Luc 24
24
A.D. 33. —
1 Dau angel yn mynegi atgyfodiad Crist i’r gwragedd oedd yn dyfod at y bedd; 9 a’r rhai hynny yn ei adrodd i eraill. 13 Crist ei hun yn ymddangos i’r ddau ddisgybl oedd yn myned i Emaus: 36 ac wedi hynny i’r apostolion; ac yn ceryddu eu hanghrediniaeth hwy: 47 yn rhoddi gorchymyn iddynt: 49 ac yn addo yr Ysbryd Glân: 51 ac felly yn esgyn i’r nefoedd.
1A’r #Mat 28:1; Marc 16:1; Ioan 20:1 dydd cyntaf o’r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a baratoesent, a rhai gyda hwynt. 2A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd. 3Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. 4A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair. 5Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tua’r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio #24:5 yr hwn sydd yn fyw, & c.y byw ymysg y meirw? 6Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. #Mat 16:21; 17:23; Marc 9:31; Pen 9:22Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe eto yng Ngalilea, 7Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi. 8A #Ioan 2:22hwy a gofiasant ei eiriau ef; 9#Mat 28:8; Marc 16:10Ac a ddychwelsant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg, ac i’r lleill oll. 10A Mair Magdalen, a #Pen 8:3Joanna, a Mair mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion. 11A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt. 12#Ioan 20:3, 6Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod o’r neilltu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.
13 #
Marc 16:12
Ac wele, dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a’i henw Emaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem. 14Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent. 15A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn â’i gilydd, #Mat 18:20; Ad. 36yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt. 16Eithr #Ioan 20:14; 21:4eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef. 17Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw’r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wyneptrist? 18Ac un ohonynt, a’i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerwsalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn? 19Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nasareth, #Mat 21:11; Pen 7:16 Ioan 4:19; 6:14yr hwn oedd ŵr o broffwyd, #Act 7:22galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl; 20A’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a’i croeshoeliasant ef. 21Ond yr oeddem ni yn gobeithio #Pen 2:38; Act 1:6mai efe oedd yr hwn a waredai’r Israel. Ac heblaw hyn oll, heddiw yw’r trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn. 22A hefyd #Mat 28:8; Marc 16:10; Ioan 20:18rhai gwragedd ohonom ni a’n dychrynasant ni, gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd: 23A phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw. 24A rhai o’r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasai’r gwragedd: ond ef nis gwelsant. 25Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu’r holl bethau a ddywedodd y proffwydi! 26#Ad. 46; Act 17:3; 1 Pedr 1:11Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i’w ogoniant? 27A chan ddechrau ar #Gen 3:15; 22:18; 26:4; 49:10; Deut 18:15Moses, a’r #Salm 132:11; Esa 7:14; 9:6; 40:10; Jer 23:5; 33:14; Esec 34:23; 37:25; Dan 9:24; Micha 7:20; Edrych Ioan 1:45holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun. 28Ac yr oeddynt yn nesáu i’r dref lle yr oeddynt yn myned: ac #Edrych Gen 32:26; 42:7; Marc 6:48yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach. 29A #Gen 19:3; Act 16:15hwy a’i cymellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrhau, a’r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt. 30A darfu, ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt. 31A’u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a’i hadnabuant ef: ac efe a #24:31 Neu, aeth yn anweledig iddynt.ddiflannodd allan o’u golwg hwynt. 32A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau? 33A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelsant i Jerwsalem, ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r sawl oedd gyda hwynt, 34Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac #1 Cor 15:5a ymddangosodd i Simon. 35A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.
36 #
Marc 16:14; Ioan 20:19 Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. 37Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a dybiasant weled ohonynt ysbryd. 38Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y’ch trallodir? a phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau? 39Edrychwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw: #Ioan 20:20, 27teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi. 40Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed. 41Ac a hwy eto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, #Ioan 21:5A oes gennych chwi yma ddim bwyd? 42A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl. 43Yntau a’i cymerodd, ac a’i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt. 44Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Mat 16:21; 17:22; 20:18; Pen 9:22; 18:31; Ad 6Dyma’r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r salmau, amdanaf fi. 45Yna #Act 16:14yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau. 46Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Salm 22; Esa 53:2, &c; Act 17:3Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd: 47A phregethu edifeirwch a #Act 13:38; 1 Ioan 2:12maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem. 48Ac yr ydych #Ioan 15:27; Act 1:8chwi yn dystion o’r pethau hyn.
49Ac wele, #Ioan 14:16, 26; 15:26; 16:7; Act 1:4; 2:1, &cyr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder.
50Ac efe a’u dug hwynt allan #Act 1:12hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a’u bendithiodd hwynt. 51#Marc 16:19; Act 1:9Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef. 52#Mat 28:9, 17Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelsant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr: 53Ac yr oeddynt yn wastadol #Act 2:46; 5:42yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Luc 24: BWM1955C
සළකුණු කරන්න
බෙදාගන්න
පිටපත් කරන්න

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society