Mathew 4

4
1-6Wedyn nâth ir Isbryd hebrwng Iesu mâs i'r lle diffeth, fel bo'r Jiawl in galler 'i desto fe. Wedi iddo beido bita dim byd am ddeigen dwarnod a deigen nos wedd e'n llwgu, a dâth i Jiawl ato a gweu 'tho, “Os crwt Duw wit ti, gwe'tho'r cerrig 'ma i droi'n fara.” Ond atebo Iesu, “Gâs 'i reito, ‘Ma ishe mwy na dim ond bara ar ddyn; rhaid câl pob gair ma Duw wedi'u weud.’” Wedyn cwmrodd i Jawl e i'r Ddinas Sanctedd, a'i roi e lawr i sefyll ar bart ucha'r demel, a gweu 'tho, “Os taw Crwt Duw wit ti, towla di unan bant; achos gâs 'i reito,
'Bydd e'n rhoi gwbod i'w angilion shwt i ddrych ar di ôl di,
biddan nhwy'n gafel indo ti â'u dwylo
fel bo ti ddim hyd 'n ôd in bwrw di bys di drwed in erbyn carreg.”
7-11Gwedo Iesu wrtho fe, “Gâs 'i reito 'fyd, ‘Ddilet ti ddim testo ir Arglwi di Dduw di.’” Wedyn wêth âth i Jiawl ag e i ben mini uchel, a dangos pob gwlad we in i byd iddo fe a'u cifoth nhwy i gyd; ac gweu'tho, “Ti sy pia'r pethe 'ma i gyd i ti os 'nei di gwmpo o'n flân i a'n addoli i.” On wedo Iesu wrtho, “Cer o 'ma, Satan! Gâs 'i reito, ‘Ddilet ti addoli'r Arglwi di Dduw, a dim ond i wasneithu fe.’” Wedyn gadodd i Jawl e'n llony, a dath angilion a 'drych ar 'i ôl e.
12-14Pan gliwo Iesu bo Ioan 'di câl 'i aresto a'i roi in jâl, âth e nôl i Galilea. Ond gadodd e Nasareth a simud i fyw in Capernaum ar bwys Llyn Galilea, in parte Sabulon a Nafftali. Digwiddodd hyn fel bo'r beth gâth i weud in pregeth Eseia in dwâd in wir,
15“Gronwch gwlad Sabulon a gwlad Nafftali,
ar ir hewl i'r môr, ochor arall afon Iorddonen!
Gronda di, Galilea'r cenhedlôdd!
16Ma'r bobol we'n ishte miwn tewillwch
wedi gweld gole mowr,
a ma'r houl wedi codi
ar i rhei we'n ishte ing gwlad cisgod ange.”
17O'r amser 'ny 'mlân dachreuodd Iesu brigethu: “Altrwch 'ich bowide, achos 'ma Teyrnas Nefodd wedi dwâd in agos.”
18-22A fel we Iesu cered ar bwys Llyn Galilea gwelodd e ddou frawd. Seimon (sy'n câl i alw 'fyd in Pedr) we un, a'i frawd e Andreas we'r llall. Wen-nhwy wrthi'n towlu 'u rhwyde i'r môr, achos pisgota we'u gwaith nw. Gwedodd e wrthon nw, “Dewch, dilinwch fi, a fe 'na i chi i bisgota ar ôl dinion in lle pisgo”. Gadon nhwy 'u rhwyde ble wen nw a'i ddilyn e.
Âth Iesu in i flân a gwelodd e ddou arall, Iago crwt Sebedeus, a'i frawd Ioan. Wen-nhwy ill dou miwn cwch gida'u tad in helpu 'u rhwyde, ond galwodd e arnyn nw. Wedyn gadon nhw'r cwch a'u tad, a dilyn Iesu.
23Âth Iesu trw Galilea pentigili, in disgu in i tai cwrdd ir Iddewon, in pregethu'r Ifengyl am Deyrnas Duw, in gwella pob math o salwch we ar bobol. 24Âth ir hanes amdano fe trw Syria pentigili, a dethon nhw â bob un we'n sâl ato fe. A we pob mathe o bethe arnyn nw: rhei in dost, rhei mewn pwen, rhei 'da cithreilied, rhei wedi'u parlisu, rhei'n sâl 'u meddwl. A we Iesu in 'u gwella nhwy 'i gyd. 25A we crowde mowr in i ddilyn e o Galilea, o ddeg tre
Decapolis, Jerwsalem, shir Jwdea, a o ochor arall afon Iorddonen.

Zvasarudzwa nguva ino

Mathew 4: DAFIS

Sarudza vhesi

Pakurirana nevamwe

Sarudza zvinyorwa izvi

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy