Salmau 147
147
SALM CXLVII
Haleliwia.
I. MAWL I DDUW AM EI DDAIONI I IERIWSALEM: (1-6).
1Da yw canu mawl i’n Duw,
Canys hyfryd a gweddus yw mawl.
2Iehofa sy’n adeiladu Ieriwsalem,
Casgl ynghyd alltudion Israel.
3Y mae’n iachau’r briwedig o galon,
Ac yn rhwymo eu doluriau.
4Y mae’n penodi nifer y sêr,
A dyry enw i bob un ohonynt.
5Mawr yw ein Harglwydd a helaeth o nerth,
Nid oes fesur ar Ei ddeall.
6Y mae Iehofa yn adfer y trueiniaid,
Y mae’n gostwng yr annuwiol i’r llawr.
II. MAWL AM ALLU DUW YN NATUR A’I OFAL DROS DDYN: (7-11).
7Cenwch gân o ddiolch i Iehofa,
Cenwch i’n Duw â thelyn.
8Ef sydd yn toi’r nefoedd â chymylau,
Ac yn paratoi glaw i’r ddaear,
Ef sydd yn rhoi gwyrddlesni i’r mynyddoedd,
A llysiau at wasanaeth dyn.
9Ef sydd yn rhoddi ei fwyd i anifail,
Ac i’r cigfrain pan lefant.
10Nid mewn nerth march y mae Ei hyfrydwch,
Nid mewn arfau milwr y mae Ei hoffter;
11Ond hoffter Iehofa yw Ei addolwyr,
A’r rhai a ddisgwyl wrth Ei gariad Ef.
III. MAWL AM FENDITH DUW I IERIWSALEM A’l RYM MEWN NATUR: (12-20).
12Clodfora Iehofa, O Ieriwsalem,
Molianna dy Dduw, O Sion.
13Canys cadarnhaodd farrau dy byrth,
A bendithiodd dy blant o’th fewn.
14Gesyd Heddwch yn derfyn i ti,
Y mae’n dy ddiwallu â gwenith bras.
15Enfyn Ei orchymyn i’r ddaear,
Rhed Ei air yn fuan iawn.
16Y mae’n rhoddi eira fel gwlân,
A gwasgara farrug fel lludw.
17Y mae’n bwrw cenllysg fel briwsion,
Rhewa’r dyfroedd o flaen Ei oerni Ef.
18Enfyn Ei orchymyn i’w dadmer hwynt,
Pair i’w wynt chwythu, — llifa’r dyfroedd.
19Mynega Ei orchymyn i Iacob,
Ei ddeddfau a’i farnau i Israel.
20Ni wnaeth felly ag un genedl arall,
A’i farnau nid adwaenant hwy.
salm cxlvii
Un o’r Salmau Haleliwia, a diweddar iawn ydyw Salmau y casgliad hwn. Cyfansoddwyd y Salm hon, fel ei chymheiriaid ar gyfer gwasanaeth y Deml, a dyna yn ddiau paham y mae ei chynnwys mor amrywiol. Yn y cyfieithiad Groeg ystyrir y Salm hon yn ddwy, 1-11 a 12-20, ond dichon fod yma dair Salm wedi eu gweu yn un, ond nid yw’r Salmau hyn yn hynod am eu hundod, a gellir ei hystyried yn un Salm a’i rhannau wedi eu crynhoi o wahanol ysgrythurau.
Nodiadau
1—3. I’r teitl y perthyn “Haleliwia” a gyfieithir “Molwch yr Arglwydd”. At ail-adeiladu Ieriwsalem y cyfeirir yn 2, a dengys y cyfeiriad hwn fod y ddinas ar y pryd yn anafus fel y bu yn nyddiau cynnar y Macabeaid.
4—6. Nid cyfrif y sêr a wna, er bod hynny tu hwnt i allu dyn, ond penodi eu nifer, a dyry enwau i bob un fel y dyry dyn enwau ar ei blant (Gwêl Gen. 15:15). Y mae’r hen gyfieithiad yn bosibl megis yn Es. 40:26. Â’r sêr yn orymdaith heibio i Dduw, a geilw ef ar bob un i ddyfod o’i flaen i’w harchwilio. Cyn amled yw Ei allu wrth drin dynion ag wrth ddelio â natur.
7—8. Dechreuir Salm newydd gyda’r adnod hon trwy alw ar ddynion i ddwysáu eu mawl i Dduw yn y Deml. Collwyd y frawddeg olaf yn 8 o’r Hebraeg trwy ddiofalwch rhyw gopïydd, ond cadwyd hi yn y cyfieithiad Groeg.
9—11. Nid ar ddyn yn unig y mae gofal Duw, ond ar anifail a chigfran, ar greaduriaid dof a gwyllt. Y mae “nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr” yn anodd dygymod ag ef, er bod cyflymder traed yn beth i’w chwennych mewn rhyfel fel cryfder march rhyfel. Y mae’n wir bod cyflymder a nerth yn ddau anhepgor milwr da gynt, ond anodd ymatal rhag darllen “arfau” yn lle “esgeiriau”, — nid yw’r newid ond bychan.
12—14. Dechreuir Salm newydd yma eto, a thros hyn y mae awdurdod y cyfieithiad Groeg, a ddyry’r teitl “Haleliwia” ar ddechrau’r adran hon.
Y fendith a ddyry Iehofa i ddinasyddion Ieriwsalem ydyw diogelwch sicrach rhag y gelynion. (Gwêl Neh. 3).
Personolir heddwch — saif ar y terfyn yn diogelu cymdogaeth dda rhwng Israel a’i chymdogion. Tir cnydiog a heddwch â’i chymdogion — onid dyma ddyhead dwfn pob gwlad heddiw?
15—17. Ystyrir “gorchymyn” a “gair” Iehofa yn dyfod yn bersonau i’r ddaear fel cenhadon, ac yn cyflawni eu negeseuau. Ychwanegu un llythyren yn unig a ddyry y cyfieithiad, “Rhewa’r dyfroedd”.
18—20. Trwy Ei orchymyn Ef drachefn daw’r gwynt meiriol i ddadmer y rhew, a’r gorchymyn a weithia mor rymus yn natur sydd yn rhoddi i Israel y Ddeddf sydd yn ei gwahaniaethu oddi wrth bob rhyw genedl arall.
Pynciau i’w Trafod:
1. Ystyriwch Emyn Dyfed (rhif 480 Llawlyfr Moliant) yng ngoleuni’r Salm hon.
2. Beth ydyw dysgeidiaeth y Salm am Ragluniaeth Duw? Soniwn ni yn fynych am “Dduw mewn natur”, — pa wahaniaeth sydd rhyngom ni a’r Salmydd hwn pan fyfyriom ar hynny?
3. A oes gan y Salmydd hwn rhyw genadwri i’n dyddiau cythryblus ni?
4. Ystyriwch 10 a 11 yn wyneb y dwymyn pentyrru arfau sydd ymysg y cenhedloedd heddiw.
5. Ystyriwch adnod 20. Clywch lefaru huawdl yn fynych ar “genhadaeth ddwyfol yr Ymerodraeth Brydeinig”. A ellir cyfreithloni siarad fel hyn? A ddengys Duw ffafriaeth i un genedl mwy na’r llall? A chaniatáu bod hyn yn wir, a wnaethom y defnydd gorau o’r cyfleusterau a’r breintiau arbennig a roddwyd i ni, — yn Affrica, yn India, etc.?
Chwazi Kounye ya:
Salmau 147: SLV
Pati Souliye
Pataje
Kopye

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.