Marc 14:3-9

Marc 14:3-9 DAFIS

We Iesu in Bethania in tŷ Seimon, i dyn we cwrên tost 'dag e. Pan wêdd‐e'n ishte wrth i ford in bita bwyd, dath menyw miwn ato fe in cario botel alabaster in llawn sent, (nard neis a drud iawn we'r sent 'ma). Torrodd i fenyw'r botel in agor a allwish i sent dros i ben e i gyd. We rhei dinion in gweud in gas wrth i gily, “Beth we'r point wasto'r sent 'na i gyd? Gallech chi fod wedi gwerthu'r sent am ganodd o bunne, a galle'r arian fod wedi câl i roi i'r bobol llwm”; a wên‐nhwy'n gas wrthi‐hi. Ond wedo Iesu, “Gadwch hi fod. Pam ŷch‐chi'n i phoeni 'ddi? Ma‐i wedi neud rhwbeth pert iawn i fi. Ma'r bobol llwm in mind i fod 'da chi rownbowt, a gallwch chi neud pethe da iddon nhwy pryd bennag ŷch‐chi moyn, ond bydda‐i ddim 'da chi o hyd. Mae‐i wedi neud beth galle‐hi: mae‐i wedi rhoi sent ar in gorff i in barod iddo gâl i gladdu. Dw‐i'n gweud i gwir wrthoch chi, ble binnag in i byd mowr 'ma bydd ir ifingyl in câl i phrigethu, bydd dinion in sôn amdani 'ddi, a bydd‐i'n câl i chofio.”

Читать Marc 14