Salmau 100

100
SALM C
SALM DIOLCHGARWCH.
1Bloeddiwch i Iehofa, yr holl ddaear.
2Addolwch Iehofa yn llawen,
Ewch o’i flaen gan seinio cân.
3Cyffeswch mai Iehofa sydd Dduw.
Ef a’n gwnaeth, a’i eiddo Ef ydym,
Ei bobl Ef a defaid Ei borfa.
4Deuwch i’w byrth â diolch,
I’w gynteddau â mawl.
Diolchwn iddo, bendithiwch Ei enw.
5Canys da yw Iehofa,
Am byth y pery Ei gariad,
A’i ffyddlondeb drwy bob cenhedlaeth.
salm c
Salm a genid pan offrymid yr aberth-diolch yn y Deml, ac yn ddiau wedi ei chyfansoddi ar gyfer hynny.
Nodiadau
1—3. Galwad i addoli Iehofa â chân a miwsig yn Ei Deml. Holl dir Israel a feddylir wrth “yr holl ddaear”. Ef a wnaeth Israel yn bobl briod iddo Ei hun. Y mae “A’i eiddo Ef ydym” yn well na “ac nid ni ein hunain”.
Ffigur cyffredin yn y Salmau ydyw Iehofa fel bugail Israel, Salm 23; 74:1; 79:13.
4, 5. Efallai mai ystyr “diolch” yn 5 ydyw aberth diolch. Prif byrth y Deml a feddylir, sef Porth y Gogledd, Porth y Dwyrain a Phorth y De.
Pan gysylltir ‘da’ â Duw, ei ystyr yw ‘caredig’.
Pynciau i’w Trafod:
1. Meddyliwch am brudd-der llawer o’n hemynau ni heddiw. Onid oes lle i fwy o emynau o natur y Salm hon?
2. Pa gyswllt sydd rhwng y dôn “Yr Hen Ganfed” ar Salm hon?
A ydych yn ystyried mydryddiad Edmwnd Prys or Salm hon yn un hapus (gwel Emyn 191 yn y Llawlyfr Moliant)?
Onid emynau o’r natur yma sydd fwyaf addas i addoliad cyhoeddus?
3. Pa bryd y ceir y nodyn gorfoleddus yn emynau yr Egilwys? Ai mewn cyfnod o ddiwygiad ynteu mewn cyfnod o drai?

Chwazi Kounye ya:

Salmau 100: SLV

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte