Luc 19
19
A.D. 33. —
1 Am Saccheus y publican. 11 Y deg darn o arian. 28 Crist yn marchogaeth i Jerwsalem mewn gorfoledd: 41 yn wylo drosti: 45 yn gyrru y prynwyr a’r gwerthwyr allan o’r deml; 47 gan athrawiaethu beunydd ynddi. Y llywodraethwyr a fynnent ei ddifetha ef, oni bai rhag ofn y bobl.
1A’r Iesu a aeth i mewn, ac a aeth trwy Jericho. 2Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Saccheus, ac efe oedd ben‐publican, a hwn oedd gyfoethog. 3Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth. 4Ac efe a redodd o’r blaen, ac a ddringodd i sycamorwydden, fel y gallai ei weled ef; oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno. 5A phan ddaeth yr Iesu i’r lle, efe a edrychodd i fyny, ac a’i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Saccheus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddiw aros yn dy dŷ di. 6Ac efe a ddisgynnodd ar frys, ac a’i derbyniodd ef yn llawen. 7A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned ohono ef i mewn i letya at ŵr pechadurus. 8A Saccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os dygais ddim o’r eiddo neb trwy #Exod 22:1; Pen 3:14gamachwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd. 9A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddiw y daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, oherwydd #Rhuf 4:11, 12, 16; Gal 3:7ei fod yntau #Pen 13:16yn fab i Abraham. 10#Mat 18:11; Edrych Mat 10:6; 15:24Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid.
11Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddameg, am ei fod efe yn agos i Jerwsalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan. 12#Mat 25:14Am hynny y dywedodd efe, Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn teyrnas iddo’i hun, ac i ddychwelyd. 13Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddes iddynt ddeg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnatewch hyd oni ddelwyf. 14Eithr ei ddinaswyr a’i casasant ef, ac a ddanfonasant genadwri ar ei ôl ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom. 15A bu, pan ddaeth efe yn ei ôl, wedi derbyn y deyrnas, erchi ohono ef alw’r gweision hyn ato, i’r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnata. 16A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a enillodd ddeg punt. 17Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da: am i ti fod #Pen 16:10yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas. 18A’r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt. 19Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bum dinas. 20Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napgyn: 21Canys mi a’th ofnais, am dy fod yn ŵr tost: yr wyt ti yn cymryd i fyny y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist. 22Yntau a ddywedodd wrtho, #2 Sam 1:16; Mat 12:37O’th enau dy hun y’th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn ŵr tost, yn cymryd i fyny y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais: 23A phaham na roddaist fy arian i i’r bwrdd cyfnewid, fel, pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyda llog? 24Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i’r hwn sydd â deg punt ganddo; 25(A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt;) 26Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, #Mat 13:12; 25:29; Marc 4:25; Pen 8:18mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo. 27A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i.
28Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, #Marc 10:32efe a aeth o’r blaen, gan fyned i fyny i Jerwsalem. 29#Mat 21:1; Marc 11:1Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethffage a Bethania, i’r mynydd a elwir Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, 30Gan ddywedyd, Ewch i’r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed: gollyngwch ef, a dygwch yma. 31Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho. 32A’r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt. 33Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchenogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol? 34A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i’r Arglwydd wrtho ef. 35A hwy a’i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno. 36Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd. 37Ac weithian, ac efe yn nesáu at ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent; 38Gan ddywedyd, #Salm 118:26Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: #Pen 2:14; Eff 2:14Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y #19:38 goruchelder.goruchaf. 39A rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion. 40Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai’r rhai hyn, #Hab 2:11y llefai’r cerrig yn y fan.
41Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti, 42Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i’th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid. 43Canys daw’r dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bob parth, 44Ac #1 Bren 9:7, 8; Micha 3:12a’th wnânt yn gydwastad â’r llawr, a’th blant o’th fewn; ac #Mat 24:2; Marc 13:2; Pen 21:6ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad. 45#Mat 21:12; Marc 11:11, 15Ac efe a aeth i mewn i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu; 46Gan ddywedyd wrthynt, #Esa 56:7Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr #Jer 7:11chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 47Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml. A’r #Marc 11:18; Ioan 7:19; 8:37archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a phenaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef; 48Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno.
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Luc 19: BWM1955C
සළකුණු කරන්න
බෙදාගන්න
පිටපත් කරන්න

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society