Àwon Èyà Bíbélì

Y Proffwydi Byrion 1881 (John Davies, Ietwen)

Welsh, Galés

John Davies, Ietwen

Ganwyd John Davies ym Mwlch-yr-helygen, plwyf Llanarth, ger Cei Newydd yng Ngheredigion yn 1804. Yn 1822 cafodd ei dderbyn i Academi'r Annibynywr yn y Drenewydd lle bu'n astudio diwinyddiaeth, i hyfforddi fel gweinidog gyda'r Annibynwyr. O 1827, bu'n weinidog yng nghapel yr Annibynwyr yn Glandwr, plwyf Llanfyrnach, Sir Benfro. Yn 1829 sefydlodd gapel Annibynol Moreia yn Blaenwaun, plwyf Llanwinio, Sir Gaerfyrddin, oedd lai na pedair milltir o Glandwr. Yn 1833, priododd Phoebe Griffiths yn Llanfyrnach, a chawsant bedwar o blant, ond bu farw pob un ohonynt yn ifanc. O 1863 bu John Davies yn weinidog yn Blaenwaun, yn byw mewn tŷ o'r enw Ietwen. O 1873 bu'n gwasanaethu fel cadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Bu'n gweinidogaethu yn Blaenwaun hyd ei farw yn Rhagfyr 1884, yn 81 oed, a chafodd ei gladdu ym mynwent y capel.

Mae ei bapurau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Cyfieithu'r Beibl

Roedd John Davies yn ysgolhaig gwych ac yn ysgrifennu'n aml i gylchgronau'r cyfnod. Roedd ganddo ddiddordeb mewn ieithoedd, a meistrolodd Hebraeg, Aramaeg, Syrieg, Groeg a Lladin. Yn 1832 dechreuodd adolygu Llyfr Coheleth, Llyfr y Pregethwr, a chyrraedd cyn belled a phennod 5 adnod 8.

Rhwng 1834 ac 1838 ysgrifennodd ei gyfieithiad ei hun o'r Testament Newydd o'r Groeg i'r Gymraeg, sef Cyfieithiad o'r Testament Newydd, ond ni chafodd erioed ei gyhoeddi.

Roedd cyfieithiad John Davies o'r Proffwydi Byrion, o Hosea i Malachi, yn ffrwyth 40 mlynedd o ymchwil. Fe'i cyfieithiodd o'r Hebraeg i'r Gymraeg, ond ychwanegodd hefyd nodiadau ar ymyl y ddalen o ddarlleniadau amrywiol lle roedd y testun Masoretaidd Hebraeg (Hebr.) yn wahanol i'r cyfieithiadau Groeg yn y Septuagint (LXX), y Syrieg (Syr.) a'r Fwlgat Lladin (Vulg.). Ysgrifennodd gyflwyniad i bob llyfr,ac esboniad ar y testun. Cyhoeddwyd Y Proffywdi Byrion yn 1881 yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Yr enw llawn arno oedd Y Proffwydi Byrion, mewn Alleiriad, gyda Sylwadau ar y testun, ynghyd ag Amryw ddarlleniadau ar ymyl y ddalen o'r tri hen gyfieithad, y LXX, y Syriaeg, a'r Vulgate, Gan John Davies, Ietwen. Mae'n cynnwys Rhagymadrodd At y Darllenydd a ysgrifenodd yn Ietwen yn Ionawr 1881. Mae'r testun yn dilyn y rhifau adnodau sy'n fwy cyffredin yn fersiynau Catholig o'r Beibl.

Argraffiad Digidol

Cafodd Y Proffwydi Bryion gan John Davies ei ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2022. Mae'r prosiect yn cynnwys ei gyflwyniadau i'r llyfrau; y troednodiadau yn cyfeirio at ddarlleniadau y Septuagint, y Syrieg a'r Fwlgat Lladin (Amryw ddarlleniadau ar ymyl y ddalen o'r tri hen gyfieithad, y LXX, y Syriaeg, a'r Vulgate); ond nid yw'n cynnwys ei nodiadau esboniadol (Sylwadau ar y testun).

English:

John Davies, Ietwen

John Davies was born at Bwlch-yr-helygen, in the parish of Llanarth, near New Quay in Cardiganshire in 1804. In 1822 he was accepted into the Independent Academy at Newtown where he studied divinity, to train as an Independent minister. From 1827, he served as minister at Glandwr Welsh Independent Chapel (Capel Glandwr), at Glandwr, in the parish of Llanfyrnach, in Pembrokeshire. In 1829 he founded Moriah Welsh Independent Chapel at Blaenwaun, in the parish of Llanwinio, in Carmarthenshire, which was less than 4 miles from Glandwr. In 1833, he married Phoebe Griffiths at Llanfyrnach, and they had four children, all of whom died young. From 1863 John Davies served as minister at Blaenwaun, living at a house called Ietwen. From 1873 he served as chairman of the Union of Welsh Independents. He ministered at Blaenwaun until he died in December 1884, aged 81, and his buried in the chapel churchyard.

His papers are at the National Library of Wales in Aberystwyth.

Bible translations

He was a great scholar and wrote frequently to the periodicals of the time. He was interested in languages and mastered Hebrew, Aramaic, Syrian, Greek and Latin. In 1832 he started to revise the Book of Ecclesiastes, and got up to verse 8 of chapter 5.

From 1834 to 1838 he produced his own translation of the New Testament from Greek into Welsh, which was never published.

The translation of the Minor Prophets by John Davies, from Hosea to Malachi, was the fruit of 40 years of research. He translated from Hebrew to Welsh, but also added marginal notes of variant readings where the Hebrew (Hebr.) Masoretic text differed from the older Greek Septuagint (LXX), Syriac (Syr.) and the Latin Vulgate (Vulg.) translations. He also wrote an introduction to each book and a commentary on the text. In 1881 this was published at Llandeilo in Carmarthenshire as Y Proffywdi Byrion (The Shorter Prophets). The full name of the text was Y Proffwydi Byrion, mewn Alleiriad, gyda Sylwadau ar y testun, ynghyd ag Amryw ddarlleniadau ar ymyl y ddalen o'r tri hen gyfieithad, y LXX, y Syriaeg, a'r Vulgate, Gan John Davies, Ietwen. It was published in 1881, and includes a preface At y Darllenydd (to the reader) written at Ietwen in January 1881. The text follows the versification more common in Catholic traditions of the Bible.

Digital Edition

The Minor Prophets by John Davies were digitised for the Bible Society in 2022. The project includes his book introductions; and footnotes referencing variant readings in the Septuagint, Syriac and Latin Vulgate; but not his commentary.


British & Foreign Bible Society

PBJD ALÁTẸ̀JÁDE

Te si waju lati ko ero sii

Awọn ẹya miiran nipasẹ British & Foreign Bible Society