Akara Njirimara YouVersion
Akara Eji Eme Ọchịchọ

Salmau 50:7-14

Salmau 50:7-14 SCN

O gwrando, Israel, tystiaf Yn d’erbyn. Fi yw Duw. Ceryddu dy aberthau Ni fedraf yn fy myw. Ond ni chymeraf fustach Na bychod geifr o’th dŷ, A minnau’n berchen popeth Sy’n pori ar fryniau lu. Mi adwaen yr ymlusgiaid A’r adar oll i gyd. Pe clemiwn, ni chaet wybod, Cans eiddof fi’r holl fyd. Cig teirw a gwaed bychod, Nid ydynt ddim i mi. Yr hyn a fynnaf gennyt Yw dy addoliad di.