Salmau 145

145
SALM CXLV
IEHOFA Y BRENIN.
‘Mawlgan Dafydd’
[Aleff]
1Mawrygaf di, fy Nuw, o Frenin;
Bendithiaf Dy enw yn wastadol.
[Beth]
2Bendithiaf Di beunydd,
A molaf Dy enw yn wastadol.
[Gimel]
3Mawr yw Iehofa, pob clod a haedda,
Anchwiliadwy yw Ei fawredd.
[Daleth]
4Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl Dy weithredoedd,
A mynegi Dy wrhydri.
[He]
5Dywedant am Dy anrhydedd ardderchog,
A thraethant Dy ryfeddodau.
[Waw]
6Traethant gadernid Dy weithredoedd ofnadwy,
A mynegant Dy weithredoedd nerthol.
[Sain]
7Taenant ar led goffadwriaeth Dy ddaioni mawr,
A chanant yn uchel am Dy ffyddlondeb.
[Cheth]
8Llawn gras a thrugaredd yw Iehofa,
Araf Ei ddig a mawr Ei gariad.
[Teth]
9Da wrth bawb a ddisgwyl wrtho yw Iehofa,
A’i drugaredd fawr sydd ar bopeth a greodd.
[Iodd]
10Mawl Dy holl weithredoedd Di, O Iehofa,
A’th ffyddloniaid a’th fendithiant.
[Caff]
11Soniant am Dy frenhiniaeth ogoneddus,
A thraethant Dy wrhydri,
[Lamedd]
12I beri i ddynion gydnabod Dy gadernid,
A gogoniant Dy frenhiniaeth ardderchog.
[Mem]
13Brenhiniaeth wastadol yw Dy frenhiniaeth Di,
A’th lywodraeth sydd yn wastadol.
[Nŵn]
13A (Ffyddlon yn Ei holl addewidion yw Iehofa,
A graslawn yn Ei holl weithredoedd.)
[Samech]
14Y mae Iehofa yn cynnal y syrthiedig,
Ac yn codi pawb a ostyngwyd.
[Ain]
15Llygaid popeth a ddisgwyl wrthyt Ti,
A rhoddi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
[Pe]
16Agori Di Dy law a diwallu
Popeth byw ag ewyllys da.
[Tsade]
17Ffyddlon yn Ei holl ffyrdd yw Iehofa,
A graslawn yn Ei holl weithredoedd.
[Côph]
18Agos yw Iehofa at bawb a eilw arno, —
At bawb a eilw arno yn ddidwyll.
[Res]
19Dymuniadau Ei ddeiliaid a gyflawna,
Gwrendy eu llef am gymorth a’u hachub.
[Sin]
20Ceidw Iehofa bawb a’i caro,
Ond difetha’r holl annuwiolion.
[Taw]
21Traetha fy ngenau foliant Iehofa,
A bendithied pob dyn Ei enw santaidd.
salm cxlv
Salm Acrostig a phob adnod yn dechrau gyda llythyren y wyddor Hebraeg, ond collwyd yr adnod a ddechreuai gyda’r llythyren N (nŵn), ond adferwyd hi yma o’r cyfieithiad Groeg. Ni cheir dwyster na dyfnder yn y Salmau hyn a ddefnyddia ffurfiau llenyddol o’r math hwn. Y mae’r Salm hon yn rhagymadrodd i Salmau Haleliwia 146-150.
Nodiadau
1, 2. Y mae mawl Iehofa yn y Deml yn ddi-baid a chyson. Y mae “enw” Iehofa yn cynnwys popeth a ddatguddiwyd am dano erioed.
3, 8. Yma rhoddir cynnwys y mawl di-baid a roddir i Iehofa. Newidiwyd brawddeg yma a thraw a dilynwyd yn bennaf y cyfieithiad Groeg sydd yn yr adran hon yn rhagori ar yr Hebraeg.
Rhyfeddodau Iehofa yw Ei drugareddau i’w bobl, a’i weithredoedd ofnadwy yw Ei ddial ar elynion Israel.
9—13. Ychwanegwyd “a ddisgwyl wrtho” o’r cyfieithiad Groeg yn adnod 9. Yma eto y mae’r ystyr yn esmwythach o ddilyn y cyfieithiad hwnnw, ac o hwnnw hefyd y cafwyd 13A, ac o’i chynnwys yma ceir yr wyddor Hebraeg yn gyflawn yn y Salm.
14—21. Iehofa ydyw cynhaliaeth dyn ac anifail. Nid yn unig caiff dyn ac anifail bopeth a ddymunant ganddo, ond ychwanega Duw ewyllys da at y rhodd, bonheddwr mawr ydyw Duw.
Pynciau i’w Trafod:
1. Y mae’n debyg cyfansoddi’r Salm hon yn arbennig ar gyfer yr addoliad cyhoeddus yn y Deml. A ydyw emynau sy’n fynegiant o brofiad personol yn gymwys i addoliad cyhoeddus? Ai prin ynteu helaeth ydyw emynau o natur y Salm hon yn ein haddoliad ni heddiw?
2. Ceisiwch synied am gymeriad yr awdur o gynnwys y Salm. A fedrwch chwi ddychmygu cyfansoddi’r Salm hon heddiw yn ein hoes ni?
3. “A weddïo’r Salm hon deirgwaith yn y dydd sy’n ei gymhwyso ei hun orau ar gyfer mawl y byd a ddaw.” Trafodwch y dywediad Iddewig hwn.

Chwazi Kounye ya:

Salmau 145: SLV

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte