Luc 8

8
1-2Wedi hyn trafeilodd‑e trwy in tref fach a pentre wedi'i gilyd, in cihoeddi a prigethu Newyddion Da Teyrnas Dduw. We'r Douddeg 'dag e, a rhai o'r menwod we wedi câl u gwella o isbrydodd drwg a salwch. Rhein we Mair, we'n câl i galw in Magdalen, we saith cithrel wedi câl u towlu mas oni hi; 3Joannu, gwraig Chusa we'n drych ar ôl tir Herod; Susanna, a lot o rei erill. A we'r menwod hyn in gofalu amdanyn nhwy mas o'u harian u hunen.
4We crowd mowr in dod ato, dinion o lot fowr o drefi. Gwedodd‑e wrthyn nhwy, mewn dameg, 5“Âth howr mas i hou i hâd. Fel wedd‑e'n hou, cwmpodd peth o'r hâd ar bwys ir hewl a nâth dinion ddamshel arno, a dâth adar a'i fita. 6-10Cwpodd peth ar graig, pan diddodd e nâth e wywo achos bo dim lleithder 'na. Cwpodd peth in ganol i drisi, a tiddu gida'r drisu, a châl i dagu. Cwpodd peth ar bridd da, a tiddu, a rhoi ffrwyth nôl ganwaith am beth gâs i hou in i lle cinta.” A wedi 'ddo weud i pethe hyn gweiddodd‑e mas, “Os wes cluste 'da chi, iwswch nhwy.”
Holo'r disgiblion iddo beth we'r ddameg in goligu. Gwedodd‑e, “Ŷch‑chi wedi câl hawl i wbod beth yw cifrinach Teyrnas Dduw, ond ma'r rest in câl cliwed ar ddamegion, fel bo nhwy'n gweld heb ddirnad a cliwed heb ddiall.
11-25“'Co beth ma'r ddameg in goligu: Ir hâd yw neges Duw. Ma'r hâd gâs i hou ar bwys ir hewl in goligu i rhei sy wedi cliwed, ond wedyn ma'r jawl in dod a'n cwmrid i neges o'u meddilie, fel bo nhwy ddim in credu a câl u safio. Ma'r hâd gâs i hou ar graig in goligu'r rhei, pan man‑nhwy'n cliwed, in derbyn i neges in llowen, ond sdim gwreidde 'da nhwy; man‑nhwy'n credu am damed bach, ond pan ma treialon bowid yn dod ma‐nhwy'n cwmpo bant. Ma'r hâd gwmpodd in i drisi in goligu'r rhei sy wedi cliwed, ond wrth iddyn nhwy fynd ar u ffordd man‑nhwy'n câl u tagu 'da gofidie, 'da cifoth a plesere'r byd, a ddim in rhoi unrhiw ffrwyth in iawn. Ma'r hâd in i tir 'da in goligu'r dinion da a onest 'ny sy'n cliwed i neges, in dala'n sownd indo in u calone a'n sefill in gadarn nes bod i cineia in dod.
“Sneb in cinnu canwill a'n rhoi llester dros i phen, neu'n i rhoi 'ddi dan gwely. Nadyn, man‑nhwy i rhoi ddi mewn stand lamp, fel bo'r rhei sy'n dod miwn in galler gweld i gole. Achos sdim byd sy'n câl i gwato na fydd in dod miwn i'r gole, sdim byd wedi'i roi nôl na fydd in câl i wbod a'i ddangos. Biddwch in ofalus wedyn 'te shwt ŷch‑chi'n grondo; achos i'r rhei ma rhwbeth gida nhwy, ceith mwy i roi, a wrtho fe sdim byd 'dag e, bydd hyd‑'nôd beth mae‑e'n meddwl sy 'dag e in câl i gwmrid bant.”
Dâth i fam a'i frodyr ato, ond wen‑nhwy'n ffaelu mind miwn ato fe achos i crowd. Dâth dinion â'r hanes ato fe, “Ma di fam a di frodyr in sefyll tu-fas, a man‑nhwy am di weld di.” Atebodd‑e nhwy, “In fam i a'n frodyr i yw'r hrei sy'n cliwed neges Duw a'n neud rhwbeth amdano.”
Un dwarnod âth‑e a'i ddisgiblion miwn i gwch, a gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Gadwch inni groeshi i ochor arall i llyn.” So bant â nhwy. Wrth iddyn nhwy fynd cwmpodd‑e i gisgu. Dâth cwthwm o wynt lawr ar i llyn, we'r cwch in llewni 'da dŵr, a we pethe'n drych in ddansherus. Dethon‑nhwy ato fe a'i ddihuno, a gweud, “Mishtir, Mishtir, ŷn‑ni'n shinco.” Dihunodd‑e a sharad in grac 'da'r gwynt a'r dŵr rwff. Stopodd i mathew a we popeth in dawel. Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Ble ma'ch ffydd chi?” Dâth ofon arnyn nhwy a wen‑nhwy'n sinnu, in gweud wrth u gilydd, “Pwy yw hwn? Mae‑e'n rhoi ordors hyd‑'nôd i'r gwynt a'r dŵr, a man‑nhwy'n grondo arno fe.”
26Ethon‑nhwy in i cwch draw i ardal y Gerasenied, sy ari lan goddereb â Galilea. 27Pan âth‑e i'r lan dâth dyn o'r dre i gwrdd ag e. We cithreilied indo fe a amser hir wedd‑e ddim wedi gwishgo dillad; a wedd‑e ddim in byw miwn tŷ ond in i twme. 28Pan welodd‑e Iesu, gweiddodd‑e, cwpo lawr o'i flân e a gweud â llaish uchel, “Pam wit‑ti'n hanlo busnes 'da fi, Iesu, Crwt i Duw Mowr Uchel? Dw‑i'n begian arnot ti, pan neud dim byd cas ifi.” 29Achos wedd‑e'n rhoi ordors i'r isbryd bowlyd ddod mas o'r dyn. Wedd‑e wedi cidjo indo fe lot o weithe, a wen‑nhwy'n arfer i glwmu e lan 'da tjaens a lloithirie, a we dinion in drych ar i ôl e; ond wedd‑e'n arfer torri'r lloithirie a'r cithrel in i hala fe mas i'r lle diffeth. 30Holo Iesu iddo, “Beth yw di enw di?” Gwedodd‑e “Lleng”, achos we lot o githreilied wedi mynd miwn iddo. 31-56Begianon‑nhwy iddo fe beido u hala nhwy i fynd i le'r cithreilied. We lot fowr o foch in pori fan 'ny ar i mini; a begianodd i cithreilied i adel iddyn nhwy fynd miwn i'r moch. Nâth‑e 'ny. Dâth i cithreilied mas o'r dyn a mind miwn i'r mohc, a rhedon‑nhwy lawr dros i dwnshwn a miwn i'r llyn a châl u boddi. Pan welo'r rhei we'n drich ar ôl i moch beth we wedi digwydd fe redon‑nhwy bant a gweud beth we wedi digwydd trw'r dre a'r wlad obitu. Dâth dinion mas i weld beth we wedi digwydd. Dethon‑nhwy at Iesu a ffindo'r dyn we'r cithreilied wedi dod mas ono fe, in ishte wedi gwishgo a'n reit i feddwl wrth drâd Iesu, a we ofon arnyn nhwy. Gwedo'r rhei we wedi gweld i peth shwt we'r dyn â cithreilied wedi câl i wella. Gofinno bob un we'n byw in gwlad i Gerasenied iddo fynd bant, achos we ofon mowr arnyn nhwy. So âth‑e miwn i'r cwch a mynd nôl. Begianiodd i dyn we cithreilied wedi bod indo fe a gese‑fe ddwâd 'dag e, ond halodd‑e fe bant, a gweud, “Cer getre, a gwed beth 'ma Duw wedi 'neud i ti.” Âth‑e bant a chihoeddi trw'r dre beth we Iesu wedi neud iddo fe.
Fel we Iesu in dwâd nôl, we'r crowde in rhoi croeso iddo fe, achos wen‑nhwy i gyd in i ddishgwyl. Dâth dyn o'r enw Jairus, dyn mowr in i sinagog. Cwmpodd‑e wrth drâd Iesu, a begian arno fe i ddwâd i'w gaetre fe, achos dim ond un plentyn we dag e, rhoces douddeg mlwydd wedi, a wedd‑i'n marw.
Wrth 'ddo fynd ar i ffordd, we'r crowde in pwyso miwn arno. We menyw we wedi câl amser ofnadw ers douddeg mline achos hemerej fan 'ny — we neb in galler i gwella hi, ond wedd‑i sdil wedi hala popeth we 'da 'i ar ddoctoried. Dâth‑i lan tu ôl 'ddo fe a twtsh â gweilod i wishg e, a whap stopodd ir hemrej. Gwedo Iesu, “Pwy nâth dwtsh â fi?” Nâth bob un weud na nhwy we wedi neud, a gwedod Pedr, “Mishtir, we'r crowd rownd ti i gyd, a'n gwasgu miwn arnat ti.” Ond gwedo Iesu, “Nâth rhiwun dwtsh â fi; achos deimles‑i bo nerth wedi mynd mas ona i.” Pan stando'r fenyw bo hi ddim wedi dod ben â peido câl silw, 'co hi'n dwâd mlân in crinu i gyd a cwmpo lawr o'i flân e. A fan 'ny o flân i dinion i gyd egsbleinodd‑i pam wedd‑i wedi twtsh a gweilod i wishg e, a gweud i bod 'i wedi câl i gwella ar unweth. Gwedodd‑e wrthi, “In rhoces i, ma di ffydd di wedi di wella di. Cer miwn heddwch.”
Pan wedd‑e wrthi'n sharad, dâth rhiwun o dŷ dyn mowr i sinagog a gweud, “Ma di roces di wedi marw. Paid poeni mwy ar i Mishtir.” Cliwo Iesu hyn a gweu‑'tho, “Paid câl ofon. Dim ond creda, a geith‑i i neud in well.” Pan ddâth‑e i'r tŷ nâth‑e ddim gadel i neb ddod miwn 'dag e ond Pedr, Ioan a Iago, a tad a mam i plentyn. We'r dinion i gyd tu-fas in boichen lllefen a'n bwrw briste fel wen‑nhwy'n mwrno'r rhaoces. Gwedodd‑e, “Peidwch llefen. Sen‑i wedi marw; cisgu mae‑i.” Nethon‑nhwy sbort am i ben e, achos wen‑nhwy'n gwbod i bod hi wedi marw. Cidjodd‑e in i llaw hi, a gweiddi, “Coda, in blentyn i.” Dâth i hisbryd hi nôl ar unweth, a gododd‐i streit. Rhiodd-e ordors iddyn-nhwy roi rhwbeth iddi fita. Câs i thad a'i mham sioc fowr, ond roiodd‑e ordors iddyn‑nhwy beido gweud wrth neb beth we wedi digwydd.

Выбрано:

Luc 8: DAFIS

Выделить

Поделиться

Копировать

None

Хотите, чтобы то, что вы выделили, сохранялось на всех ваших устройствах? Зарегистрируйтесь или авторизуйтесь