Salmau 132

132
SALM CXXXII
EI HEN ADDEWID WIW.
‘Cân y Pererinion’.
1Cofia i Ddafydd, O Iehofa,
Ei holl gystudd,
2Y modd y gwnaeth lw i Iehofa
Ac adduned i Gadarn Iacob,
3Nad âi i mewn i’w dŷ,
Na dringo dros erchwyn ei wely,
4Na rhoddi cwsg i’w lygaid,
Na hun i’w amrantau,
5Hyd nes cael lle i Iehofa,
A phreswylfod deilwng i Gadarn Iacob.
6Clywsom am arch Iehofa yn Ephrata,
Cawsom hi yn rhandir Iear;
7“Awn i’w breswylfod Ef,
Addolwn o flaen Ei droedfainc”.
8“Cyfod, Iehofa, i’th orffwysfa,
Tydi a’th gadarn arch.
9Gwisged Dy offeiriaid gyfiawnder,
A bloeddied Dy saint yn llawen.
10Er mwyn Dafydd Dy was
Na wrthod Dy Eneiniog”.
11Llw ffyddlon a dyngodd Iehofa i Ddafydd,
Ni thry Ef oddi wrth Ei air:
“Un o’th hil a osodaf ar dy orsedd.
12Os ceidw dy feibion fy nghyfamod,
A’m deddfau a ddysgaf iddynt,
Yna eu meibion hwythau a gaiff deyrnasu
Ar dy orsedd yn wastad”.
13Canys dewisodd Iehofa Sion,
Dyma’r eisteddfa a chwenychodd.
14“Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd,
Yma y trigaf, canys chwenychais hi.
15Bendithiaf yn llawn ei lluniaeth hi,
Diwallaf ei thlodion â bara.
16Gwisgaf ei hoffeiriaid ag iechydwriaeth,
A’i saint a floeddia yn llawen.
17Yno gwnaf i gorn Dafydd flaguro,
Trefnaf lamp i’m Heneiniog;
18Gwisgaf ei elynion â chywilydd,
Ond coron ddisglair fydd ar ei ben ef”.
salm cxxxii
Gweddi ydyw’r Salm hon ar Iehofa i gofio Ei gyfamod gynt â Dafydd; etyb yntau’r weddi drwy adnewyddu yr addewidion a wnaeth iddo. Fel Salm 89 gwna ddefnydd helaeth o addewid Iehofa i Ddafydd yn 2 Sam. 7. Ofer ydyw ceisio dyfalu ei chyfnod a’i hawdur, ond cyfnod tawel digyffro ydoedd, a dylanwad yr offeiriaid yn fawr, a chyfnod o ymgeleddu’r tlodion yn y Deml.
Y mae’n bur wahanol ei chynnwys i weddill y Salmau a elwir yn ‘Ganiadau y Graddau’. Gellir gyda graddau o sicrwydd ei dodi yn y cyfnod Macabeaid, a chyda’r un graddau o sicrwydd ei phriodoli i gyfnod Nehemeia.
Nodiadau
1—5. Helbul Dafydd ynglŷn â’r arch a feddylir, a’r drafferth a gafodd i sicrhau tŷ teilwng iddi. Nid oes sôn yn yr Hen Destament am y llw hwn, ond gwêl yr hanes yn 2 Sam. 6. ‘Cadarn Iacob,’ — hen enw ar Dduw, a gyfieithir gan rai yn ‘fustach Iacob’; addolid y bustach gan gymdogion Israel.
6, 7. Disgrifir yma brofiad a geiriau pobl Iwda wrth symud yr arch. Enw ar ardal oedd Effrata, ac ynddi hi yr oedd Bethlehem. Diau mai Ciriath Iearim a feddylir wrth ‘randir’ neu faes Iear, — yno’r bu’r arch am flynyddoedd lawer yn nhŷ Abinadab (1 Sam. 7).
Y Deml a olygir wrth ‘preswylfod’ a ‘troedfainc’.
8—10. Dyry’r Salmydd y geiriau hyn eto yng ngenau cyfoeswyr Dafydd, a cheir yr adnodau hyn ar derfyn gweddi Solomon wrth gysegru’r Deml (2. Cron. 6:41, 42), ond y mae’r Salm hon yn hŷn na’r weddi honno.
“Cyfod Iehofa” oedd y geiriau a lefarwyd pan gychwynnai’r arch ar ei thaith trwy’r anialwch (Num. 10:33-35).
Nid oedd urdd o offeiriaid na ‘saint’ fel dosbarth arbennig yn Israel yn nyddiau Dafydd a Solomon.
Saint” — y rhai a dderbyniodd ffafr Duw, neu y rhai â thrugaredd neu garedigrwydd yn brif nodwedd eu cymeriad. Yn Salm 1:5 ceir diffiniad o’r gair, “y rhai a wnaeth gyfamod â mi trwy aberth”, ac felly “y rhai a ymetyb i gariad cyfamodol Duw at Israel trwy ufuddhau i’w orchmynion, a chredu addewidion ei gyfraith”.
Yn nyddiau’r Macabeaid yr oedd “saint” yn enw ar blaid arbennig: —
“Yna cynulleidfa o’r Assideaid (yr un gair a ‘saint’ yma) a ymgasglodd atynt hwy, y rhai oedd wŷr cryfion o Israel, sef pwy bynnag oedd yn ewyllysgar yn ymroddi i’r gyfraith”.
Os i’r cyfnod Macabeaidd y perthyn y Salm dyna’r ystyr yma, ac efallai mai un o dywysogion y Macabeaid a feddylir wrth “Eneiniog” yn adn. 10.
11—12. Nid oes sôn am y llw hwn yn 2 Sam. 7. Ar amod yn unig y cyflawnir y llw i Ddafydd, sef bod ei feibion yn cadw cyfamod a deddfau Iehofa.
13—18. Dyma ateb i weddi’r bobl, rhoir addewid bendant am lwyddiant i Sion. “Corn Dafydd”, — defnyddir corn am allu neu nerth neu lywodraeth, ac addewid sydd yma am lwyddiant i dŷ Dafydd, a defnyddir ‘lamp’ yn ffigur am lwyddiant.
Pynciau i’w Trafod:
1. Beth oedd yr arch, a pha ystyr oedd iddi yn hanes Israel? Gwêl Ex. 25:10 — 17; Num. 10:35, 36; 1 Sam. 4 — 6; 1 Bren. 8.
2. Pa werth sydd yn yr apêl at hanes? A oedd gan y genedl hawl i ddisgwyl ffafr gan Dduw ar sail teilyngdod Dafydd?
A ydyw Duw yn bendithio’r plant oherwydd rhagoriaeth y tadau?
3. Ystyriwch gyflwr Iddewiaeth heddiw — heb gartref — heb dir — heb undod, ac yn erlidiedig ymhobman. Yn wyneb hyn beth am addewidion 13-18?

Chwazi Kounye ya:

Salmau 132: SLV

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte