Salmau 139
139
SALM CXXXIX
LLOND POB LLE, PRESENNOL YM MHOB MAN.
‘O Lyfr Canu’r Pencerdd. Salm Dafydd’.
1Chwiliaist fi, O Iehofa, ac adnabuost fi.
2Adwaeni Di fy mywyd yn ei eisteddiad
A’i gyfodiad,
Deelli o bell fy meddwl.
3Creffi ar fy llwybyr a’m gorweddfa,
A chynefin â’m holl ffyrdd wyt Ti.
4Cyn bod gair ar fy nhafod,
Gwyddost Ti, O Iehofa, bopeth am dano.
5Ôl a blaen gwarchaeaist arnaf
A gosodaist Dy law arnaf.
6Rhy ryfedd i mi yw’r wybodaeth hon;
Uchel iawn ydyw ac allan o’m cyrraedd.
7I ble yr af oddi wrth Dy Ysbryd?
I ble y ffoaf rhag Dy wyneb?
8Pe dringwn i’r nefoedd, yno yr wyt Ti,
Pe taenwn fy ngwely yn Annwn, yno hefyd wyt Ti.
9Pe cymerwn adain i wlad y wawr,
Pe trigwn yn nherfyn eithaf y môr,
10Hyd yn oed yno gafaelai Dy law ynof,
A’th ddeheulaw a’m daliai.
11Pe dywedwn, “Gorchuddied y tywyllwch fi,
A chaeed y nos amdanaf”,
12Nid yw tywyllwch yn dywyllwch i Ti,
Ond nos a oleua fel dydd,
Un ffunud yw tywyllwch a goleuni.
14Canmolaf Di am Dy fod
Yn ofnadwy a rhyfeddol,
Rhyfeddol yw Dy weithredoedd.
13Adwaenai fi yn drylwyr,
Canys lluniaist fi oddi mewn,
A gweaist fi yng nghroth fy mam.
15Ni chuddiwyd fy esgyrn rhagot Ti,
Pan wnaethpwyd fi yn ddirgel,
A’m brodio yn y byd isod.
16Gwelodd Dy lygaid fy holl ddyddiau,
Yn Dy lyfr y sgrifennwyd hwynt oll,
Cyn eu llunio a chyn bod yr un ohonynt.
17Mor drwm yw Dy feddyliau, O Dduw,
Mor fawr yw eu swm anferth!
18Ofer eu cyfrif, amlach na thywod ydynt.
Pan ddeffrowyf yr wyf fyth gyda Thi.
19O na leddi yr annuwiol, O Dduw,
A throi oddi wrthyf y gwŷr gwaedlyd,
20A wrthryfela i’th erbyn yn faleisus,
A chodi i’th erbyn yn ofer.
21O Iehofa, onid cas gennyf Dy gaseion Di,
Onid ffiaidd gennyf Dy wrthwynebwyr?
22Caseais hwynt â châs cyflawn,
Ystyriaf hwynt yn elynion i mi.
23Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon,
Rho braw arnaf, a gwybydd fy meddyliau.
24Edrych a oes ynof ffordd a bair niwed,
Ac arwain fi yn y ffordd dragwyddol.
salm cxxxix
Ystyrir y Salm hon yn “goron y Sallwyr” gan esbonwyr Iddewig. Gwêl rhai yma dair Salm, ond gwell yw edrych arni fel cyfanwaith, ac ystyried 19 — 24 gyda’u nodau chwerw a dialgar fel chwanegiad at y Salm wreiddiol a wnaethpwyd yn nyddiau’r Macabeaid. Y mae’r Salm yn un ddiweddar iawn, ac yn sicr yn perthyn i gyfnod diweddarach na chyfnod Llyfr Job. Y mae dysgeidiaeth y Salm am yr Ysbryd Dwyfol yn aeddfetach na dysgeidiaeth unrhyw ddarn arall o Ysgrythur yn yr Hen Destament ac yn nes at ddysgeidiaeth y Testament Newydd.
Nodiadau
1—6. Nid oes dim mymryn o fywyd dyn yn guddiedig rhag Iehofa. Adnabod bywyd yn ei eisteddiad a’i gyfodiad ydyw ei adnabod yn drylwyr, — pob egni a phob symudiad ohono.
Gair prin ac anghyffredin ydyw’r gair “meddwl” yn 2, a gall olygu “cyfaill”, ond nid yw’r ystyr yna yn addas yma mwy nag yn 17.
“Gwyntyllio” neu “hidlo” ydyw ystyr y gair a gyfieithir yma yn “creffi” (3). Gŵyr Duw feddyliau dyn cyn iddo eu llunio, a’i eiriau cyn iddo eu llefaru (4). Gwybodaeth ryfedd Duw am ddyn a feddylir yn 6, — gall dyn ryfeddu at y wybodaeth honno, ond ni all ei deall na’i hamgyffred.
7—12. Y mae “Dy Ysbryd” a “Dy wyneb” yma yn gyfystyr â Iehofa ei hun.
Yn 8, awgrymir bod cymdeithas â Duw yn parhau yn Annwn (Sheol), a hyn yn wahanol i ddysgeidiaeth gweddill y Salmau.
Yn 9, ni ellir cyfiawnhau yr hen gyfieithiad, er prydferthed ac anwyled ydyw. Os cywir yr ymadrodd “adenydd y wawr” y mae’n syn mai yma yn unig y digwydd. Holl bresenoldeb Iehofa ydyw testun y Salmydd yn yr adran hon, — y mae Ef ymhobman, — yng ngwlad y wawr, sef y Dwyrain, ac yn nherfyn eithaf y Môr Canoldir, sef y Gorllewin. Dwyrain a Gorllewin yn golygu’r holl fyd a phob rhan ohono.
13—18. Y mae cyswllt yr adnodau hyn a’r adnodau sy’n blaenori yn addas a naturiol. Hollwybodolaeth Duw ydyw pwnc 1—6, a’i hollbresenoldeb yn bwnc 7—12, yna y pwnc ydyw gwybodaeth drylwyr Duw am ddyn a’i ddiddordeb ynddo.
Enillir llawer drwy newid trefn 13 a 14. Ychydig iawn o newid ar y gwreiddiol a ddyry’r darlleniad “am Dy fod yn ofnadwy a rhyfeddol” yn hytrach nac “yn ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed”, ac y mae seiliau da a hen awdurdod dros hyn.
Hyd yn oed yn nirgelfa’r groth yr oedd llygaid Duw arno. Meddwl y Salmydd am ddyn fel gwead hardd wedi ei frodio â gwythiennau.
Y mae Annwn (Sheol) yn ei feddwl yn 15, a lle tywyll, dirgel fel Sheol ydyw’r groth y lluniwyd dyn ynddi.
Yn 16 y mae’n well darllen “dyddiau” gyda hen awdurdodau nag “anweledig ddefnydd”. Y mae dyddiau dyn wedi ei rhagordeinio gan Dduw, ac wedi eu cofnodi yn Ei lyfr, gwêl Salm 56:8; Ex. 32:32; a Mal. 3:16, 17.
Yn 17 a 18 syfrdenir y Salmydd gan feddyliau Duw am dano, a dyma sydd uchaf yn ei feddwl pan ddeffry yn y bore.
19—22. Y mae’n anghredadwy bod yr adran hon yn perthyn i Salm mor odidog, a pheth hawdd ydyw credu mai chwerwedd rhyw awdur yn nyddiau’r Macabeaid sy’n gyfrifol am dani. Y mae’r ddwy adnod olaf mewn ysbryd addfwynach. Erfyn ar Dduw ei chwilio yn llwyr rhag bod ynddo arferion drwg na ŵyr ef amdanynt. Nid oes gyfeiriad yn y frawddeg olaf at fywyd ar ôl hwn, ond ystyr ffordd dragwyddol ydyw ‘ffordd a arwain i hir ddyddiau
Pynciau i’w Trafod:
1. A ydych chwi yn credu bod diddordeb Duw yn eich bywyd mor fanwl ag y credai y Salmydd hwn?
2. Yng ngoleuni 7—10 trafodwch a ganlyn: — “Amlycach yn yr Hen Destament na’r syniad mai Ysbryd yw Duw yw’r syniad fod Ysbryd gan Dduw”.
3. Pa wahaniaeth sydd rhwng syniad y Salmydd hwn am Dduw â’n syniad ni heddiw?
4. A ydych chwi yn credu bod dyddiau a thynged dyn wedi eu rhagbenderfynu gan Dduw? (adn. 16). Pa ran sydd gan y dyn ei hun mewn penderfynu ei dynged?
5. Paham na allwn ddygymod â’r weddi yn 19—22 heddiw? A ydych chwi yn cael eich temtio i weddïo felly weithiau?
6. Pa un ai creu arswyd ynoch ynteu hyfrydwch a wna’r syniad fod llygaid Duw fyth arnoch?
Chwazi Kounye ya:
Salmau 139: SLV
Pati Souliye
Pataje
Kopye

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.