Iöb 25

25
XXV.
1Yna yr attebodd Bildad y Shwhiad, a dywedodd,
2Arglwyddiaetha dychryn (sydd) gydag Ef,
Yr Hwn sy’n gwneuthur heddwch yn Ei uchel-fannau.
3 # 25:3 y ser &c. A oes gyfrif o’i luoedd Ef,
Ac ar ba un (o honynt) ni chyfyd Ei oleuni Ef?
4Pa fodd y bydd adyn yn gyfiawn ger bron Duw,
A pha fodd yn Iân (y bydd) un a aned o wraig?
5Wele, hyd yn oed y lleuad, — ac nid disglaer yw hi,
A’r ser nid ydynt lân, yn Ei olwg Ef;
6Pa faint llai adyn — y pryfyn,
A mab dyn — yr abwydyn?

Tans Gekies:

Iöb 25: CTB

Kleurmerk

Deel

Kopieer

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan