Iöb 23

23
XXIII.
1Yna yr attebod Iöb, a dywedodd,
2Heddyw hefyd chwerw (yw) fy nghwyno,
Canys y llaw arnaf sydd drom ar fy uchenaid.
3O na bai i mi wybod pa sut y cawn hŷd iddo Ef,
I mi ddyfod at Ei eisteddfa Ef,
4I mi drefnu ’r ddadl ger Ei fron Ef,
Ac i mi lenwi fy ngenau â rhesymmau,
5I mi wybod yr ymadroddion a’r y’m hattebai Efe (â hwynt),
Ac i mi ddeall pa beth a ddywedai Efe wrthyf!
6Ai yn amlder Ei gadernid yr ymddadleu Efe â mi?
Nage — ond bydded iddo Ef roddi (ystyriaeth) i mi!
7Yna un cyfiawn a fyddai yn ymresymmu âg Ef,
Ac y’m rhyddhêid am byth oddi wrth fy Marnwr.
8Wele, ym #23:8 os trôf tua ’r dwyrain.mlaen yr âf — ac nid (yw) Efe yno,
Neu yn #23:8 tua ’r gorllewinol — ac nid wyf yn Ei ganfod,
9 # 23:9 y dehau Neu ar y llaw aswy yn Ei waith (y mae Efe) — ac nid wyf yn ardremu (Arno),
# 23:9 y gogledd. Ymorchuddia ar y llaw ddehau — ac nid wyf yn E i weled:
10 # 23:10 yr achos y mae Iöb yn ewyllysio cyfarfod â Duw Canys Efe a edwyn y ffordd sydd gennyf;
Pan brofo Efe fi, fel aur y deuaf allan;
11Wrth Ei iawn-lwybr Ef yr ymlynodd fy nhroed,
Ei ffordd Ef a gedwais i, ac ni ŵyrais;
12Gorchymmyn Ei wefusau Ef, ni chiliais oddi wrtho,
Rhagor fy #Gwel Rhuf. 7:23.neddfau fy hun trysorais eiriau Ei enau Ef:
13 # 23:13 fy nedfryd wedi ei phenderfynu. Ond Efe (sydd) âg un (bwriad,) a phwy a’i trŷ Ef yn ol?
A’i enaid Ef a chwennych, ac Efe a wna;
14Canys Efe a gyflawna fy nedfryd,
# 23:14 nid peth anarferol Iddo Ef adael i ddynion ddioddef, er eu bod yn ddïeuog. Ac o’r fath hon (y mae) llawer ganddo Ef;
15Gan hynny rhag Ei wyneb Ef y dychrynir fi,
Ystyried yr wyf ac arswydo rhagddo Ef,
16A Duw a dorrodd fy nghalon,
A’r Hollalluog a’m dychrynnodd,
17 # 23:17 cyf. at 22:11. Canys nid fy mod wedi fy irdangu rhag wyneb y tywyllwch,
Neu rhag fy ngwyneb fy hun, (yr hwn) y mae ’r fagddu yn ei doi.

Tans Gekies:

Iöb 23: CTB

Kleurmerk

Deel

Kopieer

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan