Actau’r Apostolion 16

16
A.D. 53. —
1 Paul, wedi enwaedu ar Timotheus, 7 ac wedi ei alw gan yr Ysbryd, 14 yn troi Lydia: 16 yn bwrw allan ysbryd dewiniaeth; 19 ac am hynny Silas ac yntau yn cael eu fflangellu, a’u carcharu. 26 Agoryd drysau y carchar: 31 troi ceidwad y carchar, 37 a’u gwaredu hwythau.
1Yna y daeth efe i #Pen 14:6Derbe ac i Lystra. Ac wele, yr oedd yno ryw ddisgybl, #Rhuf 16:21; Phil 2:19; 1 Thess 3:2a’i enw Timotheus, #2 Tim 1:5mab i ryw wraig yr hon oedd Iddewes, ac yn credu; a’i dad oedd Roegwr: 2Yr hwn #Pen 6:3oedd yn cael gair da gan y brodyr oedd yn Lystra, ac yn Iconium. 3Paul a fynnai i hwn fyned allan gydag ef; ac efe #1 Cor 9:20; Gal 2:3; Edrych Gal 5:2a’i cymerth ac a’i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny: canys hwy a wyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad ef. 4Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy’r dinasoedd, hwy #16:4 a draddodasant iddynt.a roesant arnynt gadw’r gorchmynion #Pen 15:28, 29a ordeiniesid gan yr apostolion a’r henuriaid y rhai oedd yn Jerwsalem. 5Ac felly yr eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynyddasant mewn rhifedi beunydd. 6Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia, a gwlad Galatia, a gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân bregethu’r gair yn Asia; 7Pan ddaethant i Mysia, hwy a geisiasant fyned i Bithynia: ac ni oddefodd Ysbryd yr Iesu iddynt. 8Ac wedi myned heibio i Mysia, #2 Cor 2:12hwy a aethant i waered i Droas. 9A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nos: Rhyw ŵr o Facedonia a safai, ac a ddeisyfai arno, ac a ddywedai, Tyred drosodd i Facedonia, a chymorth ni. 10A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Facedonia; gan gwbl gredu alw o’r Arglwydd nyni i efengylu iddynt hwy. 11Am hynny, wedi myned ymaith o Droas, ni a gyrchasom yn union i Samothracia, a thrannoeth i Neapolis; 12Ac oddi yno i Philipi, yr hon #16:12 yw y ddinas gyntaf.sydd brifddinas o barth o Facedonia, dinas rydd: ac ni a fuom yn aros yn y ddinas honno ddyddiau rai. 13Ac ar y dydd Saboth ni a aethom allan o’r ddinas i lan afon, lle y byddid arferol o weddïo; ac ni a eisteddasom, ac a lefarasom wrth y gwragedd a ddaethant ynghyd.
14A rhyw wraig a’i henw Lydia, un yn gwerthu porffor, o ddinas y Thyatiriaid, yr hon oedd yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd #Luc 24:45ei chalon, i ddal ar y pethau a leferid gan Paul. 15Ac wedi ei bedyddio hi a’i theulu, hi a ddymunodd arnom, gan ddywedyd, Os barnasoch fy mod i’n ffyddlon i’r Arglwydd, deuwch i mewn i’m tŷ, ac arhoswch yno. A #Gen 19:3; 33:11; Barn 19:21; Luc 24:29; Heb 13:2hi a’n cymhellodd ni.
16A digwyddodd, a ni’n myned i weddïo, i ryw lances, yr hon #1 Sam 28:7oedd ganddi ysbryd #16:16 Neu, Python.dewiniaeth, gyfarfod â ni; yr hon oedd yn peri #Pen 19:24llawer o elw i’w meistriaid wrth ddywedyd dewiniaeth. 17Hon a ddilynodd Paul a ninnau, ac a lefodd, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth. 18A hyn a wnaeth hi dros ddyddiau lawer. Eithr Paul #Edrych Marc 1:25, 34yn flin ganddo, a drodd, ac a ddywedodd wrth yr ysbryd, Yr ydwyf yn gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, fyned allan ohoni. #Marc 16:17Ac efe a aeth allan yr awr honno.
19A phan welodd ei meistriaid hi fyned gobaith eu helw hwynt ymaith, #2 Cor 6:5hwy a ddaliasant Paul a Silas, ac a’u llusgasant hwy i’r #16:19 dadleudy.farchnadfa, at y llywodraethwyr; 20Ac a’u dygasant hwy at y swyddogion, ac a ddywedasant, Y mae’r dynion hyn, y rhai ydynt Iddewon, #1 Bren 18:17; Pen 17:6yn llwyr gythryblio ein dinas ni, 21Ac yn dysgu defodau, y rhai nid ydyw rydd i ni eu derbyn na’u gwneuthur, y rhai ydym Rufeinwyr. 22A’r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn hwy; a’r swyddogion, gan rwygo eu dillad, #2 Cor 11:25; 1 Thess 2:2a orchmynasant eu curo hwy â gwiail. 23Ac wedi rhoddi gwialenodiau lawer iddynt, hwy a’u taflasant i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwy yn ddiogel; 24Yr hwn, wedi derbyn y cyfryw orchymyn, a’u bwriodd hwy i’r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed hwy yn sicr yn y cyffion.
25Ac ar hanner nos Paul a Silas oedd yn gweddïo, ac yn canu #16:25 emyn.mawl i Dduw: a’r carcharorion a’u clywsant hwy. 26#Pen 4:31Ac yn ddisymwth y bu daeargryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau’r carchar: ac yn ebrwydd #Pen 5:19; 12:7yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion. 27A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar, a chanfod drysau’r carchar yn agored, efe a dynnodd ei gleddyf, ac a amcanodd ei ladd ei hun; gan dybied ffoi o’r carcharorion ymaith. 28Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni yma oll. 29Ac wedi galw am olau, efe a ruthrodd i mewn, ac yn ddychrynedig efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas, 30Ac a’u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, #Luc 3:10; Pen 2:37 9:6 O feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig? 31A hwy a ddywedasant, #Ioan 3:16, 36; 6:47; 1 Ioan 5:10Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a’th deulu. 32A hwy a draethasant iddo air yr Arglwydd, ac i bawb oedd yn ei dŷ ef. 33Ac efe a’u cymerth hwy yr awr honno o’r nos, ac a olchodd eu briwiau: ac efe a fedyddiwyd, a’r eiddo oll, yn y man. 34Ac wedi iddo eu dwyn hwynt i’w dŷ, #Luc 5:29; 19:6efe a osododd fwyd ger eu bron hwy, ac a fu lawen, gan gredu i Dduw, efe a’i holl deulu. 35A phan aeth hi yn ddydd, y swyddogion a anfonasant y ceisiaid, gan ddywedyd, Gollwng ymaith y dynion hynny. 36A cheidwad y carchar a fynegodd y geiriau hyn wrth Paul, Y swyddogion a anfonasant i’ch gollwng chwi ymaith: yn awr gan hynny cerddwch ymaith; ewch mewn heddwch. 37Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu, #Pen 22:25a ninnau’n Rhufeinwyr, hwy a’n bwriasant ni i garchar; ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond deuant hwy eu hunain, a dygant ni allan. 38A’r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i’r swyddogion: a hwy a ofnasant, pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt. 39A hwy a ddaethant ac a atolygasant arnynt, ac a’u dygasant allan, ac #Mat 8:34a ddeisyfasant arnynt fyned allan o’r ddinas. 40Ac wedi myned allan o’r carchar, hwy #Ad. 14a aethant i mewn at Lydia: ac wedi gweled y brodyr, hwy a’u cysurasant, ac a ymadawsant.

Podkreślenie

Udostępnij

Kopiuj

None

Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj