Diarhebion 31

31
Gwraig Rinweddol
10Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? Y mae hi’n werthfawrocach na’r cwrel.
11Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, . . .
12a lles mawr a fydd hi iddo. Elw nid colled fydd hi iddo holl ddyddiau ei bywyd.
13... Nid oes arni hi ofn caledwaith.
14Y mae hi’n debyg i longau marsiandwyr sy’n cludo ymborth o bell.
15Cyfyd ymhell cyn y wawr er mwyn bwydo ei theulu . . .
17... Nid yw ei breichiau byth yn segur.
18Gwêl fod diwydrwydd yn talu iddi. Ni ddiffydd y canhwyllau yn ei thŷ trwy gydol y nos.
20Hael iawn yw hi wrth dlawd, a da yw yr anghenus wrthi . . . .
25Diogel iawn yw ei safle hi — y mae hyder yn ei chwerthin gan ei bod yn gweld ymhell.
26Y mae synnwyr yn ei siarad, a diogelwch yn ei chyngor.
27Hi a graffa ar ffordd ei thylwyth o fyw — ni fwyty hi fara seguryd.
28Canmol ei phlant hi beunydd, ni flinant ar roddi geirda iddi.
29“Cyflawnodd,” meddent, “lawer gwraig bethau gwych iawn, ond ni fu neb tebyg i ti.”
30Twyllodrus yw ffafr — diflannu mae tegwch — cedwch eich teyrnged i ferch o gymeriad.
31Rhowch iddi’r clod a haedda ei gweithredoedd, a chanmolwch hi ar goedd am ei gwasanaeth.

Chwazi Kounye ya:

Diarhebion 31: SLV

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte