Salmau 34

34
SALM XXXIV
“FFYNHONNELL POB DAIONI.”
‘Salm Dafydd pan gymerodd arno fod yn wallgof o flaen Abimelech, a hwnnw yn ei yrru ymaith, ac yntau yn mynd’.
[Aleph]
1Bendithiaf Iehofa bob amser:
Ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.
[Beth]
2Yn Iehofa bydd fy ymffrost;
Llawen fydd y cystuddiol pan glywont.
[Gimel]
3Mawrygwch Iehofa gyda mi,
A chyd-ddyrchafwn Ei enw Ef.
[Daleth]
4Ceisiais Iehofa, ac atebodd fi,
Ac o’m holl ddychryniadau, gwaredodd fi.
[He]
5Edrychwch arno Ef, a chwi a ddisgleiriwch:
Ni wridwch byth gan gywilydd.
[Sain]
6Llefodd y truan hwn, a chlybu Iehofa ef,
A’i waredu o’i holl helbulon.
[Cheth]
7Angel Iehofa a wersylla o amgylch Ei addolwyr,
Ac a’u gwared.
[Teth]
8Profwch a gwelwch mor dda yw Iehofa:
O mor hapus yw’r gŵr a gaffo gysgod ynddo.
[Iôdd]
9Perchwch Iehofa, Ei saint Ef:
Canys nid oes eisiau ar y rhai a’i parch Ef.
[Caph]
10Y mae eisiau a newyn ar wrthgilwyr;
Ond nid oes eisiau undim da ar geiswyr Iehofa.
[Lamed]
11Dewch, gwrandewch arnaf, blant:
Dysgaf grefydd Iehofa i chwi.
[Mem]
12Pwy yw’r gŵr a chwennych fywyd a charu hir-ddyddiau
Fel y gwelo ddaioni?
[Nŵn]
13Gwylia ar dy dafod rhag drwg,
A’th wefusau rhag siarad yn dwyllodrus.
[Samech]
14Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda;
Cais dangnefedd, a dilyn hi’n chwyrn.
[Pe]
16Wyneb Iehofa sydd yn erbyn drwg-weithredwyr,
I dorri pob coffa amdanynt o’r ddaear.
[Ayin]
15Llygaid Iehofa sydd ar y cyfiawn,
Ei glust sydd i gyfeiriad eu gwaedd am gymorth.
[Tsade]
17Pan waeddant, Iehofa a glyw,
A’u hachub o’u holl helbulon.
[Côph]
18Agos yw Iehofa at y drylliedig o galon,
A gweryd y briwedig o ysbryd.
[Resh]
19Aml ddrygau sydd i’r cyfiawn,
Ond gwared Iehofa Ef o’r cwbl.
[Sin]
20Y mae’n gwylio pob asgwrn ohono,
Ni thorrir yr un ohonynt.
[Taw]
21Aflwydd a ladd yr annuwiol,
A chosbir casawyr y cyfiawn.
22Gweryd Iehofa fywyd ei weision,
Ni chosbir neb a gais gysgod ynddo Ef.
salm xxxiv
Salm Acrostig, a phob adnod yn dechrau gydag un o gytseiniaid yr Hebraeg, ac yn ôl rhai esbonwyr yn y dull uchod y trefnwyd hi ar gyfer gwasanaeth y Deml. Yn y teitl cysylltir hi â digwyddiad ym mywyd y brenin Dafydd ‘pan newidiodd ei farn’, neu gymryd arno ei fod yn wallgof ‘ger bron Abimelech’.
Yn 1 Sam. 21, lle adroddir y digwyddiad, nid Abimelech ydyw enw’r brenin, ond Achis. I’r un cyfnod ym mywyd Dafydd y priodolir Salm 56. Nid oes goel ar dystiolaeth y teitl, ond anodd deall sut y dodwyd ‘Abimelech’ yma.
Y mae’r Salm yn perthyn yn agos i’r Llên Doethineb, a cheir ynddi lawer eco o Lyfr y Diarhebion. Nid oes ynddi ddyfnder mawr, a cheir ynddi lawer o amrywiaeth fel y gellid disgwyl mewn cân artiffisial.
Nodiadau
1—4. Cyfeiriad at wasanaeth di-dor y Deml lle darllenir y Gyfraith a chenir emynau ac odlau ysbrydol.
6. ‘Y truan hwn’, yn ôl rhai yn cynrychioli’r genedl.
7. ‘Angel Iehofa’, nid cennad Iehofa, ond angel gwarcheidiol Israel, sef Michael oes ddiweddarach. Y mae yma, efallai, yn gyfystyr â Duw ei hun, a chanddo holl allu gwaredigol Duw.
10. Nid oes ystyr i ‘llewod ieuainc’ yma, a’r mymryn lleiaf o newid a ddyry y darlleniad ‘gwrthgilwyr’.
16, 15. Doder 16 o flaen 15 yn ôl gofyn yr Wyddor Hebraeg.
Pynciau i’w Trafod:
1. Egyr y Salm gydag ymffrost yr awdur fod ei addoliad yn beth cyson a gwastadol. Dywedir mai addoli a chrefydda ar hyrddiau y mae Cymru heddiw. A ydyw hyn yn wir?
2. A oes gan grefyddwyr, yng ngoleuni 7-10, hawl i ddisgwyl mwy o amddiffyn a diogelwch na’r digrefydd?
3. A gynnwys “gwylia ar dy dafod rhag drwg, a’th wefusau rhag siarad yn dwyllodrus, cilia oddi wrth ddrwg, gwna dda, cais dangnefedd” holl ddyletswydd dyn?

Выбрано:

Salmau 34: SLV

Выделить

Поделиться

Копировать

None

Хотите, чтобы то, что вы выделили, сохранялось на всех ваших устройствах? Зарегистрируйтесь или авторизуйтесь