Luc 3:1-6

Luc 3:1-6 DAFIS

Pwmthegfed blwyddyn Tiberus Cesar fel ymerawdr wedd‑i, pan we Pontius Pilat in reolwr Jwdea, Herod in detrach Galilea, i frawd Philip in detrach parte Itwrea a Trachonitis, a Lysanias in detrach Abilene. Annas a Caiaffas we'r ffeiradon mowr. Amser 'ny dâth gair Duw at Ioan, crwt Sechareias, pan wedd‑e miwn lle diffeth. Âth e miwn i'r ardal rownd i afon Iorddeone, in prigethu dile dinion ddifaru a châl i bididdio, a câl maddeuant am u pechode. We hyn in gowir fel we Eseia wedi proffwydo in i lifyr e: “Ma llaish rhiwun in gweiddi ma in i lle diffeth, 'Newch ffordd ir Arglwidd in barod, newch i lwybre fe'n iawn; bydd pob diffryn in câl i lenwi a bod mini a bryn in câl i neud in fflat, ceith i llefydd cam u gneud in hewlydd cowir a'r hewlydd rwff in llyfn; a gwelith i ddinolieth iachadwriaeth Duw.’”

Читать Luc 3