Luc 23
23
A.D. 33. —
1 Cyhuddo yr Iesu gerbron Peilat, a’i anfon at Herod; 8 a Herod yn ei watwar ef. 12 Herod a Pheilat yn cymodi â’u gilydd. 13 Y bobl yn deisyf cael Barabbas; a Pheilat yn ei ollwng ef iddynt, ac yn rhoddi yr Iesu i’w groeshoelio. 27 Yntau yn mynegi i’r gwragedd, a alarent o’i blegid ef, ddinistr Jerwsalem: 34 yn gweddïo dros ei elynion. 39 Crogi dau ddrwgweithredwr gydag ef. 46 Ei farwolaeth. 50 a’i gladdedigaeth ef.
1A’r #Mat 27:2; Marc 15:1; Ioan 18:28holl liaws ohonynt a gyfodasant, ac a’i dygasant ef at Peilat: 2Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn #Act 17:7yn gŵyrdroi’r bobl, ac #Edrych Mat 17:27; 22:21yn gwahardd rhoi teyrnged i Gesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin. 3A #Mat 27:11Pheilat a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Ac efe a atebodd iddo, ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd. 4A dywedodd Peilat wrth yr archoffeiriaid a’r bobl, Nid wyf fi yn cael dim #23:4 achos yn.bai ar y dyn hwn. 5A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi’r bobl, gan ddysgu trwy holl Jwdea, wedi dechrau o Galilea hyd yma. 6A phan glybu Peilat sôn am Galilea, efe a ofynnodd ai Galilead oedd y dyn. 7A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth #Pen 3:1Herod, efe a’i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.
8A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys #Pen 9:9yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid #Mat 14:1; Marc 6:14iddo glywed llawer amdano ef; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef. 9Ac efe a’i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo. 10A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug. 11A Herod a’i filwyr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a’i watwar, a’i wisgo â gwisg glaerwen, a’i danfonodd ef drachefn at Peilat.
12A’r dwthwn hwnnw yr #23:12 aeth cymod rhwng Peilat a Herod.aeth #Act 4:27Peilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o’r blaen mewn gelyniaeth â’i gilydd.
13 #
Mat 27:23; Marc 15:14; Ioan 18:38; 19:4 A Pheilat, wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid, a’r llywiawdwyr, a’r bobl, 14A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un a fyddai’n gŵyrdroi’r bobl: ac wele, myfi a’i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim #23:14 achos.bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef amdanynt: 15Na Herod chwaith: canys anfonais chwi ato ef; ac wele, dim yn haeddu marwolaeth nis gwnaed iddo. 16#Mat 27:26; Ioan 19:1Am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf ymaith. 17#Mat 27:15; Marc 15:6; Ioan 18:39Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr ŵyl. 18#Act 3:14A’r holl liaws a lefasant ar unwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd: 19(Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.) 20Am hynny Peilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd. 21Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. 22Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo; am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf yn rhydd. 23#23:23 A hwy a bwysasant arno.Hwythau a fuont daerion â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A’u llefau hwynt a’r archoffeiriaid a orfuant. 24#Mat 27:26; Marc 15:15; Ioan 19:16A Pheilat a #23:24 gytunodd.farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt. 25Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid yng ngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt. 26#Mat 27:32; Marc 15:21Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o’r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i’w dwyn ar ôl yr Iesu.
27Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o’i blegid ef. 28A’r Iesu, wedi troi atynt, a ddywedodd, Merched Jerwsalem, nac wylwch o’m plegid i: eithr wylwch o’ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant. 29Canys wele, y mae’r dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy, a’r crothau nid epiliasant, a’r bronnau ni roesant sugn. 30#Esa 2:19; Hos 10:8; Dat 6:16; 9:6Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni. 31#Jer 25:29; 1 Pedr 4:17Canys os gwnânt hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin? 32#Esa 53:12; Mat 27:38Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill, drwgweithredwyr, i’w rhoi i’w marwolaeth. 33A #Mat 27:33; Marc 15:22; Ioan 19:17, 18phan ddaethant i’r lle a elwir #23:33 Lle y benglog.Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a’r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a’r llall ar yr aswy.
34A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, #Act 7:60; 1 Cor 4:12maddau iddynt: canys #Act 3:17ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A #Mat 27:35; Marc 15:24; Ioan 19:23hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren. 35A’r #Salm 22:17; Sech 12:10bobl a safodd yn edrych. #Mat 27:39A’r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw. 36A’r milwyr hefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddyfod ato, a chynnig iddo finegr, 37A dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iddewon, gwared dy hun. 38#Mat 27:37; Marc 15:26; Ioan 19:19Ac yr ydoedd hefyd #23:38 deitl.arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef, â llythrennau Groeg, a Lladin, a Hebraeg, HWN YW BRENIN YR IDDEWON.
39Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau. 40Eithr y llall a atebodd, ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un #23:40 farnedigaeth.ddamnedigaeth? 41A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le. 42Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas. 43A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys. 44#Mat 27:45; Marc 15:33Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl #23:44 dir.ddaear hyd y nawfed awr. 45A’r haul a dywyllwyd, a #Mat 27:51; Marc 15:38llen y deml a rwygwyd yn ei chanol.
46A’r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, #Salm 31:5O Dad, i’th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd. #Mat 27:50; Marc 15:37; Ioan 19:30Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd. 47#Mat 27:54; Marc 15:39A’r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn. 48A’r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelsant, gan guro eu dwyfronnau. 49A’i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a’r gwragedd y rhai a’i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.
50 #
Mat 27:57; Marc 15:42; Ioan 19:38 Ac wele, gŵr a’i enw Joseff, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn: 51(Hwn ni chytunasai â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, #Marc 15:43; Pen 2:25, 38yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw; 52Hwn a ddaeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. 53Ac efe a’i tynnodd i lawr, ac a’i hamdôdd mewn lliain main, ac a’i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid #23:53 neb.dyn erioed. 54A’r dydd hwnnw oedd #Mat 27:62ddarpar‐ŵyl, a’r Saboth oedd yn nesáu. 55A’r gwragedd hefyd, #Pen 8:2y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef. 56A hwy a ddychwelsant, ac a baratoesant beraroglau ac ennaint; ac a orffwysasant ar y Saboth, #Exod 20:10yn ôl y gorchymyn.
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Luc 23: BWM1955C
සළකුණු කරන්න
බෙදාගන්න
පිටපත් කරන්න

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society