Mathew 3

3
1-2Flinidde wedyn dachreuodd Ioan Fididdiwr brigethu in tir diffeth shir Jiwdea. A tima beth wedd e'n prigethu, “Altrwch 'ich for' o fyw, achos ma Teyrnas Nefodd ar bwys.” 3Fe we'r dyn we Eseia'r proffwd wedi gweud amdano,
“Ma llaish rhwun in gweiddi mas in i lle diffeth,
‘Newch i ffor' in barod ir Dyn Mowr,
newch 'i lwybre fe'n streit.’”
4-6We Ioan in gwishgo dillad we wedi'u neud mas o flew camel, a rownd 'i wegil we 'dag e felt leder, a'i fwyd e we locustied a mêl gwyllt. We pobol Jeriwsalem, shir Jiwdea i gyd a'r ardal i gyd rownd afon Iorddonen in dwâd mas ato fe, a wedd e'n 'u bididdio in afon Iorddonen a wrth neud 'ny busen-hwy'n cifadde beth we'u pechode.
7-12Welodd e bo lot o'r Ffariseied a'r Sadiwceied in dwâd i gâl 'u bididdio, a wedodd e wrthon nw, “Ŷch chi'n lot o nadrodd slei; pwy wedo wrthoch chi jengid wrth i farn sy'n dod? Dangoswch 'ich bo chi wedi 'difaru in iawn wrth shwt ych chi'n byw; a peidwch dachre meddwl gweu'th ich gily, ‘Abraham yw'n tad ni’; achos dwi'n gweu'tho chi galle Duw droi'r cerrig 'ma in blant i Abraham os buse fe moyn. Ma'r fwell wrth wreidde'r cwed in barod. Geith bob llwyn sy ddim in rhoi ffrwyth da 'u torri lawr a'u towlu miwn i'r tân.
“'Ich bididdio chi 'da dŵr i ddangos 'ich bo chi wedi difaru dwi'n neud. Ma'r un sy'n dwâd ar in ôl i in grifach na fi, a sena i'n ddigon da i dinnu'i sgije. Bydd e in 'ich bididdio chi 'da'r Isbryd Glân a 'da tân. Ma'i raw nitho in i law e'n barod. Glirith e'r llawr dirnu a casglu'r llafur i'r sgubor, on fe losgith e'r rest 'da tân sy'n llosgi am byth.”
13-17Wedyn dâth Iesu o Galilea at afon Iorddonen fel galle Ioan 'i fididdio finte. On treiodd Ioan 'i stopo fe, a gwedodd e, “Ti ddile in fididdio i. Pam wit ti'n dod ata i?” Atebo Iesu, “Gad i bethe fod fel man nw nawr, achos tima'r ffor ore i ni neud beth ma Duw moyn.” Ar ôl cliwed hyn we Ioan in folon 'i fididdio. A wedi i Iesu gâl 'i fididdio, fel ddâth e lan o'r dŵr; gâs ir awyr 'i agor iddo a welodd e Isbryd Duw in dwâd lawr fel colomen a mynd arno; a wedyn dâth llaish o'r nefodd in gweud, “Tima'n Grwt annwl i, in unig Grwt i, a dw i'n blês 'dag e.”

Zvasarudzwa nguva ino

Mathew 3: DAFIS

Sarudza vhesi

Pakurirana nevamwe

Sarudza zvinyorwa izvi

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy