Akara Njirimara YouVersion
Akara Eji Eme Ọchịchọ

Ioan 3

3
Crist a Nicodemus: y rheidrwydd o enedigaeth newydd.
1Yn awr yr oedd dyn o'r Phariseaid, a'i enw Nicodemus, penaeth#3:1 llywodraethwr, aelod o'r Sanhedrin. yr Iuddewon: 2hwn a ddaeth ato ef#3:2 yr Iesu E F G H: gad. א B L Brnd. yn y nos, ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, nyni a wyddom mai Athraw#3:2 Didaskalos, Athraw, yr un ystyr a Rabbi. ydwyt wedi dyfod allan oddiwrth Dduw: canys ni all neb wneuthur yr arwyddion hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gyd âg ef. 3Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddi eithr geni#3:3 Ystyr arferol gennaô yw cenedlu, (anfynych iawn y golyga geni, Luc 1:57, ho gennêsas, tâd, gweler Mat 1). Duw yw awdwr y bywyd newydd, yr hwn a roddir cyn y geni (1:13; 1 Cor 4:15; Philemon adnond 10; Heb 1:5; 5:5; 1 Ioan 3:9; 4:7; 5:1, 4, 18). Ond y mae adenedigaeth yn hytrach nag adgenedliad wedi gwreiddio, yn enwedig yn y Gymraeg. dyn o'r newydd#3:3 Gr. anôthen: y mae dau brif ystyr i'r gair, (1) oddi fyny, “llen y Cysegr a rwygwyd oddi fyny hyd i waered.” Mat 27:51; oddi uchod, “Yr hwn a ddaeth oddi uchod,” 3:31 “pob rhoddiad daionus … oddi uchod y mae,” Iago 1:17 o'r dechreuad, o'r ffynonell, “wedi i mi ddylyn pob peth yn ddyfal o'r dechreuad,” Luc 1:3; felly (2), o'r newydd, drosodd drachefn. Yn ffafr oddi uchod (1) defnyddir y gair yn mhob enghraifft arall yn Ioan yn yr ystyr hwn, (2) brawddeg a ddefnyddia yn fynych ydyw geni (neu genedlu) o Dduw (1:13; 1 Ioan 2:19; 3:9; 4:7; 5:1, 4, 18). Yn ffafr o'r newydd, drachefn, (1) deallodd Nicodemus y gair yn yr ystyr drachefn, “A ddichon efe fyned i grôth ei fam eilwaith;” (2) desgrifia Crist natur yr adenedigaeth (o'r Yspryd, &c.), ond cyfeiria yn gyntaf at y ffaith o'r enedigaeth o'r newydd. Y mae y Tadau Groegaidd, y cyfieithiadau Syriaidd (Harclaidd), Armeniaidd, a Gothaidd, yn ffafr oddi uchod. Hefyd Bengel, Lucke, De Wette, Meyer. Yn ffafr o'r newydd, drachefn, y cyfieithiadau Syriaidd (Peshito), Memphitaidd, Ethiopaidd, Lladinaidd (Vulgate, &c.) Hefyd Awstin, Calfin, Luther, Beza, Neander, Tholuck, Alford, Godet, &c. Ni ddefnyddir anagennêsis, adgenedliad, adenedigaeth yn y T. N., ond cawn paliggennesia, genedigaeth drachefn, ddwy waith, Mat 19:28; Titus 3:5., ni ddichon efe weled Teyrnas Dduw. 4Y mae Nicodemus yn dywedyd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen ddyn? a ddichon efe fyned i grôth ei fam eilwaith a'i eni? 5Iesu a atebodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddi eithr geni dyn o ddwfr#3:5 dwfr: gwahanol farnau: (1) Bedydd Cristionogol; (2) Bedydd Proselytiaid, [ond ni sefydlwyd hwn ond yn mhell ar ol hyn]; (3) dwfr yn derm ffugyrol am allu puredigol yr Yspryd, “geni dyn allan o ddwfr, ie, o'r Yspryd;” (4) Bedydd Ioan. Gwrthodai y Phariseaid Fedydd Ioan, ac felly y sylwedd a ddynodid ganddo. Y mae Bedydd yn arwyddluniol yn glanhâu, y mae yr Yspryd yn wironeddol yn bywhâu. a'r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i Deyrnas Dduw#3:5 Nefoedd א Ti.. 6Yr hyn sydd wedi ei eni#3:6 Neu, cenedlu. o'r cnawd sydd gnawd#3:6 Saif cnawd am ddyn fel y mae wrth natur yn bechadur., a'r hyn sydd wedi ei eni o'r Yspryd#3:6 Neu, yspryd, sef yr egwyddor fywiol a santaidd a blenir yn yr enaid gan Yspryd Duw. sydd yspryd. 7Na ryfedda ddywedyd o honof fi wrthyt, Y mae yn rhaid eich geni#3:7 Neu, cenedlu. chwi#3:7 Cynnrychiolai Nicodemus ddosparth. o'r newydd#3:7 Gr. anôthen: y mae dau brif ystyr i'r gair, (1) oddi fyny, “llen y Cysegr a rwygwyd oddi fyny hyd i waered.” Mat 27:51; oddi uchod, “Yr hwn a ddaeth oddi uchod,” 3:31 “pob rhoddiad daionus … oddi uchod y mae,” Iago 1:17 o'r dechreuad, o'r ffynonell, “wedi i mi ddylyn pob peth yn ddyfal o'r dechreuad,” Luc 1:3; felly (2), o'r newydd, drosodd drachefn. Yn ffafr oddi uchod (1) defnyddir y gair yn mhob enghraifft arall yn Ioan yn yr ystyr hwn, (2) brawddeg a ddefnyddia yn fynych ydyw geni (neu genedlu) o Dduw (1:13; 1 Ioan 2:19; 3:9; 4:7; 5:1, 4, 18). Yn ffafr o'r newydd, drachefn, (1) deallodd Nicodemus y gair yn yr ystyr drachefn, “A ddichon efe fyned i grôth ei fam eilwaith;” (2) desgrifia Crist natur yr adenedigaeth (o'r Yspryd, &c.), ond cyfeiria yn gyntaf at y ffaith o'r enedigaeth o'r newydd. Y mae y Tadau Groegaidd, y cyfieithiadau Syriaidd (Harclaidd), Armeniaidd, a Gothaidd, yn ffafr oddi uchod. Hefyd Bengel, Lucke, De Wette, Meyer. Yn ffafr o'r newydd, drachefn, y cyfieithiadau Syriaidd (Peshito), Memphitaidd, Ethiopaidd, Lladinaidd (Vulgate, &c.) Hefyd Awstin, Calfin, Luther, Beza, Neander, Tholuck, Alford, Godet, &c. Ni ddefnyddir anagennêsis, adgenedliad, adenedigaeth yn y T. N., ond cawn paliggennesia, genedigaeth drachefn, ddwy waith, Mat 19:28; Titus 3:5.. 8Y mae yr Yspryd yn anadlu lle yr ewyllysio, a thi a glywi ei lais ef, ond nid ydwyt yn gwybod o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: yr un modd y mae pob un sydd wedi ei eni#3:8 Neu, cenedlu. o'r#3:8 o ddwfr ac o'r Yspryd א. Yspryd#3:8 Credwn mai yr uchod yw y cyfieithiad cywiraf o'r adnod, er ei fod yn gwahaniaethu oddiwrth eiddo y rhan fwyaf o ddysgedigion diweddar. Y mae yma gymhariaeth; ond nid rhwng y gwynt (os felly y dylid cyfieithu pneuma yn y rhan gyntaf,) â'r Yspryd, ond rhyngddo â'r rhai a aned o'r Yspryd. Nid y person a enir o'r newydd a ddylid ei gymharu â'r gwynt, ond yr Yspryd. Os gwynt a olygir, gallasem ddysgwyl brawddeg fel hon i ddiweddu yr adnod, — “felly y gweithreda yr Yspryd.” Dysgir yma, fel y mae dirgelwch yn perthyn i'r Yspryd a'i weithrediadau, felly y mae dirgelwch yn perthyn i fywyd ysprydol y rhai a ail‐enir ganddo. Y mae hyn yn ddirgelwch i'r credinwyr eu hunain, ac yn fwy felly i bersonau fel Nicodemus. Nis gallai efe amgyffred pa fodd yr oedd Treth‐gasglwyr a phechaduriaid yn myned i mewn i Deyrnas Dduw, tra yr oedd y Phariseaid moesol (?) yn aros allan. Defnyddir pneuma dros 350 o weithiau yn y T. N., a chyd â tair o eithriadau [2 Thess 2:8; Heb 1:7; Dad 11:11], a dwy o honynt yn amheus, ei ystyr ydyw yspryd. Y gair a ddefnyddir am wynt gan Ioan ac eraill ydyw anemos (6:18). Golyga pneô, anadlu, chwythu; phônê, llais geiriol: yn yr ystyr hwn y defnyddir y gair bron yn hollol yn y T. N. yn y canoedd o enghreifftiau a roddir; y mae thelei, ewyllysio, yn dynodi person, ac nid elfen. Gan yr Yspryd y mae ewyllys a llais geiriol. Yr oedd i'w glywed yn ngeiriau Crist; y mae yn anadlu yn y Gair a'i bregethiad. Yr hyn y mae yn ei wneyd o hono ei hun, y mae hefyd yn ei wneyd yn yr hwn y mae yn ei ail‐eni. Y mae yn bywhâu ei yspryd, ac yn rhyddhâu ei ewyllys. Y mae y dyn newydd yn anadlu o'r Yspryd, ac ynddo a thrwyddo y clywir llais yr Yspryd. Gellir nodi awdwyr enwog o du y darlleniad uchod, megys, Origen, Awstin, Bengel, &c..
Crist yn ei berson, ei waith, a'i amcan.
9Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod? 10Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho. A wyt ti yn Athraw i Israel, ac ni wyddost y pethau hyn? 11Yn wir, yn wir, meddaf i ti, yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn yr ydym wedi ei weled yr ydym yn ei dystiolaethu; a'n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn. 12Os dywedais i chwi y pethau a wneir ar y ddaear#3:12 ta epigeia, y pethau ar y ddaear; y daearol yn wrthgyferbyniol i'r nefol, megys y corff ar y ddaear a'r “tŷ nid o waith llaw” yn y Nef, 2 Cor 5:1. Dynoda y geiriau yma nid pethau o natur ddaearol, ond pethau a gymmerant le ar y ddaear. Cyfeiria Crist yma at yr enedigaeth newydd a gwaith yr Yspryd ar ddyn. Y mae hyn yn cymmeryd lle ar y ddaear; ac er fod y gweithrediadau yn gudd a dirgel, eto y mae yr effeithiau yn amlwg i bawb. Os yw yn anhawdd deall a chredu y rhai hyn, y mae yn fwy anhawdd i'r dyn naturiol i ddeall a chredu ta epourania, y pethau a gymmerant le neu a berthynant i'r Nefoedd. Pa beth yw y rhai hyn? Person Dwyfol y Mab, Cariad Duw, y Bwriadau Tragywyddol, yr Iawn gofynol am bechod, &c., sef y pethau a nodir yn yr adnodau dylynol. Y rhai hyn a berthynant i diriogaeth y Nefoedd, ac ydynt “ryfedd yn ein golwg ni.”, a chwithau nid ydych yn credu, pa fodd, os dywedaf i chwi y pethau a wneir yn y Nefoedd, y credwch? 13Ac nid oes neb wedi esgyn i'r Nef, ond yr hwn a ddisgynodd allan o'r Nef, Mab y Dyn, [yr hwn sydd yn y Nef#3:13 Yr hwn sydd yn y Nefoedd o ran ei gartref, neu, yr hwn oedd yn y Nefoedd cyn ei ymgnawdoliad.]#3:13 [yr hwn sydd yn y Nef] A Δ, yr holl brif‐gyfieithiadau, Brnd. ond WH. Gad. א B L WH.. 14Ac megys y dyrchafodd Moses y Sarff yn y Diffaethwch#Num 21:9, felly y mae yn rhaid dyrchafu#3:14 Nid yn unig i'r Groes ond hefyd i'r Nefoedd. Mab y Dyn: 15fel#3:15 fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono, &c., A Δ [La] Fel yn y Testyn [gad. na choller … ond] א B L Brnd. y caffo pwy bynag a gredo ynddo ef fywyd tragywyddol#3:15 aiônios, o aiôn, oes y byd, yna, oes heb derfyn, [eis aiôna, am byth, yn dragywydd]. Defnyddir aiônios, a rhydd bwyslais ar anfesuroldeb tragywyddoldeb. Cyfeiria at yr hyn oedd heb ddechreuad (Rhuf 16:25; 2 Tim 1:9); at yr hyn sydd heb ddiwedd, (2 Cor 4:18; 2 Petr 1:11); at yr hyn sydd heb ddechreu na diwedd, at Dduw ei hun (Rhuf 16:26; Heb 9:14)..
16Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei Unig‐anedig Fab, fel na choller#3:16 Apollumi, dinystrio [corff ac enaid, Mat 10:28], dyfetha, lladd [y plentyn bychan, Mat 2:13], colli [y ddafad, Luc 15:4; bywyd, Marc 8:35]. Golyga y ferf yn y llais canolog bod yn golledig, nid bod allan o fodolaeth, ond colli amcan bodolaeth, bod allan o le, fel y mae dyn fel pechadur, ac felly yn amddifad o ddyogelwch, dedwyddwch, a sancteiddrwydd, y rhai ydynt wir elfenau bywyd. Dynoda yr amser a ddefnyddir, colli unwaith am byth, tra y dynoda amser caffael, feddiant parhâol. pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol. 17Canys ni ddanfonodd Duw y#3:17 y Mab א B L Brnd. ei Fab A Δ. Mab i'r byd, i farnu y byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef. 18Nid yw yr hwn sydd yn credu ynddo#3:18 Llyth.: iddo ef. ef yn cael ei farnu#3:18 Yn achos y credadyn nid oes barn. Y mae yr amser presenol yma yn cynwys pob amser. Y mae yr anghredadyn wedi ei farnu yn barod gan ei fod tu allan i Grist. Y mae barnedigaeth yn cyd‐fyned à gwrthodiad o hono.: eithr yr hwn nid yw yn credu sydd wedi ei farnu#3:18 Yn achos y credadyn nid oes barn. Y mae yr amser presenol yma yn cynwys pob amser. Y mae yr anghredadyn wedi ei farnu yn barod gan ei fod tu allan i Grist. Y mae barnedigaeth yn cyd‐fyned à gwrthodiad o hono. eisioes, o herwydd nad ydyw wedi credu yn enw Unig‐anedig Fab Duw. 19A hon yw y farnedigaeth: Y mae y Goleuni wedi dyfod i'r byd, a dynion a garasant y Tywyllwch#3:19 skotos a ddefnyddir yn unig yma ac yn 1 Ioan 1:6 gan Ioan. Skotia a geir yn y manau eraill. Dynoda skotos dywyllwch fel gallu, a skotia dywyllwch fel sefyllfa. yn hytrach na'r Goleuni; canys eu gweithredoedd oeddynt ddrwg. 20Canys pob un a'r sydd yn ymarfer#3:20 prassô, ymarfer, bod yn ddiwyd yn, dwyn yn mlaen, yn enwedig yr hyn sydd ddrwg. Defnyddir yr enw praxis yn y T. N., fel rheol, am weithred ddrwg. Yn yr adnod nesaf defnyddir poieô, term mwy cyffredinol, gwneuthur, gwneuthur yn derfynol, cyflawnu. Yn y blaenaf cawn weithgarwch, bywiogrwydd y gweithredydd; yn yr olaf ganlyniad neu effaith barhâol y weithred: prassein êirênên, cyflafareddu am heddwch; poiein eirênen, penderfynu, sefydlu, heddwch. Prassein phaula, bod yn ddiwyd gyd â, ymarfer, dylyn, pethau diwerth, iselwael, diffrwyth, heb ddim i ddangos am lafur; poiein tên alêtheian gwneuthur gwirionedd; y mae yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd yn dwyn ffrwyth, yn adeiladu tŷ a saif yn y cenllif ac yn y tân; y mae “ei weithredoedd yn ei ganlyn.” pethau iselwael#3:20 phaula, pethau ysgafn, disylwedd, gwael, diwerth, coeg: yna, iselwael, drwg. Cawn ef bedair o weithiau yn y T. N., 5:29: Titus 2:8; Iago 3:16. Y mae y pethau drwg [ta ponêra] adnod 19, yn golygu drwg gorddodol, gweithredol, niweidiol. sydd yn cashâu y Goleuni, ac nid yw yn dyfod at y Goleuni, fel na ddygid ei weithredoedd i brawf#3:20 elengchô, dadbrofi, gwrthbrofi, croesholi er mwyn gwrthbrofi; yna, dwyn i brawf, dynoethi, ceryddu, (Ioan Fedyddiwr yn ceryddu Herod, Luc 3:19, gweler hefyd 1 Tim 5:20; Eph 5:11, 13), argyhoeddi, dwyn i'r amlwg.. 21Ond yr hwn sydd yn gwneuthur y gwirionedd sydd yn dyfod i'r Goleuni, fel yr eglurhâer ei weithredoedd ef, canys#3:21 Neu, mai. yn Nuw y maent wedi eu gweithio allan#3:21 gwneuthur gwaith, llafurio (yn wrthwynebol i fod yn anweithgar a segur), gweithio allan, ymarfer, cyflawnu..
Bedydd Ioan, a'i ddysgeidiaeth am Grist.
22Wedi y pethau hyn, daeth yr Iesu a'i Ddysgyblion i wlad Judea; ac yno yr arosodd efe gyd â hwynt, ac a fedyddiodd#3:22 Yr amser anmherffaith, a arferai fedyddio.. 23Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon yn agos i Salim, canys dyfroedd lawer oedd yno; a hwy a ddaethant#3:23 paraginomai, dyfod allan yn gyhoeddus. ac a fedyddiwyd. 24Canys nid oedd Ioan eto wedi ei fwrw i'r carchar. 25Cyfododd gan hyny ddadl#3:25 Zêtêsis, ymchwiliad, ymofyniad, dadl (Act 15:2), yna, pwnc neu fater dadl (1 Tim 1:4; 6:4; 2 Tim 2:23): o ran Dysgyblion Ioan âg Iuddew#3:25 Iuddew A B L Brnd.; Iuddewon א. ynghylch puredigaeth. 26A daethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyd â thi y tu hwnt i'r Iorddonen, i'r hwn yr wyt ti wedi tystiolaethu, wele, y mae hwn yn bedyddio, a phawb yn dyfod ato ef. 27Ioan a atebodd ac a ddywedodd, Ni ddichon dyn dderbyn#3:27 Golyga lambanein, derbyn (oddiwrth arall), neu gymmeryd iddo ei hun. dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o'r Nef. 28Chwychwi eich hunain ydych yn tystiolaethu i mi ddywedyd, Nid myfi yw y Crist, eithr fy mod i wedi fy anfon o'i flaen ef. 29Yr hwn sydd ganddo y briod‐ferch yw y priod‐fab: ond cyfaill y priod‐fab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr#3:29 Llyth.: llawenychu gyd â llawenydd. Y mae y briod‐wedd yn gyffredin yn y LXX., ond yma yn unig yn Ioan. o herwydd llais y priod‐fab: fy llawenydd hwn gan hyny sydd wedi ei gyflawnu#3:29 Neu, gwblhâu, perffeithio, ei wneuthur yn llawn.. 30Rhaid iddo ef gynyddu, ond i mi leihâu. 31Yr hwn sydd yn dyfod oddi uchod sydd goruwch pawb#3:31 Neu, pob peth. Y mae tystiolaeth Ioan Fedyddiwr yn gorphen gyd â'r adnod ddiweddaf.: yr hwn sydd o'r ddaear sydd o'r ddaear, ac o'r ddaear y mae yn llefaru#3:31 Neu, Yr hwn sydd o'r ddaear sydd ddaearol, ac yn ddaearol y mae yn llefaru.; yr hwn sydd yn dyfod o'r Nef sydd#3:31 Darllena א D Ti. sydd yn tystiolaethu yr hyn y mae wedi ei weled ac a glywodd. goruwch pawb. 32Yr hyn y mae efe wedi ei weled ac a glywodd, hyn y mae efe yn ei dystiolaethu#3:32 Darllena א D Ti. sydd yn tystiolaethu yr hyn y mae wedi ei weled ac a glywodd., a'i dystiolaeth ef nid oes neb yn ei derbyn. 33Yr hwn a dderbyniodd#3:33 Golyga y gair derbyn ynghyd a dal meddiant o'r hyn a dderbynir. ei dystiolaeth ef a seliodd#3:33 h. y. gadarnhâodd, a wirioneddolodd. fod Duw yn wir. 34Canys yr hwn a anfonodd Duw, geiriau Duw y mae yn eu llefaru; oblegyd nid wrth fesur y mae efe#3:34 Duw A D Δ La. [Tr.] Gad. א B C L Ti. Al. WH. Diw. yn rhoddi yr Yspryd. 35Y mae y Tâd yn caru y Mab, ac wedi rhoddi pob peth yn ei law ef. 36Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragywyddol: ond yr hwn sydd yn anufyddhâu i'r Mab, ni wel fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.

Nke Ahọpụtara Ugbu A:

Ioan 3: CTE

Mee ka ọ bụrụ isi

Kesaa

Mapịa

None

Ịchọrọ ka echekwaara gị ihe ndị gasị ị mere ka ha pụta ìhè ná ngwaọrụ gị niile? Debanye aha gị ma ọ bụ mee mbanye