Salmau 91
91
SALM XCI
CYSGOD YR HOLLALLUOG.
1O mor hapus yw’r gŵr sydd a’i drigfan
Yn nirgelfa’r Goruchaf,
A’i lety yng nghysgod yr Hollalluog,
2Y gŵr a all ddywedyd am Iehofa, “Fy lloches,
A’m hamddiffynfa, fy Nuw yr ymddiriedaf ynddo”.
3Canys rhag magl yr heliwr y gwared Ef di,
Rhag y pydew dinistriol.
4Amddiffyn di â’i esgyll,
A chei loches dan ei adenydd.
5Ni raid i ti ofni rhag dychryn y nos,
Na rhag saeth a ehedo’r dydd,
6Na rhag y pla a rodio’n y tywyllwch,
Na rhag y dinistr a’r ysbryd drwg ar ganol dydd.
7Er i fil o ddynion syrthio wrth dy ochr,
A dengmil ar dy ddeheulaw:
Ni ddaw haint ar dy gyfyl di,
Canys tarian a mur cadarn yw Ei ffyddlondeb Ef.
8Ond i ti agor dy lygaid,
Ti a weli dâl yr annuwiol.
9Iehofa yw dy loches di,
Y Goruchaf a wnaethost yn gartref.
10Ni ddaw niwed ar dy gyfyl,
A phla ni ddaw’n agos at dy babell.
11Canys yng ngofal Ei angylion y dyry Ef di,
I’th gadw yn dy holl ffyrdd.
12Cynhaliant di ar gledr eu dwylo,
Rhag taro dy droed wrth garreg.
13Ar ymlusgiaid a seirff y sethri,
A llewod ieuainc a dreigiau a fethri.
14“Am iddo lynu’n serchus wrthyf, gwaredaf ef,
Am iddo adnabod Dy enw, dyrchafaf ef.
15Pan eilw arnaf gwaredaf ef, mewn ing byddaf gydag ef,
Achubaf ef ac anrhydeddaf ef.
16Digonaf ef â hir ddyddiau,
Diodaf ef â’m gwaredigaethau.”
salm xci
Y mae Deut. 32 ym meddwl y Salmydd hwn hefyd, ac efallai mai un awdur sydd i hon a’r Salm o’i blaen. Canwyd hi mewn dyddiau pan oedd bri mawr ar y cysegr yn Ieriwsalem a phan oedd heintiau arswydus yn brawychu’r bobl. Ar ôl y Gaethglud y daeth athrawiaeth angylion yn boblogaidd.
Nodiadau
1, 2. Ychwaneger ‘O mor hapus yw’r gŵr’. Y Deml a feddylir wrth “dirgelfa’r Goruchaf” a “cysgod yr Hollalluog”.
3, 4. Gwell symud brawddeg olaf adnod 4 a’i dodi ar ôl 7. Y mae ei heisiau yno, ac nid yw’n rhy esmwyth yma.
5, 6. Efallai mai ergyd yr haul a feddylir wrth ‘saeth’. Y mae sail dda i’r darlleniad “a’r ysbryd drwg ar ganol dydd”. I’r Hebrëwr ysbrydion drwg oedd achos pob afiechyd a haint, ac yr oedd y rhain yn fwy peryglus ar rai adegau na’i gilydd. Yr oedd eu dylanwad yn fwy dinistriol ar y plygain ac ar ganol dydd ac yn y nos, ac yr oedd rhai lleoedd hefyd yn fwy peryglus nag eraill.
7—9. Ni all heintiau beri niwed i ffyddloniaid Iehofa, y mae iddynt hwy amddiffyn yng nghanol y peryglon mwyaf. Un o erthyglau anwylaf cyffes ffydd yr Iddew oedd diogelwch y cyfiawn.
10, 11. — Credai’r Iddewon fod i bob dyn ddau angel gwarcheidiol, a rhoddai y rhain amddiffyn i’r ffyddlon.
12, 13. Defnyddiau Satan adn. 12 yn Nhemtiad yr Arglwydd Iesu (Math. 4:6 a Luc 4:10-11), ond pur wahanol ydyw’r amgylchiadau yno.
Rhaid wrth ddychymyg go fyw i ddychmygu neb yn sathru ar lewod, a mymryn o newid yn y gair Hebraeg a ddyry “ymlusgiaid”. Addewir awdurdod llwyr ar y pethau hyn i’r ffyddlon.
14—16. Nid y Salmydd sy’n llefaru yn y geiriau hyn ond Iehofa. Nid adnabod yr enw cyfrin a chudd “Iehofa” a feddylir, fe ddaeth adeg pan dybid bod y neb a wyddai yr enw yn meddu gallu arbennig yn rhinwedd hynny, ond yma y mae’r frawddeg yn gyfystyr ag addoli.
Pynciau i’w Trafod:
1. Ystyriwch y defnydd a wneir o’r Salm hon yn hanes temtiad Iesu.
2. Meddyliwch am ardderchog lu’r merthyri. Ni wireddwyd y Salm hon yn eu profiad hwy.
3. Pan ddigwyddo haint a roddir amddiffyn arbennig i grefyddwyr ffyddlon?
4. A ydyw ffydd gref yn Nuw yn rhoddi diogelwch i ddyn?
Chwazi Kounye ya:
Salmau 91: SLV
Pati Souliye
Pataje
Kopye

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.