Mathew 5

5
1Pan welo Iesu'r crowde âth e lan i'r mini. Ishteddodd e lawr fan'ny, a dâth 'i ddisgiblion ato. 2Dachreuodd e 'u disgu nhwy, a gweud,
3-12“‘Na jecôs yw'r rhei sy'n gwbod bo nhwy miwn ishe;
achos nhwy sy pia Teyrnas Dduw.
‘Na jecôs yw'r rhei sy'n mwrno;
achos gewn nhwy gisur.
‘Na jecôs yw'r rhei mwynedd;
achos nhwy bydd pia'r ddeiar.
‘Na jecôs yw'r rhei sy'n llwgu a'n sichedu am beth sy'n iawn;
achos gewn nhwy ddigon.
‘Na jecôs yw'r rhei sy'n dangos treni;
achos gewn nhwy dreni.
'Na jecôs yw'r rhei sy â calon lân;
achos gewn nhwy weld Duw.
'Na jecôs yw'r rhei sy'n neud heddwch;
achos gewn nhwy 'u galw in blant i Dduw.
'Na jecôs yw'r rhei sy'n câl 'u herlid achos bo nhwy'n neud beth sy'n iawn;
achos nhwy sy pia Teyrnas Dduw.
'Na jecôs ych chi pan ma dinion in neud sbort ar 'ich pen chi a'n ich erlid chi, a'n gweud bo chi'n neud pob mathe o bethe drwg ar in gownt i. Gallwch chi enjoio 'ny, achos ma'ch gwobor chi'n fowr in i nefodd. 'Na shwt wen nhwy'n erlid i proffwydi o'ch blân chi.
13-16“Ych chi fel halen i bob un ar i ddeiar. Os gollith ir halen 'i flas, beth neith roi blas halen nôl arno 'to? Seno fe'n werth i ddim byd wedyn; ceith e i dowlu bant a bydd dinion in damshel arno.
“Ych-chi in ole i'r byd i gyd. Gallwch chi ddim cwato tre os bydd i ar ben mini. Sneb in cinnu lamp a'i cwato 'i wedyn dan gerwn, ond 'i rhoi 'ddi ar stand fel bo'i gole in sheino i bob un sy in i tŷ. A'r un ffordd in gowir ma rhaid i'ch gole chi sheino o flân dinion erill, fel gallan nhwy weld i pethe da ych chi'n 'u neud, a rhoi gogoniant i'ch Tad chi sy'n i nefodd.
17“Peidwch meddwl bo fi wedi do i ddistrywo'r Gifreth na'r Proffwydi whaith; ddes i ddim i ddistrywo nhwy ond i neud nhwy'n gifan. 18Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, nes ir amser bo dim nefodd na deiar in bod, neith ddim un llithiren na'r part lleia o lithiren fynd heibo o'r Gifreth nes bo popeth wedi'i neud in iawn
19Bydd unrhiw un sy'n torri dim ond un o'r gorchminion 'ma, hyd 'nôd i lleia pwysig, a'n disgu rhei erill i neud 'run peth, in câl 'i alw'n lleia pwysig in Teyrnas Nefodd; 20ond bydd unrhyw un sy'n 'u byw nhwy a'n 'u disgu nhwy in câl 'u galw'n fowr in Teyrnas Nefodd; achos dw i'n gweu 'thoch chi onibai bo'ch cifionder chi'n fwy na'r rhei sy'n disgu'r Gifreth a'r Ffariseieid ewch chi ddim miwn i Deyrnas Nefodd.
21-26“Ych chi wedi cliwed bo dinion wedi gweud slawer dy, 'Senoch chi fod lladd'; a bo raid i unrhiw sy'n lladd fynd i'r cwrt.’ Ond dw i gweu 'thoch chi bydd unrhiw un sy grac 'da i frawd i gorffod mynd i gwrt; bydd unrhiw un sy'n sharad in fach am i frawd in gorffod winebu barn i Cwrt Mowr; bydd unrhiw un sy'n gweud 'Twpsyn' mewn dansher o fynd i dân-uffern.
So wedyn 'te, os wit ti'n wrthi'n rhoi di offrwm ar ir allor, a'n cofio fan'ny bo di frawd â rhwbeth in di erbyn di, gad ir offrwm lle mae e; cer di ginta'n deg i gimodu 'dag-e, a wedyn dere nôl i roi di offrwm i Dduw.
Cyn iti gâl lusgo bant i'r cwrt paid whilibowan neud ffrind o hen elyn. Os na nei di cei di di roi in llaw'r barnwr, a fel 'ny gallet ti gâl di dowlu in i jâl. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, ddewch chi ddim mas o fan'ny nes bo chi wedi talu'r geinog ddwetha sy 'da chi.
27-30“Ych chi wedi cliwed 'i fod e wedi'i weud, “Cadwch at beth nethoch chi addo wrth briodi.” Dw i'n gweu 'thoch chi bo bob un sy'n drych ar finyw fel bo'i whant hi arno wedi torri unrhyw addewid nâth e in barod in i galon. Os yw di ligad in hala iti gwmpo, tynn e mas a'i dowlu bant, achos buse'n well bod un part o di gorff di'n câl i golli na bod e i gyd in câl i dowlu miwn i uffern. Os yw di law dde di'n hala iti gwmpo, torr 'i bant a'i thowlu 'ddi, achos buse'n well iti golli un part o di gorff na'i fod e i gyd in câl i dowlu miwn i uffern.
31-32“Câs 'i weud, 'Os yw dyn in difôrso'i wraig rhaid 'ddo roi papure difôrs iddi.” Ond dw i'n gweu 'thoch chi beido difôrso'ch gwraig oni bai bo i wedi torri beth nâth i addo wrth briodi. Achos os nei-di 'ny biddi di'n 'i hala hi i fod in anffiddlon in gowir fel unriw ddyn sy'n cwmrid gwraig dyn arall.
33“Shwrne 'to, ych chi 'di cliwed i fod e wedi'i weud wrth ddinion slawer dy, ‘Senoch chi fod neud addewid in enw'r Dyn Mowr senoch chi meddwl 'i gadw.’ 34-37Ond dwi'n gwe 'thoch chi beido tingu in enw dim byd o gwbwl wrth neud addewid! Ddim i enw'r nef, achos tina orsedd Duw. I ddeiar yw'r stôl dan 'i drâd e, so peidwch tingu in enw'r ddeiar whaith. Peidwch tingu ar 'ich pen chi'ch hunan, achos senoch chi'n galler neud un blewyn arno droi'n wyn neu ddu. Dilech ‘Ie’ chi fod in ‘Ie’, a'ch ‘Na’ chi fod in ‘Na’. Ma unrhiw beth mwy na 'ny in dwâd wrth ir un drwg.
38-42“Clwioch chi iddo gâl 'i weud, ‘Lligad am ligad, dant am ddant.’ Ond dw i'n gweu 'thoch chi beido talu nôl i neb sy 'di neud drwg ichi. Os bydd rhiwun in di fwrw di ar i foch dde tro'r llall ato fe 'fyd. Os bydd rhiwun in mynd â ti i gifreth a mynd â di grys di, gad 'ddo gâl di got di 'fyd. Os bydd sowdiwr in rhoi comands iti gario'i bac am filltir, caria fe am ddwy. Os bydd rhiwun in gofyn rhwbeth wrtho ti, rho fe iddyn nw. Os bydd rhiwun ishe mentig arian 'da ti, rho fentig.
43-48“Clwioch chi iddo gâl 'i weud, 'Carwch 'ich cimidogion, a casáu'ch gelynion.’ Dw i'n gweu 'thoch chi, carwch 'ich gelinion a gweddïwch dros i rhei sy'n 'ich erlid chi, fel 'ich bo chi'n blant i'ch Tad in i nefodd. Achos mae e'n neud i'r houl sheino ar i drwg a'r da fel 'i gily a'n hala'r glaw ar i cifion a'r anghifion 'fyd. Achos os ych chi dimond in caru'r rhei sy'n 'ich caru chi, beth yw iws neud 'ny? Seno'r casglwyr trethi in neud gowir 'run peth? Os dim ond 'da di ffrind wit ti'n sharad, beth sy mor sbeshal am hinny? Seno'r rhai sy ddim in credu in neud gowir ir un peth? So wedyn 'te, rhaid ichi fod in berffeth fel ma'ch Tad in i nefodd in berffeth.

Zvasarudzwa nguva ino

Mathew 5: DAFIS

Sarudza vhesi

Pakurirana nevamwe

Sarudza zvinyorwa izvi

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy