Luc 22
22
A.D. 33. —
1 Yr Iddewon yn cyd‐fwriadu yn erbyn Crist. 3 Satan yn paratoi Jwdas i’w fradychu ef. 7 Yr apostolion yn arlwyo y pasg. 19 Crist yn ordeinio ei swper sanctaidd: 21 yn guddiedig yn rhagfynegi am y bradychwr: 24 yn annog y rhan arall o’i apostolion i ochelyd rhyfyg: 31 yn sicrhau Pedr na phallai ei ffydd ef: 34 ac er hynny y gwadai efe ef dair gwaith: 39 yn gweddïo yn y mynydd; ac yn chwysu gwaed: 47 yn cael ei fradychu â chusan: 50 yn iacháu clust Malchus: 54 yn cael ei wadu dair gwaith gan Pedr, 63 a’i amharchu yn gywilyddus; 66 ac yn cyfaddef ei fod yn Fab Duw.
1A #Mat 26:2; Marc 14:1nesaodd gŵyl y bara croyw, yr hon a elwir y pasg. 2A’r #Salm 2:2; Ioan 11:47; Act 4:27archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.
3 #
Mat 26:14; Ioan 13:2, 27 A Satan a aeth i mewn i Jwdas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi’r deuddeg. 4Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r #22:4 capteiniaid.blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt. 5Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gytunasant ar roddi arian iddo. 6Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynt #22:6 heb gythrwfl y dyrfa.yn absen y bobl.
7 #
Mat 26:17; Marc 14:12 A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg. 8Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni’r pasg, fel y bwytaom. 9A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni baratoi ohonom? 10Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i’r tŷ lle yr êl efe i mewn. 11A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion? 12Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr, wedi ei thaenu: yno paratowch. 13A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a baratoesant y pasg. 14#Mat 26:20; Marc 14:17A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a’r deuddeg apostol gydag ef. 15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi #22:15 gan chwennych a chwenychais, & c.a chwenychais yn fawr fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof. 16Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi mwyach ohono, #Pen 14:15; Dat 19:9hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw. 17Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhennwch yn eich plith: 18Canys #Mat 26:29; Marc 14:25yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.
19 #
Mat 26:26; Marc 14:22; 1 Cor 11:23 Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf. 20Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.
21 #
Salm 41:9; Mat 26:21, 23; Marc 14:18; Ioan 13:21, 26 Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd. 22Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, #Act 2:23; 4:28megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae’r dyn hwnnw, trwy’r hwn y bradychir ef! 23Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy ohonynt oedd yr hwn a wnâi hynny.
24A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf. 25#Mat 20:25; Marc 10:42Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion. 26#1 Pedr 5:3Ond na fyddwch chwi felly: #Pen 9:48eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a’r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. 27Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai’r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr #Mat 20:28; Ioan 13:13, 14; Phil 2:7yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu. 28A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn #Heb 4:15fy mhrofedigaethau. 29Ac #Mat 24:47; Pen 12:32yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau; 30Fel #Mat 8:11; Pen 14:15; Dat 19:9y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, #Salm 49:14; Mat 19:28; Dat 3:21ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
31A’r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, #1 Pedr 5:8Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fel gwenith: 32Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: #Ioan 21:15, 16, 17tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr. 33Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau. 34#Mat 26:34; Marc 14:30; Ioan 13:38Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi. 35Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Mat 10:9; Pen 9:3; 10:4Pan y’ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Naddo ddim. 36Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymered; a’r un modd god: a’r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf. 37Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd; sef, #Esa 53:12; Marc 15:28A chyda’r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i’r pethau amdanaf fi. 38A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39 #
Mat 26:36; Marc 14:32; Ioan 18:1 Ac wedi iddo fyned allan, #Pen 21:37efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a’i ddisgyblion hefyd a’i canlynasant ef. 40#Mat 26:41; Marc 14:38; Ad. 46A phan ddaeth efe i’r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth. 41#Mat 26:39Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd, 42Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi #22:42 tro.droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny #Ioan 6:38nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. 43Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. 44#Ioan 12:27; Heb 5:7Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear. 45A phan gododd efe o’i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch; 46Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a #Ad. 40gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.
47Ac efe eto yn llefaru, #Mat 26:47; Marc 14:43; Ioan 18:3wele dyrfa; a’r hwn a elwir Jwdas, un o’r deuddeg, oedd yn myned o’u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i’w gusanu ef. 48A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Jwdas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn? 49A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a drawn ni â chleddyf?
50A #Mat 26:51; Marc 14:47; Ioan 18:10rhyw un ohonynt a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef. 51A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn. Ac efe a gyffyrddodd â’i glust, ac a’i hiachaodd ef. 52#Mat 26:55; Marc 14:48A’r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a #22:52 chapteiniaid.blaenoriaid y deml, a’r henuriaid, y rhai a ddaethent ato, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn? 53Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylo i’m herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu’r tywyllwch.
54 #
Mat 26:57
A hwy a’i daliasant ef, ac a’i harweiniasant, ac a’i dygasant i mewn i dŷ’r archoffeiriad. A Phedr a ganlynodd o hirbell. 55#Mat 26:69; Marc 14:66Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd, a chydeistedd ohonynt, eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt. 56A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef. 57Yntau a’i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef. 58Ac ychydig wedi, un arall a’i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un ohonynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf. 59Ac ar ôl megis ysbaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilead yw. 60A Phedr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, canodd y ceiliog. 61A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, #Mat 26:34, 75Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith. 62A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.
63 #
Mat 26:67
A’r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a’i gwatwarasant ef, gan ei daro. 64Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a’i trawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Proffwyda, pwy yw’r hwn a’th drawodd di? 65A llawer o bethau eraill, gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef.
66 #
Mat 27:1
A phan aeth hi yn ddydd, ymgynullodd henuriaid y bobl, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, ac a’i dygasant ef i’w #22:66 senedd.cyngor hwynt, 67Gan ddywedyd, #22:67 Os ti yw Crist.Ai ti yw Crist? dywed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim: 68Ac os gofynnaf hefyd i chwi, ni’m hatebwch, ac ni’m gollyngwch ymaith. 69#Mat 26:64; Heb 1:3; 8:1Ar ôl hyn y bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw. 70A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Marc 14:62Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod. 71Hwythau a ddywedasant, Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? canys clywsom ein hunain o’i enau ef ei hun.
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Luc 22: BWM1955C
සළකුණු කරන්න
බෙදාගන්න
පිටපත් කරන්න

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society