Luc 21
21
A.D. 33. —
1 Crist yn canmol y weddw dlawd: 5 yn rhagfynegi dinistr y deml a dinas Jerwsalem; 25 a’r arwyddion a fydd o flaen y dydd diwethaf: 34 ac yn eu hannog hwy i fod yn wyliadwrus. 37 Arfer Crist tra fu yn Jerwsalem.
1Ac wedi iddo edrych i fyny, efe #Marc 12:41a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa. 2Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy #21:2 Edrych Marc 12:42hatling. 3Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, #2 Cor 8:12fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll: 4Canys y rhai hyn oll o’r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o’i phrinder a fwriodd i mewn yr holl #21:4 gyfoeth.fywyd a oedd ganddi.
5 #
Mat 24:1; Marc 13:1 Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml, ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd, 6Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw’r dyddiau yn y rhai #Pen 19:44ni adewir maen ar faen, a’r nis datodir. 7A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athro, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod? 8Ac efe a ddywedodd, #Eff 5:6; 2 Thess 2:3Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; a’r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hôl hwynt. 9A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw: canys rhaid i’r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man. 10#Mat 24:7Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: 11A daeargrynfâu mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau; a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o’r nef. 12#Marc 13:9; Dat 2:10Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a’ch erlidiant, gan eich traddodi i’r synagogau, ac #Act 4:3; 5:18; 12:4; 16:24i garcharau, #Act 25:23wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i. 13Eithr #Phil 1:28; 2 Thess 1:5fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth. 14#Mat 10:19; Marc 13:11; Pen 12:11Am hynny #21:14 gosodwch yn eich calonnau, na, & c.rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch: 15Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, #Act 6:10yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na’i gwrthsefyll. 16#Micha 7:6A chwi a fradychir, ie, gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac #Act 7:59; 12:2 i rai ohonoch y parant farwolaeth. 17A #Mat 10:22chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i. 18#Mat 10:30Ond ni chyll blewyn o’ch pen chwi. 19Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau. 20#Mat 24:15; Marc 13:14A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd‐dra hi wedi nesáu. 21Yna y rhai fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd; a’r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant; a’r rhai a fyddant yn y meysydd, nac elont i mewn iddi. 22Canys dyddiau dial yw’r rhai hyn, #Dan 9:26, 27; 12:7; Sech 11:1i gyflawni’r holl bethau a ysgrifennwyd. 23Eithr gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn. 24A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, #Rhuf 11:25hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd.
25 #
Act 2:20; 2 Pedr 3:10, 12 A bydd arwyddion yn yr haul, a’r lleuad, a’r sêr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a’r môr a’r tonnau yn rhuo; 26A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. 27Ac yna y gwelant Fab y dyn #Dat 1:7; 14:14yn dyfod mewn cwmwl, gyda gallu a gogoniant mawr. 28A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys #Rhuf 8:19, 23y mae eich ymwared yn nesáu. 29#Mat 24:32; Marc 13:28Ac efe a ddywedodd ddameg iddynt; Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl brennau; 30Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch ac a wyddoch ohonoch eich hun, fod yr haf yn agos. 31Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos. 32Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben. 33#Mat 24:35Y nef a’r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
34Ac #Rhuf 13:13; 1 Thess 5:6; 1 Pedr 4:7edrychwch arnoch eich hunain, rhag i’ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth; 35Canys #1 Thess 5:2; 2 Pedr 3:10; Dat 3:3; 16:15efe a ddaw, fel magl, ar warthaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear. 36#Mat 24:42; Marc 13:33Gwyliwch gan hynny a #Pen 18:1gweddïwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac #Salm 1:5; Eff 6:13i sefyll gerbron Mab y dyn. 37#Ioan 8:1, 2A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a’r #Pen 22:39nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd. 38A’r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml, i’w glywed ef.
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Luc 21: BWM1955C
සළකුණු කරන්න
බෙදාගන්න
පිටපත් කරන්න

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society