Luc 3

3
Pregethu Ioan Fedyddiwr
Mth. 3:1–12; Mc. 1:1–8; In. 1:19–28
1Yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Pilat yn llywodraethu ar Jwdea, a Herod yn dywysog Galilea, a phan oedd Philip ei frawd yn dywysog tiriogaeth Itwrea a Trachonitis, a Lysanias yn dywysog Abilene, 2ac yn amser archoffeiriadaeth Annas a Caiaffas, daeth gair Duw at Ioan fab Sachareias yn yr anialwch. 3Aeth ef drwy'r holl wlad oddi amgylch yr Iorddonen gan gyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau, 4fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr geiriau'r proffwyd Eseia:
“Llais un yn galw yn yr anialwch,
‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,
unionwch y llwybrau iddo.
5Caiff pob ceulan ei llenwi,
a phob mynydd a bryn ei lefelu;
gwneir y llwybrau troellog yn union,
a'r ffyrdd garw yn llyfn;
6a bydd y ddynolryw oll yn gweld iachawdwriaeth Duw.’ ”
7Dywedai wrth y tyrfaoedd oedd yn dod allan i'w bedyddio ganddo: “Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod? 8Dygwch ffrwythau gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch. Peidiwch â dechrau dweud wrthych eich hunain, ‘Y mae gennym Abraham yn dad’, oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn. 9Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.” 10Gofynnai'r tyrfaoedd iddo, “Beth a wnawn ni felly?” 11Atebai yntau, “Rhaid i'r sawl sydd ganddo ddau grys eu rhannu ag unrhyw un sydd heb grys, a rhaid i'r sawl sydd ganddo fwyd wneud yr un peth.” 12Daeth casglwyr trethi hefyd i'w bedyddio, ac meddent wrtho, “Athro, beth a wnawn ni?” 13Meddai yntau wrthynt, “Peidiwch â mynnu dim mwy na'r swm a bennwyd ichwi.” 14Byddai dynion ar wasanaeth milwrol hefyd yn gofyn iddo, “Beth a wnawn ninnau?” Meddai wrthynt, “Peidiwch ag ysbeilio neb trwy drais neu gamgyhuddiad, ond byddwch fodlon ar eich cyflog.”
15Gan fod y bobl yn disgwyl, a phawb yn ystyried yn ei galon tybed ai Ioan oedd y Meseia, 16dywedodd ef wrth bawb: “Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr; ond y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandalau ef. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân. 17Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, i nithio'n lân yr hyn a ddyrnwyd, ac i gasglu'r grawn i'w ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw â thân anniffoddadwy.” 18Fel hyn, a chyda llawer anogaeth arall hefyd, yr oedd yn cyhoeddi'r newydd da i'r bobl. 19Ond gan ei fod yn ceryddu'r Tywysog Herod ynglŷn â Herodias, gwraig ei frawd, ac ynglŷn â'i holl weithredoedd drygionus, 20ychwanegodd Herod y drygioni hwn at y cwbl, sef cloi Ioan yng ngharchar.
Bedydd Iesu
Mth. 3:13–17; Mc. 1:9–11
21Pan oedd yr holl bobl yn cael eu bedyddio, yr oedd Iesu, ar ôl ei fedydd ef, yn gweddïo. Agorwyd y nef, 22a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno mewn ffurf gorfforol fel colomen; a daeth llais o'r nef: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”#3:22 Yn ôl darlleniad arall, “Fy Mab wyt ti; myfi a'th genhedlodd di heddiw.”
Llinach Iesu
Mth. 1:1–17
23Tua deng mlwydd ar hugain oed oedd Iesu ar ddechrau ei weinidogaeth. Yr oedd yn fab, yn ôl y dybiaeth gyffredin, i Joseff fab Eli, 24fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Jannai, fab Joseff, 25fab Matathias, fab Amos, fab Nahum, fab Esli, fab Nagai, 26fab Maath, fab Matathias, fab Semein, fab Josech, fab Joda, 27fab Joanan, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri, 28fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmadam, fab Er, 29fab Josua, fab Elieser, fab Jorim, fab Mathat, fab Lefi, 30fab Simeon, fab Jwda, fab Joseff, fab Jonam, fab Eliacim, 31fab Melea, fab Menna, fab Matatha, fab Nathan, fab Dafydd, 32fab Jesse, fab Obed, fab Boas, fab Salmon, fab Nahson, 33fab Amminadab, fab Admin, fab Arni, fab Hesron, fab Peres, fab Jwda, 34fab Jacob, fab Isaac, fab Abraham, fab Tera, fab Nachor, 35fab Serug, fab Reu, fab Peleg, fab Heber, fab Sela, 36fab Cenan, fab Arffaxad, fab Sem, fab Noa, fab Lamech, 37fab Methwsela, fab Enoch, fab Jered, fab Maleleel, fab Cenan, 38fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.

Выбрано:

Luc 3: BCND

Выделить

Поделиться

Копировать

None

Хотите, чтобы то, что вы выделили, сохранялось на всех ваших устройствах? Зарегистрируйтесь или авторизуйтесь