Luc 18
18
A.D. 33. —
3 Am y weddw daer. 9 Am y Pharisead a’r publican. 15 Dwyn plant at Grist. 18 Y llywydd a fynnai ganlyn Crist, ond a rwystrir gan ei gyfoeth. 28 Gwobr y rhai a ymadawant â’r cwbl oll er ei fwyn ef. 31 Y mae efe yn rhagfynegi ei farwolaeth; 35 ac yn rhoddi i ddyn dall ei olwg.
1Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo #Pen 21:36; Rhuf 12:12; Eff 6:18; Col 4:2; 1 Thess 5:17yn wastad, ac heb ddiffygio; 2Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn #18:2 dinas.rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn. 3Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr. 4Ac efe nis gwnâi dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn; 5Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a’i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m syfrdanu i. 6A’r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn. 7Ac #Dat 6:10oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt? 8Yr wyf yn dywedyd i chwi, #Heb 10:37; 2 Pedr 3:8, 9y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaear?
9Ac efe a ddywedodd y ddameg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt #18:9 megis pe baent, & c.eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill: 10Dau ŵr a aeth i fyny i’r deml i weddïo; un yn Pharisead, a’r llall yn bublican. 11Y Pharisead o’i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn; #Esa 1:15; 58:2; Dat 3:17O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith. 12Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymu cymaint oll ag a feddaf. 13A’r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua’r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur. 14Dywedaf i chwi, Aeth hwn i waered i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy na’r llall: #Job 22:29; Mat 23:12; Pen 14:11; Iago 4:6; 1 Pedr 5:5, 6canys pob un a’r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir; a phob un a’r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
15 #
Mat 19:13; Marc 10:13 A hwy a ddygasant ato blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion pan welsant, a’u ceryddasant hwy. 16Eithr yr Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Gadewch i’r plant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys #1 Cor 14:20; 1 Pedr 2:2eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw. 17#Marc 10:15Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.
18 #
Mat 19:16; Marc 10:17 A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol? 19A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y’m gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw. 20Ti a wyddost y gorchmynion, #Exod 20:12, 16; Rhuf 13:9Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, #Eff 6:2; Col 3:20Anrhydedda dy dad a’th fam. 21Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o’m hieuenctid. 22A’r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth eto yn ôl i ti: #Mat 6:19, 20; 19:21; 1 Tim 6:19gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. 23Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn. 24A’r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, #Diar 11:28; Mat 19:23Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw! 25Canys haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 26A’r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig? 27Ac efe a ddywedodd, #Jer 32:17; Sech 8:6; Mat 19:26; Pen 1:37Y pethau sydd amhosibl gyda dynion, sydd bosibl gyda Duw. 28#Mat 19:26A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di. 29Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, #Deut 33:9Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw, 30#Job 42:10A’r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.
31 #
Mat 16:21; 17:22; 20:17; Marc 10:32 Ac efe a gymerodd y deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a chyflawnir pob peth #Salm 22; Esa 53a’r sydd yn ysgrifenedig trwy’r proffwydi am Fab y dyn. 32Canys #Mat 27:2; Pen 23:1 Ioan 18:28; Act 3:13efe a draddodir i’r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a amherchir, ac a boerir arno: 33Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a’r trydydd dydd efe a atgyfyd. 34A hwy ni ddeallasant ddim o’r pethau hyn; a’r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.
35 #
Mat 20:29; Marc 10:46 A bu, ac efe yn nesáu at Jericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardota: 36A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn. 37A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nasareth oedd yn myned heibio. 38Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 39A’r rhai oedd yn myned o’r blaen a’i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 40A’r Iesu a safodd, ac a orchmynnodd ei ddwyn ef ato. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynnodd iddo, 41Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael ohonof fy ngolwg. 42A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymer #Pen 17:19dy olwg: dy ffydd a’th iachaodd. 43Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a’i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A’r holl bobl, pan welsant, a roesant foliant i Dduw.
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Luc 18: BWM1955C
සළකුණු කරන්න
බෙදාගන්න
පිටපත් කරන්න

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society