Salmau 125

125
SALM CXXV
IEHOFA O AMGYLCH EI BOBL.
‘Cân y Pererinion’.
1Y rhai a ymddiried yn Iehofa
Sydd fel mynydd Sion, yn ddisigl am byth.
2Y mae Ieriwsalem fel brenin ar ei orsedd,
A’r mynyddoedd o’i hamgylch;
Felly hefyd y mae Iehofa
O amgylch Ei bobl
O’r pryd hwn ac yn dragywydd.
3Gwêl Ef na chaiff gwialen yr annuwiol
Orffwys ar randir y cyfiawn;
Rhag i hynny beri i’r cyfiawn
Estyn eu dwylo at ddrygioni.
4Gwna les i’r daionus, O Iehofa,
Ac i’r uniawn eu calon.
5Ond am y bobl a dry
I lwybrau drwg anunion,
Cymered Iehofa hwynt ymaith
Ynghyd â’r drwg-weithredwyr.
Llwyddiant ar Israel!
salm cxxv
Canwyd y Salm hon mewn adeg heddychlon; yr oedd Ieriwsalem mewn diogelwch yn eistedd fel brenin ar ei orsedd a’r mynyddoedd yn gylch o’i chwmpas.
Nodiadau
1, 2. Y mynyddoedd a fu amddiffyn gorau Ieriwsalem fel y buont gynt yn amddiffyn gwiw i Gymru. Ffurfiant gylch didoriad, ag eithrio mewn un man, o’i chwmpas, a phennaf o’r mynyddoedd yw Sion lle safai’r Deml. Yr hyn ydyw’r mynyddoedd i’r ddinas, dyna ydyw Iehofa i’w bobl.
3. Ni chaiff iau cenedl estron wasgu ar etifeddiaeth sydd wedi ei neilltuo i Israel gan Dduw. Ni ellir dyfalu pa genedl sydd ym meddwl yr awdur, ond ni chaniateir i hynny ddigwydd gan Dduw rhag i’r cyfiawn gael ei demtio i ryfygu ac amau cyfiawnder Duw.
4, 5. Erfyniad am ffafr Iehofa i’r uniawn, ac am iddo ddwyn ymaith o Ieriwsalem ac oddi wrth y ffyddlon yr Israeliaid traws.
Pynciau i’w Trafod:
1. Meddyliwch am Gymro yn canu’r Salm hon heddiw, “Y rhai a ymddiried yn yr Arglwydd sydd fel Yr Wyddfa, yn ddi-sigl am byth”.
2. “Y mae pob adnod a phob gair o’r Salm hon yn gysur di-feth i’r neb a erlidir o achos cydwybod ac o achos gair Duw.” Trafodwch hyn.
3. Yng ngoleuni 3, pa ddrwg a wna presenoldeb gelyn gormesol i grefydd gwlad? A ydyw gwlad rydd annibynnol yn fwy crefyddol na gwlad gaeth?

Chwazi Kounye ya:

Salmau 125: SLV

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte