Salmau 126

126
SALM CXXVI
CHWERTHIN A DAGRAU.
‘Cân y Pererinion.’
1Pan adferodd Iehofa amser da i Sion,
Yr oeddem fel rhai’n breuddwydio.
2Yna llanwyd ein genau â chwerthin,
A’n tafod â bloeddio llawen.
Yna dywedwyd ymysg y cenhedloedd,
“Pethau mawr a wnaeth Iehofa â’r rhai hyn”.
3Pethau mawr, yn wir, a wnaeth Iehofa â ni,
A llawen oeddem.
4O Iehofa adfer i ni eto yr amser da,
Fel y mae’r afonydd yn adfer y Deheudir cras.
5Bydded medi gorfoleddus
I’r rhai sy’n hau mewn dagrau.
6Â’r heuwr i’r maes gan feichio wylo,
A chludo baich o hadau;
Ond deued adref â bloeddio llawen
Gan gludo ei ysgubau.
salm cxxvi
Nid oes neb o bwys bellach yn ystyried y Salm hon yn disgrifio llawenydd y caethion pan ryddhawyd hwynt o Fabilon, a’r seithug oedd iddynt ar ôl dychwelyd. Cofia’r awdur am amser da a llwyddiannus a fu, a heddiw mewn dydd o gyni a chyfyngder a thlodi gweddïa am adfer yr amser hwnnw.
Nodiadau
1—3. Ystyr lythrennol yr ymadrodd “adfer amser da” ydyw ‘troi y troad’. Nid cyfeiriad sydd yma at droi adref o’r gaethglud, ond yn hytrach ei ystyr yw ‘adfer eto yr amser da a’r llwyddiant a fu’. Yr oedd y llwyddiant mawr a gofia’r awdur yn y gorffennol yn rhy dda i fod yn wir yn ei olwg ef a’i gyfoeswyr, — yr oedd fel breuddwyd, ac yn destun syndod i gymdogion Israel.
4—5. Y deheudir cras ydyw’r ‘Negeb’ yn neheudir Iwdea rhwng yr Aifft a Phalesteina. Yn yr haf mae’r afonydd a’r nentydd hysbion, ond pan ddêl glawogydd y gaeaf llenwir hwynt â dyfroedd, a gordoir y tir cras â thwf a glesni. Dengys yr adnodau hyn mai sychdwr mawr oedd achos y gofid, a thlodi yn dilyn methiant y cnydau. Yn yr adnod olaf y mae darlun dihafal o alaeth hau ac elwch medi.
Pynciau i’w Trafod:
1. Dywedir bod y Salm hon yn ddarlun perffaith o fywyd dyn gyda’i chwerthin a’i ddagrau, ei elwch a’i alaeth, ei freuddwyd prydferth a’i sylweddoli creulon.
2. Ai ymdeimlad o waredigaeth ydyw un o elfennau pwysicaf crefydd? Ystyriwch hyn yng ngoleuni 1-3.
3. Pa mor flin bynnag a fo gorchwyl hau, a sicrheir i ddyn fedi llawn a gorfoleddus? A oes hau ofer? A oes dichon i weithwyr Duw weithio’n ofer?
4. Ar adeg o fethiant ac aflwyddiant a oes gennym ni gysur a gobaith amgenach nag oedd gan y Salmydd hwn?

Chwazi Kounye ya:

Salmau 126: SLV

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte