Matthew Lefi 7
7
1-5Na fernwch, fel na’ch barner; canys fel y bernwch, y bernir chwi; a’r mesur à roddwch, yr unrhyw á dderbyniwch. A phaham yr wyt yn edrych àr y brycheüyn yn llygad dy frawd, ond heb ystyried y ddellten yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y beiddi ddywedyd wrth dy frawd, gad i mi dỳnu y brycheüyn allan o’th lygad; ac wele! y mae genyt ddellten yn yr eiddot dy hun? Ragrithiwr, yn gyntaf tỳn y ddellten allan o’th lygad dy hun; yna y gweli yn eglur dỳnu y brycheüyn allan o lygad dy frawd.
6Na roddwch bethau santaidd i gŵn, a na theflwch eich gemau o flaen moch; rhag iddynt eu mathru dàn eu traed, a throi arnoch a’ch rhwygo chwi.
7-11Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac agorir i chwi. Canys pwybynag sydd yn gofyn, sydd yn derbyn, pwybynag sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i bob un sydd yn curo, yr agorir y drws. Pwy o honoch chwi ddynion á roddai iddei fab gàreg, pan y gofyna fara; neu sarff, pan y gofyna bysgodyn? Os chychwi gàn hyny, èr yn ddrwg, á fedrwch roddi pethau da iddeich plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r sawl à ofynant ganddo?
12-14Bethbynag á ewyllysiech wneuthur o ereill i chwi, gwnewch yr un peth iddynt hwythau; canys hyn yw y gyfraith a’r proffwydi. Ewch i fewn drwy y porth cyfing; canys ëang yw porth colledigaeth, llydan yw y ffordd sydd yn arwain yno; a llawer yw y rhai sydd yn myned i fewn drwyddi. Ond mòr gyfing yw porth bywyd; mòr gul yw y ffordd sydd yn arwain yno; a mòr ychydig yw y rhai sydd yn ei chanfod hi!
15-20Ymogelwch rhag geuathrawon, y rhai sydd yn dyfod atoch yn ngwisg defaid, tra y maent oddifewn yn fleiddiaid gwancus. Wrth eu ffrwythau y darganfyddwch hwynt. A gesglir gwinrawn oddar ddrain; neu ffigys oddar ysgall? Pob pren da á ddwg ffrwyth da; a phob pren drwg ffrwyth drwg. Ni ddichon pren da ddwyn ffrwyth drwg, na phren drwg ffrwyth da. Pob pren nad yw yn dwyn ffrwyth da, á dòrir i lawr, ac á droir yn danwydd. Am hyny, wrth eu ffrwythau y darganfyddwch hwynt.
21-23Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, Feistr, Feistr, á gaiff fyned i fewn i deyrnas y nefoedd; ond yr hwn à wna ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Llawer á ddywedant wrthyf y dydd hwnw, Feistr, Feistr, oni ddysgasom yn dy enw di, ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di, ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? Wrth y rhai y tystiaf, nid addefais chwi erioed. Ewch ymaith oddwrthyf, chwi y rhai à weithredwch anwiredd.
24-27Am hyny, pwybynag sydd yn gwrandaw fy ngorchymynion hyn, ac yn eu gwneuthur hwynt, á gymharaf i ddyn call, yr hwn á adeiladodd ei dŷ àr y graig. Canys èr i’r gwlaw ddisgyn, a’r afonydd orlifo, a’r gwyntoedd chwythu, a churo àr y tŷ hwnw, ni chwympodd, oblegid sylfaenesid ef àr ý graig. Ond pwybynag sydd yn gwrandaw fy ngorchymynion hyn, a heb eu gwneuthur, á gymharir i ddẁlyn, yr hwn á adeiladodd ei dŷ àr y tywod. Canys pan ddisgynodd y gwlaw, y gorlifodd yr afonydd, y chwythodd y gwyntoedd, ac y tarawsant yn erbyn y tŷ hwnw, efe á gwympodd, a mawr oedd ei adfail.
28-29Pan orphenasai Iesu yr ymadrawdd hwn, y bobl á daraẅwyd ag arswyd wrth ei ddull o ddysgu; canys efe á ddysgai fel un ag awdurdod ganddo, a nid fel yr Ysgrifenyddion.
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.