Matthew Lefi 6
6
1Gochelwch rhag cyflawni eich dyledswyddau crefyddol gèr bron dynion, èr mwyn eich gweled ganddynt; os amgen ni chewch obr gàn eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
2-4Gan hyny, pan roddych elusen, na chyhoedda hyny drwy sain udgorn, fel y gwna y rhagrithwyr, yn y cymanfäoedd, ac yn yr hëolydd, fel y dyrchafer hwynt gàn ddynion. Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi, hwy á dderbyniasant eu gobr. Ond tydi, pan roddych elusen, na wybydded dy law aswy beth á wna dy law ddëau; fel y byddo dy elusen yn y dirgel; a’th Dad i’r hwn nid oes dim dirgel, á’th obrwya di ei hunan.
5-6A phan weddïot, na fydd fel y rhagrithwyr, y rhai a garant weddio o’u sefyll yn y cymanfäoedd, ac yn nghonglau yr hëolydd, fel y gwelo dynion hwynt. Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, hwy á dderbyniasant eu gobr. Ond tydi, pàn weddiot, dos o’r neilldu i’th ystafell; a gwedi cau y drws, gweddia àr dy Dad; a’th Dad, i’r hwn, èr ei fod ei hun yn anweledig, nid oes dim dirgel, á’th obrwya di.
7-9A mewn gweddi, nac arferwch luosogrwydd o eiriau, fel y gwna y Paganiaid, y rhai á dybiant, y gwna arfer llawer o eiriau, ennill iddynt gymeradwyaeth. Nac efelychwch hwynt; oblegid gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisieu, cyn gofyn o honoch iddo. Gweddiwch chwi, gan hyny, fel hyn:–
10-13Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, santeiddier dy enw; deled dy Deyrnasiad; gwneler dy ewyllys, megys yn y nef, felly àr y ddaiar hefyd; dyro i ni heddyw ein bara peunyddiol; maddau i ni ein dyledion, fel yr ydym ninnau yn maddau i’n dyledwyr; a nac arwain ni i brofedigaeth, ond cadw ni rhag drwg.
14-15Oblegid os maddeuwch i ereill eu camweddau, eich Tad nefol á faddeua hefyd i chwithau; eithr oni faddeuwch i ereill eu camweddau, ni faddeua eich Tad chwaith eich camweddau chwithau.
16-18Hefyd, pan ymprydioch, nac edrychwch yn wynebdrist, fel y rhagrithwyr, y rhai á anffurfiant eu gwynebau, fel y sylwo dynion eu bod yn ymprydio. Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, y mae ganddynt eu gobr. Ond tydi, pan ymprydiot, eneinia dy ben, a golch dy wyneb; fel nad ymddangoso dy ymprydiad i ddynion, ond i’th Dad; a’th Dad, i’r hwn, èr ei fod ei hun yn anweledig, nid oes dim dirgel, á’th obrwya di.
19-23Na phentỳrwch i chwi eich hunain drysor àr y ddaiar, lle y gall gwyfynod a rhwd ei ddifa, neu ladron dòri i fewn a’i ladrata. Ond darparwch i chwi eich hunain drysor yn y nef, lle nad oes na gwyfynod na rhwd iddei ddifa, na lladron i dòri i fewn a’i ladrata. Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd. Llusern y corff yw y llygad. Os dy lygad, gàn hyny, á fydd iach, dy holl gorff á fydd oleuedig: ond os bydd dy lygad yn afiach, dy holl gorff á fydd dywyll. Ac os bydd hyd yn nod y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch!
24-34Ni ddichon neb wasanaethu dau feistr; canys naill ai efe á gasâa y naill ac á gâr y llall; neu o leiaf efe â ymlŷn wrth y naill, ac á esgeulusa y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon. Am hyny, yr wyf yn gorchymyn i chwi, na fyddwch bryderus o barth eich bywyd, pa beth á fwytäoch, neu pa beth á yfoch; neu o barth eich corff, pa beth á wisgoch. Onid yw bywyd yn fwy rhodd na bwyd, a’r corff na dillad? Edrychwch àr ehediaid y nef. Nid ydynt yn hau nac yn medi. Nid oes ganddynt ystordy; ond y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwynt. Onid ydych chwi yn lawer gwerthfawrocach na hwynt? Heblaw hyny, pwy o honoch á ddichon, drwy ei bryder, estyn ei einioes un awr? A phaham yr ydych yn bryderus yn nghylch dillad? Sylẅwch àr lili y maes. Pa fodd y maent yn tyfu? Nid ydynt yn llafurio: nid ydynt yn nyddu. Eto yr wyf yn sicrâu na chafodd hyd yn nod Solomon yn ei holl ogoniant, ei addurno fel un o’r rhai hyn. Am hyny, os yw Duw felly yn dilladu y llysieuyn, yr hwn sy heddyw yn y maes, ac yfory á fwrir i’r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi rai anymddiriedus! Am hyny, na ddywedwch yn bryderus, (fel y gwna y cenedloedd,) Pa beth á fwytäwn; neu pa beth á yfwn; neu â pha beth yr ymddilladwn? Oblegid gŵyr eich Tad nefol bod arnoch eisieu yr holl bethau hyn. Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Duw, a’r cyfiawnder gofynedig ganddo ef; a’r holl bethau hyn á roddir i chwi yn ychwaneg. Na fyddwch, gàn hyny, yn bryderus yn nghylch y fory; yfory á fydd bryderus am dano ei hun. Digon i bob diwrnod ei flinder ei hun.
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.