Mi adwaen yr ymlusgiaid
A’r adar oll i gyd.
Pe clemiwn, ni chaet wybod,
Cans eiddof fi’r holl fyd.
Cig teirw a gwaed bychod,
Nid ydynt ddim i mi.
Yr hyn a fynnaf gennyt
Yw dy addoliad di.
Am hynny, tâl, O Israel,
Dy addunedau i Dduw.
Os gelwi yn nydd cyfyngder,
Fe’th gadwaf di yn fyw.
Ond wrth bob un drygionu
Dywedaf: Sut wyt ti
Yn meiddio sôn am ddeddfau
Fy nglân gyfamod i?