrir hwynt ymaith;
25Ac onide, pwy, attolwg, a’m bwrw yn gelwyddog,
Ac a esyd fy ymadrodd yn ddiddim?
Tans Gekies:
Iöb 24: CTB
Kleurmerk
Deel
Kopieer

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.