Luc 20
20
A.D. 31. —
1 Crist yn profi ei awdurdod, trwy ymofyn am fedydd Ioan. 9 Dameg y winllan. 19 Am roddi teyrnged i Cesar. 27 Y mae efe yn gorchfygu y Sadwceaid, y rhai a wadent yr atgyfodiad. 41 Y modd y mae Crist yn fab Dafydd. 45 Y mae efe yn rhybuddio ei ddisgyblion i ochelyd yr ysgrifenyddion.
1A #Mat 21:23digwyddodd ar un o’r dyddiau hynny, ac efe yn dysgu’r bobl yn y deml, ac yn pregethu’r efengyl, ddyfod arno yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, gyda’r henuriaid, 2A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, #Act 4:7; 7:27Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw’r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon? 3Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi: 4Bedydd Ioan, ai o’r nef yr ydoedd, ai o ddynion? 5Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef? 6Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a’n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fod Ioan yn broffwyd. 7A hwy a atebasant, nas gwyddent o ba le. 8A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
9Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl; #Mat 21:38; Marc 12:1Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a’i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser. 10Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a’i curasant ef, ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw. 11Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a amharchasant hwnnw hefyd, ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw. 12Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a’i bwriasant ef allan. 13Yna y dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy annwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef. 14Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymasant â’i gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw’r etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo’r etifeddiaeth yn eiddom ni. 15A hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy? 16Efe a ddaw, ac a ddifetha’r llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na ato Duw. 17Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifennwyd, #Salm 118:22; Mat 21:42Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl? 18Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac #Dan 2:34, 35; Mat 21:44ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef.
19A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddameg hon. 20#Mat 22:15A hwy a’i gwyliasant ef, ac a yrasant gynllwynwyr, y rhai a gymerent arnynt eu bod yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, i’w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw. 21A hwy a ofynasant iddo ef, gan ddywedyd, #Mat 22:16; Marc 12:14Athro, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd. 22Ai cyfreithlon i ni roi teyrnged i Gesar, ai nid yw? 23Ac efe a ddeallodd eu cyfrwystra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? 24Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraff pwy sydd arni? A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cesar. 25Ac efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. 26Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef gerbron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy a dawsant â sôn.
27 #
Mat 22:23; Marc 12:18 A rhai o’r Sadwceaid (#Act 23:6, 8y rhai sydd yn gwadu nad oes atgyfodiad,) a ddaethant ato ef, ac a ofynasant iddo, 28Gan ddywedyd, Athro, #Deut 25:5Moses a ysgrifennodd i ni, Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw ohono yn ddi‐blant, ar gymryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd. 29Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a’r cyntaf a gymerodd wraig, ac a fu farw yn ddi‐blant. 30A’r ail a gymerth y wraig, ac a fu farw yn ddi‐blant. 31A’r trydydd a’i cymerth hi; ac yr un ffunud y saith hefyd: ac ni adawsant blant, ac a fuont feirw. 32Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd. 33Yn yr atgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy un ohonynt yw hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig. 34A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Plant y byd hwn sydd yn gwreica, ac yn gwra: 35Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnnw, a’r atgyfodiad oddi wrth y meirw, nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra: 36Canys ni allant farw mwy: oblegid #1 Ioan 3:2cyd‐stad ydynt â’r angylion: a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr atgyfodiad. 37Ac y cyfyd y meirw, #Exod 3:6Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob. 38Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys #Rhuf 6:10pawb sydd fyw iddo ef. 39Yna rhai o’r ysgrifenyddion gan ateb a ddywedasant, Athro, da y dywedaist. 40Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef.
41Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Mat 22:42; Marc 12:35Pa fodd y maent yn dywedyd fod Crist yn fab i Ddafydd? 42Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Salmau, #Salm 110:1Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, 43Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di. 44Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo?
45 #
Marc 12:38
Ac a’r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 46#Mat 23:5Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion, ac a #Pen 11:43garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd; 47#Mat 23:14Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Luc 20: BWM1955C
සළකුණු කරන්න
බෙදාගන්න
පිටපත් කරන්න

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society